- Yr oedd Matholwch, brenin Iwerddon, wedi dod i Harlech yn Ardudwy
- i ofyn i Bendigeidfran, brenin Ynys y Cedyrn, a gâi briodi’r Gymraes,
- Branwen, chwaer Bendigeidfran. Priodas wleidyddol fyddai hon, gyda’r
- bwriad o gadarnhau’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad drwy briodi
- brenin un wlad â chwaer brenin y wlad arall. Caniatawyd hynny iddo,
- a mawr oedd y llawenydd.
- A'r gyuedach a dechreussant. Dilit y gyuedach a wnaethant ac ymdidan.
- A phan welsant uot yn well udunt kymryt hun no dilyt kyuedach, y
- gyscu yd aethant. A'r nos honno y kyscwys Matholwch gan Uranwen. A
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘A phan welsant ei bod yn well iddynt fynd i gysgu na pharhau â’r gwledda, aethant i gysgu.’
Gellid dadlau nad yw’r frawddeg hon yn ychwanegu dim at y stori. Ond rhaid cofio mai chwedl â’i gwreiddiau yn y traddodiad llafar sydd gennym yma. Mae’r storïwr llafar yn tueddu i fân-siarad trwy bob ysbaid yn ei naratif gan lenwi’r bylchau rhwng yr episodau cyffrous bron yn ddi-ffael, fel petai am gael hoe fach bob hyn a hyn ac eistedd yn ôl i ymlacio, i feddwl efallai beth sy’n dod nesaf. Gwelir yr un patrwm mewn rhai o’r ceinciau eraill – y storïwr yn cyfeirio at y gwledda, at fynd i gysgu, ac yna at ‘trannoeth’. Dyma ffordd hefyd o osod ffin glir rhwng un episod a’r un nesaf, ac arwydd clir i’r gynulleidfa fod rhywbeth newydd yn mynd i ddigwydd.
- thrannoeth, kyuodi a orugant pawb o niuer y llys; a'r swydwyr a dechreusant
- ymaruar am rannyat y meirych a'r gweisson. Ac eu rannu a wnaethant ym
- pob kyueir hyt y mor. Ac ar hynny dydgueith, nachaf Efnyss[y]en [y] gwr
- anagneuedus a dywedassam uchot, yn dywanu y lety meirch Matholwch, a
- gouyn a wnaeth, pioed y meirch.
×Ystyr brawddeg gyfan: Ac ar hynny, wele Efnysien, y gŵr anheddychlon y dywedasom amdano uchod, yn taro ar lety meirch Matholwch, a gofyn a wnaeth pwy oedd biau y meirch.
- ‘Meirych Matholwch brenhin Iwerdon yw y rei hyn,’ heb wy.
- ‘Beth a wnant wy yna?’ heb ef.
- ‘Yma y mae brenhin Iwerdon, ac yr gyscwys gan Uranwen dy chwaer,
- a'y ueirych yw y rei hynn.’
- ‘Ay yuelly y gwnaethant wy am uorwyn kystal a honno, ac yn chwaer y
- minheu, y rodi heb uyghanyat i? Ny ellynt wy tremic uwy arnaf i,’ heb ef.
- Ac yn hynny guan y dan y meirych, a thorri y guefleu wrth y danned
- udunt, a'r clusteu wrth y penneu, a'r rawn wrth y keuyn; ac ny caei graf ar
- yr amranneu, eu llad wrth yr ascwrn. A gwneuthur anfuryf ar y meirych
- yuelly, hyd nat oed rym a ellit a'r meirych.
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Ac ar hynny, ymosododd ar y meirch, a thorri eu gwefusau hyd at eu dannedd a’r clustiau hyd at eu pennau a’r gynffon hyd at eu cefn; ac yn y lle y câi afael ar yr amrannau, eu torri hyd at yr asgwrn.’
- E chwedyl a doeth at Uatholwch. Sef ual y doeth, dywedut anfuruaw y
- ueirych ac eu llygru, hyt nat oed un mwynyant a ellit o honunt.
- ‘Ie, Arglwyd,’ heb un, ‘dy waradwydaw yr a wnaethpwyt, a hynny a
- uynhir y wneuthur a thi.’
- ‘Dioer, eres genhyf, os uy gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn
- gystal, kyuurd, gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym.’
- ‘Arglwyd,’ heb un arall, ‘ti a wely dangos, [os] ef. Ac nyt oes it a wnelych,
- namyn kyrchu dy longeu.’ Ac ar hynny arouun y longeu a wnaeth ef.
- E chwedyl a doeth at Uendigeituran, bot Matholwch yn adaw y llys, heb
- ouyn, heb ganhyat. A chenadeu a aeth y ouyn idaw, paham oed hynny. Sef
- kennadeu a aeth, Idig uab Anarawc, ac Eueyd Hir. Y guyr hynny a'y
- godiwawd, ac a ouynyssant idaw, pa darpar oed yr eidaw, a pha achaws yd
- oed yn mynet e ymdeith.
- ‘Dioer,’ heb ynteu, ‘pei ys gwypwn, ny down yma. Cwbyl waradwyd a geueis.
- Ac ny duc neb kyrch waeth no'r dugum ymma. A reuedawt rygyueryw a mi.’
- ‘Beth yw hynny?’ heb wynt.
- ‘Rodi Branwen uerch Lyr ym, yn tryded prif rieni yr ynys honn, ac yn
- uerch y urenhin Ynys y Kedeyrn, a chyscu genthi, a gwedy hynny uy
- gwaradwydaw. A ryued oed genhyf, nat kyn rodi morwyn gystal a honno
- ym, y gwneit y gwaradwyd a wnelit ym.’
- ‘Dioer, Arglwyd, nyt o uod y neb a uedei y llys,’ heb wynt, ‘na neb o'e
- kynghor y gwnaet[h]pwyt y gwaradwyd hwnnw yt. A chyt bo gwaradwyd
- gennyt ti hynny, mwy yw gan Uendigeituran no chenyt ti, y tremic hwnnw
- a'r guare.’
- ‘Ie,’ heb ef, ‘mi a tebygaf. Ac eissoes ni eill ef uy niwaradwydaw i o hynny.’
- E gwyr hynny a ymchwelwys a'r atteb hwnnw, parth a'r lle yd oed
- Uendigeituran, a menegi idaw yr atteb a diwedyssei Uatholwch.
- ‘Ie,’ heb ynteu, ‘nyt oes ymwaret [o]e uynet ef yn anygneuedus, ac nys
- gadwn.’
- ‘Ie, Arglwyd,’ heb wy, ‘anuon etwa genhadeu yn y ol.’
- ‘Anuonaf,’ heb ef. ‘Kyuodwch, Uanawydan uab Llyr, ac Eueyd Hir, ac
- Unic Glew Yscwyd, ac ewch yn y ol,’ heb ef, ‘a menegwch idaw, ef a geif march
- iach am pob un o'r a lygrwyt; ac y gyt a hynny, ef a geif yn wynepwerth idaw,
- llathen aryant a uo kyuref [a'e uys bychan] a chyhyt ac ef e hun, a chlawr
- eur kyflet a'y wyneb; a menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny, a phan
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘fe gaiff yn iawndal iddo wialen arian mor drwchus â’i fys bach a chyhyd ag ef ei hun a phlât aur mor llydan â’i wyneb.’
- yw o'm anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may brawt un uam a mi a
- wnaeth hynny, ac nat hawd genhyf i na'e lad na'e diuetha; a doet y
- ymwelet a mi,’ heb ef, ‘a mi a wnaf y dangneued ar y llun y mynho e hun.’
- E kennadeu a aethant ar ol Matholwch, ac a uanagyssant idaw yr
- ymadrawd hwnnw yn garedic, ac ef a'e guerendewis.
- ‘A wyr,’ heb ef, ‘ ni a gymerwn gynghor.’ Ef a aeth yn y gynghor; sef
- kynghor a uedylyssant: os gwrthot hynny a wnelynt, bot yn tebygach
- ganthunt cael kywilid a uei uwy, no chael iawn a uei uwy. A disgynnu a
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Cymerodd gyngor; dyma’r penderfyniad: pe byddent yn gwrthod hynny, byddent yn fwy tebygol o gael mwy o warth na mwy o iawn.’
- wnaeth ar gymryt hynny. Ac y'r llys y deuthant yn dangneuedus. A
- chyweiraw y pebylleu a'r palleu a wnaethant udunt ar ureint kyweirdeb
- yneuad, a mynet y uwyta. Ac ual y dechreuyssant eisted ar dechreu y wled,
- yd eistedyssant yna.
- A dechreu ymdidan a wnaeth Matholwch a Bendigeituran. Ac nachaf
- yn ardiawc gan Uendigeituran yr ymdidan, ac yn drist, a gaei gan
- Uatholwch, a'y lywenyt yn wastat kyn no hynny. A medylyaw a wnaeth,
- bot yn athrist gan yr unben uychanet a gawssei o iawn am y gam.
- ‘A wr,’ heb y Bendigeiduran, ‘nit wyt gystal ymdidanwr heno ac un nos.
- Ac os yr bychanet genhyt ti dy iawn, ti a gehy ychwanegu yt wrth dy
- uynnu, ac auory talu dy ueirch yt.’
- ‘Arglwyd,’ heb ef, ‘Duw a dalo yt.’
- ‘Mi a delediwaf dy iawn heuyt yt,’ heb y Bendigeituran. ‘Mi a rodaf yt
- peir; a chynnedyf y peir yw, y gwr a lader hediw yt, y uwrw yn y peir, ac
- erbyn auory y uot yn gystal ac y bu oreu, eithyr na byd llyueryd ganthaw.’
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Rhoddaf iti bair; a hynodrwydd y pair yw hyn – os wyt ti’n taflu i’r pair un o dy wŷr sy’n cael ei ladd heddiw, yna erbyn yfory fe fydd cystal ag y bu ar ei orau, ond ni fydd yn gallu siarad’
- A diolwch a wnaeth ynteu hynny, a diruawr lywenyd a gymerth ynteu
- o'r achaws hwnnw. A thrannoeth y talwyt y ueirych idaw, tra barhawd
- meirych dof. Ac odyna y kyrchwyt ac ef kymwt arall, ac y talwyt ebolyon
- ydaw, yny uu gwbyl idaw y dal. Ac wrth hynny y dodet ar y kymwt
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Ac oddi yno aethpwyd ag ef i gwmwd arall a thalwyd ebolion iddo nes bod ei daliad yn gyflawn.’
- hwnnw, o hynny allan, Tal Ebolyon.
- Fe ddychwelodd y brenin a’i arglwyddes i Iwerddon a chael croeso brwd.
- Ymhen y flwyddyn ganwyd mab iddynt, Gwern fab Matholwch. Ond yn
- fuan wedyn, newidiodd yr hinsawdd gwleidyddol.
- A hynny yn yr eil ulwydyn, llyma ymodwrd yn Iwerdon am y guaradwyd a
- gawssei Matholwch yg Kymry, a'r somm a wnathoedit idaw am y ueirch. A
- hynny y urodyr maeth, a'r gwyr nessaf gantaw, yn lliwaw idaw hynny, a
- heb y gelu. A nachaf y dygyuor yn Iwerdon hyt nat oed lonyd idaw ony
- chaei dial y sarahet. Sef dial a wnaethant, gyrru Branwen o un ystauell ac ef,
- a'y chymell y bobi yn y llys, a pheri y'r kygyd, gwedy bei yn dryllyaw kic,
- dyuot idi a tharaw bonclust arnei beunyd. Ac yuelly y gwnaethpwyt y foen.
- ‘Ie, Arglwyd,’ heb y wyr wrth Uatholwch, ‘par weithon wahard y
- llongeu, a'r yscraffeu, a'r corygeu, ual nat el neb y Gymry; ac a del yma o
- Gymry, carchara wynt ac na at trachefyn, rac gwybot hynn.’ Ac ar hynny y
- diskynyssant.
- Blwynyded nit llei no their y buant yuelly. Ac yn hynny, meithryn
- ederyn drydwen a wnaeth hitheu ar dal y noe gyt a hi, a dyscu ieith idi, a
- menegi y'r ederyn y ryw wr oed y brawt. A dwyn llythyr y poeneu a'r
- amharch a oed arnei hitheu. A'r llythyr a rwymwyt am uon eskyll yr
- ederyn, a'y anuon parth a Chymry. A'r ederyn a doeth y'r ynys honn. Sef
- lle y cauas Uendigeiduran, yg Kaer Seint yn Aruon, yn dadleu idaw
- dydgweith. A diskynnu ar e yscwyd, a garwhau y phluf, yny arganuuwyt y
llythyr, ac adnabot meithryn yr ederynBranwen yn hyfforddi'r drudwy o'r llyfr 'Lady Charlotte Guest's Mabinogion'
- yg kyuanned. Ac yna kymryt y llythyr
- a'y edrych. A phan darllewyt y llythyr,
- doluryaw a wnaeth o glybot y poen oed
- ar Uranwen, a dechreu o'r lle hwnnw
- peri anuon kennadeu y dygyuoryaw yr
- ynys honn y gyt...
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘A phan ddarllenwyd y llythyr, pryderu a wnaeth o glywed am y gosb a oedd ar Branwen/am y ffordd yr oedd Branwen yn cael ei chosbi, ac yn y fan a’r lle dechreuodd drefnu bod negeswyr yn cael eu hanfon i gasglu milwyr yr ynys hon ynghyd...’
- A meicheit Matholwch a oedynt ar lan y weilgi dydgueith, yn troi yg kylch
- eu moch. Ac o achaws e dremynt a welsant ar y weilgi, wy a doethant at
- Matholwch.
- ‘Arglwyd,’ heb vy, ‘ henpych guell.’
- ‘ Duw a rodo da ywch,’ heb ef, ‘ a chwedleu genhwch?’
- ‘Arglwyd,’ heb wy, ‘mae genhym ni chwedleu ryued; coet rywelsom ar y
- weilgi, yn y lle ny welsam eiryoet un prenn.’
- ‘ Llyna beth eres,’ heb ef. ‘A welewch chwi dim namyn hynny?’
- ‘Gwelem, Arglwyd,’ heb wy, ‘mynyd mawr gyr llaw y coet, a hwnnw ar
- gerdet; ac eskeir aruchel ar y mynyd, a llynn o pop parth y'r eskeir; a'r coet,
- a'r mynyd, a phob peth oll o hynny ar gerdet.’
- ‘Ie,’ heb ynteu, ‘ nyt oes neb yma a wypo dim y wrth hynny, onys gwyr
- Branwen. Gouynnwch idi.’
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘‘Ie,’ meddai yntau, ‘nid oes neb yma a all wybod unrhyw beth am hynny os nad yw Branwen yn gwybod rhywbeth. Gofynnwch iddi.’’
- Kennadeu a aeth at Uranwen. ‘Arglwydes,’ heb wy, ‘beth dybygy di yw
- hynny?’
- ‘ Kyn ny bwyf arglwydes,’ heb hi, ‘mi a wnn beth yw hynny. Gwyr Ynys
- y Kedyrn yn dyuot drwod o glybot uym poen a'm amharch."
- ‘Beth yw y coet a welat ar y mor?’ heb wy.
- ‘ Gwernenni llongeu, a hwylbrenni,’ heb hi.
- ‘Och!’ heb wy, ‘beth oed y mynyd a welit gan ystlys y llongeu?’
- ‘ Bendigeiduran uym brawt,’ heb hi, ‘oed hwnnw, yn dyuot y ueis. Nyd
- oed long y kynghanei ef yndi.’
- ‘Beth oed yr eskeir aruchel a'r llynn o bop parth y'r eskeir?’
- ‘Ef,’ heb hi, ‘yn edrych ar yr ynys honn, llidyawc yw. Y deu lygat ef o
- pop parth y drwyn yw y dwy lynn o bop parth y'r eskeir.’
- Ac yna dygyuor holl wyr ymlad Iwerdon a wnaethpwyt y gyt, a'r holl
- uorbennyd yn gyflym, a chynghor a gymerwyt.
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Ac yna galwyd ynghyd holl filwyr Iwerddon, a’r holl benrhynnau yn gyflym, a chymerwyd cyngor.’
- 'Arglwyd,' heb y wyrda wrth Uatholwch, 'nyt oes gynghor namyn
- kilyaw drwy Linon (auon oed yn Iwerdon), a gadu Llinon y rot ac ef, a
- thorri y bont yssyd ar yr auon. A mein sugyn yssyd ygwaelawt yr auon, ny
- eill na llong na llestyr arnei.' Wynt a gylyssant drwy yr auon, ac a
- torryssant y bont.
- Bendigeiduran a doeth y'r tir, a llynghes y gyt ac ef, parth a glann yr auon.
- ‘Arglwyd,’ heb y wyrda, ‘ti a wdost kynnedyf yr auon, ny eill neb uynet
- drwydi, nyt oes bont arnei hitheu. Mae dy gynghor am bont?’ heb wy.
- ‘Nit oes,’ heb ynteu, ‘namyn a uo penn bit pont. Mi a uydaf pont’, heb
- ef. Ac yna gyntaf y dywetpwyt y geir hwnnw, ac y diharebir etwa ohonaw.
- Dymunai Branwen gymod rhwng ei brawd a’i gŵr, a phenderfynwyd
- anrhydeddu Bendigeidfran drwy godi tŷ iddo gan nad oedd Bendigeidfran,
- oherwydd ei faint, erioed wedi medru cael tŷ a oedd yn ddigon mawr
- i’w gynnwys. Adeiladwyd y tŷ iddo, ond ar bob un o’i gan colofn
- rhoddodd y Gwyddelod filwr i guddio mewn sach o groen, yn barod i
- ddistrywio’r Cymry pan ddeuent i’r wledd a oedd i’w chynnal yno.
- Efnisien oedd yr un a ddarganfu’r twyll, a gwasgodd bennau’r milwyr
- nes bod ei fysedd yn suddo i mewn i’w hymennydd drwy’r asgwrn.
- Cymodwyd y ddwy wlad drwy ddadurddo Matholwch ac estyn y
- frenhiniaeth i’w fab ifanc, Gwern. Gan fod Gwern yn symbol o’r uniad
- rhwng Matholwch a Branwen yr oedd Efnisien wedi ei wrthwynebu
- mor daer, taflodd Efnisien Gwern i’r tân a dechreuodd pawb drwy’r tŷ
- ailafael yn yr ymladd.
- Ac yna y dechrewis y Gwydyl kynneu tan dan y peir dadeni. Ac yna y
- byrywyt y kalaned yn y peir, yny uei yn llawn, ac y kyuodyn tranoeth y
- bore yn wyr ymlad kystal a chynt, eithyr na ellynt dywedut. Ac yna pan
- welas Efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr Ynys y Kedyrn, y dywot
- yn y uedwl, ‘Oy a Duw,’ heb ef, ‘guae ui uy mot yn achaws y'r wydwic honn
- o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi,’ heb ef, ‘ ony cheissaf i waret rac hynn.’
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Ac yna pan welodd Efnysien y cyrff meirw heb fod lle i wŷr Ynys y Cedyrn yn unman, fe ddywedodd yn ei feddwl, ‘O Dduw,’ meddai ef, ‘gwae fi fy mod yn achos y pentwr hwn o wŷr Ynys y Cedyrn, a chywilydd arnaf,’ meddai ef, ‘os na cheisiaf i waredigaeth rhag hyn.’’
- Ac ymedyryaw ymlith calaned y Gwydyl, a dyuot deu Wydel uonllwm
- idaw, a'y uwrw yn y peir yn rith Gwydel. Emystynnu idaw ynteu yn y peir,
- yny dyrr y peir yn pedwar dryll, ac yny dyrr y galon ynteu. Ac o hynny y
- bu y meint goruot a uu y wyr Ynys y Kedyrn. Ny bu oruot o hynny eithyr
- diang seithwyr, a brathu Bendigeiduran yn y troet a guenwynwaew.
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘Ni bu buddugoliaeth yn hynny o beth chwaith ond bod saith gŵr wedi dianc a bod Bendigeidfran wedi’i glwyfo yn ei droed â gwaywffon wenwynig.’
- Sef seithwyr a dienghis, Pryderi, Manawydan, Gliuieu eil Taran,
- Talyessin, ac Ynawc, Grudyeu uab Muryel, Heilyn uab Gwyn Hen.
- Ac yna y peris Bendigeiduran llad y benn. ‘A chymerwch chwi y penn,’
- heb ef, ‘a dygwch hyt y Gwynuryn yn Llundein, a chledwch a'y wyneb ar
- Freinc ef. A chwi a uydwch ar y ford yn hir; yn Hardlech y bydwch seith
- mlyned ar ginyaw, ac Adar Riannon yn canu ywch. A'r penn a uyd kystal
- gennwch y gedymdeithas ac y bu oreu gennwch, ban uu arnaf i eiryoet. Ac
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘A bydd y pen cystal cwmni ichi ag yr oedd erioed ar ei orau pan oedd arnaf i.’
- y Guales ym Penuro y bydwch pedwarugeint mlyned. Ac yny agoroch y
- drws parth ac Aber Henuelen, y tu ar Gernyw, y gellwch uot yno a'r penn
- yn dilwgyr genhwch. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw, ny ellwch uot yno.
×Ystyr brawddeg gyfan: ‘A gallwch fod yno a’r pen gyda chi heb bydru hyd nes ichi agor y drws tuag Aber Henfelen i gyfeiriad Cernyw.’
- Kyrchwch Lundein y gladu y penn. A chyrchwch chwi racoch drwod.’
×Ystyr brawddeg gyfan o linell: ‘Ac o’r amser yr agorwch y drws hwnnw, ni ellwch aros yno. Ewch i Lundain i gladdu’r pen. Ac ewch yn eich blaenau dros y môr.’
- Ac yna y llas y benn ef, ac y kychwynassant a'r penn gantu drwod, y
- seithwyr hynn, a Branwen yn wythuet. Ac y Aber Alau yn Talebolyon y
doethant y'r tir. Ac yna eisted aLlun o'r wrn yn cynnwys llwch a gweddillion esgyrn a ddarganfuwyd ar lan Afon Alaw. Cysylltwyd y rhain â Branwen gan rai, a daethpwyd i adnabod y llecyn fel Bedd Branwen. Daw'r llun o lyfr 'Lady Charlotte Guest's Mabinogion'.
- wnaethant, a gorfowys. Edrych
- oheni hitheu ar Iwerdon, ac ar
- Ynys y Kedyrn, a welei ohonunt.
- ‘Oy a uab Duw,’ heb hi, ‘ guae
- ui o'm ganedigaeth. Da a dwy
- ynys a diffeithwyt o'm achaws i.’
- A dodi ucheneit uawr, a thorri
- y chalon ar hynny. A gwneuthur
- bed petrual idi, a'e chladu yno
- yglan Alaw.