Cyn edrych ar gymeriad Branwen, dylid oedi i drafod teitl y chwedl gan ei fod yn lliwio ein darlleniad yn aml. Mewn testunau canoloesol ni cheir teitlau soffistigedig ar chwedlau, yn wahanol i nofelau cyfoes fel Un Nos Ola Leuad, O! tyn y gorchudd neu Dan Gadarn Goncrit. Yn wir, mewn llawysgrifau yn aml ni cheir teitlau o gwbl. Y cwestiwn felly yw pa deitl neu label i’w roi wrth drafod testun sydd heb deitl yn y traddodiad llawysgrifol. Yn achos hanes Branwen, ymgorfforir rhyw fath o deitl cyffredinol ar ddiwedd y chwedl yn fersiwn Llyfr Gwyn Rhydderch:
A llyna ual y teruyna y geing honn o’r Mabinyogi...
Ac ar ddechrau’r chwedl yn fersiwn Llyfr Coch Hergest:
llyma yr eil geinc or mabinogi
‘Cainc o’r Mabinogi’ neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’ felly sydd yn y llawysgrifau, a hynny’n atgyfnerthu perthynas y chwedl â’r ceinciau eraill – mae hi’n rhan o gyfanwaith. O ble felly y daeth y teitl Branwen?
Ymddengys mai’r Arglwyddes Charlotte Guest oedd y cyntaf i roi’r teitl hwn ar yr ail gainc, a hynny yn ei chyfieithiad i’r Saesneg yn y 19eg ganrif. Yn hytrach na defnyddio’r labelau a welir yn y llawysgrifau, penderfynodd ddefnyddio enwau’r cymeriadau yn deitlau: Pwyll Prince of Dyved; Manawyddan the son of Llyr; Math the son of Mathonwy. A’r teitl a fathodd ar gyfer yr ail gainc oedd Branwen the daughter of Llyr. Cyn i’w chyfieithiad ymddangos, Brân neu Mabinogi Bendigeidfran oedd teitl yr ail gainc ymysg ysgolheigion wrth drafod y testunau hyn – y cymeriad gwrywaidd, y brenin, oedd yn ganolog i’r gainc. Gellid dadlau, felly, bod Charlotte Guest wedi mynd ati’n fwriadol i newid y teitl gan roi mwy o sylw i gymeriad Branwen efallai nag a fwriadodd yr awdur yn wreiddiol. Yn wir, gellid dadlau mai dyma’r darlleniad ffeministaidd cyntaf o’r chwedl. Wrth edrych ar nodiadau Guest, gwelwn fod Branwen wedi cipio’i dychymyg, ac yn arbennig yr hanes am ‘ddarganfod’ bedd Branwen yn 1813. Yn wir, tybed a oedd Guest yn cydymdeimlo â Branwen? Bu rhaid iddi, fel Branwen, adael ei gwlad (sef Lloegr) am wlad estron yn dilyn ei phriodas â John Guest, perchennog Gwaith Haearn Dowlais. Daeth i fyw i Ddowlais ger Merthyr Tudful yn 1833. Yr oedd Guest yn hapus yno, ond nid yn Sully lle’r oedd ei gŵr wedi prynu tŷ ger lan y môr. I ddweud y gwir, yr oedd yn casáu’r lle:
At dusk I went out and walked upon the beach. It was quite hushed and the tide came in very quietly. The light was gleaming from the flat Holmes – all seemed very melancholy. An old man was embarking with all his furniture in a small boat, just below our windows, to go to England! I felt almost inclined to wish I were going there too. The change to me from Dowlais to this place is dreadful. [24 Tachwedd, 1840]
Yr oedd yn cyfieithu stori Branwen ymhen dau fis. Gellid dadlau bod newid y teitl o Bendigeidfran i Branwen yn ymdrech bwriadol ar ei rhan – aeth yn erbyn trefn ysgolheigion gwrywaidd y cyfnod. Trwy wneud hynny sicrhaodd bod llais y ferch i’w glywed yn ail gainc y Mabinogi. Mae’n bwysig ein bod yn cofio, felly, wrth ddarllen y chwedl, nad yr awdur ei hun a roddodd y teitl Branwen i’r chwedl ond yn hytrach gwraig o gyfnod Oes Fictoria a aeth ati i gyhoeddi y cyfieithiad Saesneg cyntaf o chwedlau’r Mabinogion.
Cymeriad goddefol yw Branwen ar ddechrau’r gainc – mae'n cael ei rhoi gan ei thylwyth i Fatholwch am resymau gwleidyddol gan dderbyn penderfyniad ei brawd yn ddi-gwestiwn. Gwrthrych ydyw, felly, mewn gêm boliticaidd. Yn ôl Cyfraith Hywel Dda, yr oedd tri math o uniad yn bosibl rhwng gŵr a merch – uniad trwy ‘rodd cenedl’, hynny yw pan roddwyd morwyn (Saesneg virgin) gan ei theulu i’w gŵr; ‘llathludd’, pan fyddai'r ferch yn mynd heb ganiatâd ei theulu; a ‘thrais’, pan gâi merch ei threisio yn erbyn ei hewyllys. Rhoddid gwerth mawr ar gadw purdeb merch cyn iddi briodi ac ar ddiogelu ei henw da wedi’r briodas neu’r uniad. Nid oedd gwerth i’r ferch os nad oedd hi'n wyryf cyn priodi, ac roedd rhaid i’w theulu dystio drosti. Ond unwaith iddi briodi, disgwylid iddi feichiogi a chynhyrchu etifedd er mwyn parhau’r llinach.
Portreadir Branwen fel y ferch ddelfrydol. Hi yw’r ferch harddaf yn y byd yn ôl y testun – ‘teccaf morwyn yn y byt’ – a’r gair ‘morwyn’ yn cyfeirio at ei gwyryfdod a’i phurdeb. Mae’n rhoi mab i’w gŵr o fewn blwyddyn; mae’n ennill clod am ei haelioni; mae hefyd yn rhoi cyngor doeth i’w brawd Bendigeidfran a hynny er mwyn cynnal yr heddwch rhwng gwŷr Ynys y Cedyrn a’r Gwyddelod. Dyma’r rhinweddau a ddisgwylid mewn arglwyddes neu uchelwraig, yn ôl Gramadegau’r Penceirddiaid:
Gwreigdda o arglwyddes neu uchelwraig a folir o bryd a gwedd, a
thegwch, ac addfwynder, a digrifwch a haelioni, a lledneisrwydd, a
doethineb, a chymhendod, a diweirdeb, a thegwch pryd a gwedd,
a disymlder ymadroddion, a phethau eraill ardderchog addfwyn canmoladwy.
Sylwch na chawn ddisgrifiad manwl o’i hymddangosiad corfforol; yn hytrach, pwysleisir ei rhinweddau a’i hymddygiad cymdeithasol gweddus.
Wedi i Branwen gyflawni ei dyletswydd a rhoi genedigaeth i fab, hynny yw wedi iddi sicrhau etifedd i goron Iwerddon, mae gwŷr Matholwch yn mynnu dial arni a’i chosbi am weithred ei hanner brawd. Mae’n colli ei statws yn y llys ac yn cael ei gorfodi i bobi yn y gegin; ac yn waeth na hynny – daw’r cigydd gyda’i ddwylo gwaedlyd i roi bonclust iddi bob dydd. Sylwch ar ei dyfalbarhad wrth ymateb i’r sefyllfa:
Blwynyded nit llei no their y buant yuelly.
a’r ffordd ofalus y mae'n mynd ati i feithrin y drudwy gan siarad â’r aderyn a’i anfon dros y môr gyda neges at ei brawd. Mae’n ymddwyn mewn ffordd ddyfeisgar, ond trwy wneud hynny mae’n peri rhyfel rhwng Ynys y Cedyrn ac Iwerddon. Sylwch ar ei hymateb craff wrth i negeseuwyr Matholwch ei chyfarch fel ‘arglwyddes’ a gofyn iddi beth yw’r olygfa ryfedd sydd i’w weld ar y môr:
‘Kyn ny bwyf arglwyddes,’ heb hi, ‘mi a wnn beth yw hynny. Gwyr Ynys y Kedyrn yn dyuot drwod o glybot uym poen a’m amharch.
Mae’r geiriau ‘Er nad wyf yn arglwyddes neu ‘Er na chaf fy nhrin fel arglwyddes’ yn tanlinellu nad yw’r Gwyddelod bellach yn ei thrin gydag urddas a pharch. Dyma’r geiriau cyntaf y mae Branwen yn eu hynganu yn y chwedl, sydd yn eironig o gofio mai ei statws fel arglwyddes a ddenodd Matholwch ati yn y lle cyntaf.
Yn ôl traethawd canoloesol ar Gyfraith Gwragedd, yr oedd safle’r ferch yn dibynnu’n llwyr ar ei chysylltiadau ag aelodau gwrywaidd o’i thylwyth. Er enghraifft, yr oedd ei ‘galanas’, cyn ac wedi iddi briodi, yn hanner galanas ei brawd; ei ‘sarhaed’ yn hanner sarhad ei brawd cyn iddi briodi ond yn draean sarhad ei gŵr wedi iddi briodi. Mae'r ddau dâl hyn yn adlewyrchu natur ddeublyg cysylltiadau teuluol gwraig briod yn y cyfnod. Nid yw byth yn llwyddo i integreiddio'n llawn i deulu ei gŵr. Daw hyn yn glir yn achos Branwen ar ddiwedd y chwedl; rydym yn ei gweld yn cael ei thynnu rhwng dau deulu gan ymdrechu, yn ofer, i heddychu rhwng y Gwyddelod (tylwyth ei gŵr) a gwŷr Ynys y Cedyrn (tylwyth ei brodyr). Gwelir ei theyrngarwch i’r Gwyddelod hyd yn oed ar ôl iddynt ei chosbi mor greulon – mae bellach yn perthyn i ddwy wlad ac i ddau dylwyth, a’i mab yn symbol o’r uniad hwnnw. Daw ei greddf fel mam i’r amlwg yn glir wrth iddi weld ei hanner brawd yn taflu Gwern i’r tân, a rhaid i Bendigeidfran ei rhwystro rhag ei ddilyn i’r fflamau. Er mai Efnysien sydd yn gyfrifol am y gyflafan, Branwen sydd yn cymryd y bai. Cyn torri ei chalon, yn llythrennol, ar lan afon Alaw, mae’n siarad am yr eilwaith:
‘Oy a uab Duw,’ heb hi, ‘guae ui o’m ganedigaeth. Da a dwy ynys a diffeithwyt o’m achaws i.’
gan adleisio geiriau Efnysien cyn iddo daflu ei hun i’r pair. Yn ei marwolaeth mae’n dawel ac urddasol, fel yn ei bywyd.