Cyd-destun hanesyddol

Blaenddalen cyfrol yr Arglwyddes Charlotte Guest

Fel y dywedwyd, nid oes teitl i’r chwedl hon yn Llyfr Gwyn Rhydderch; nid oes ychwaith deitl i Pedair Cainc y Mabinogi fel cyfanwaith yn y llawysgrif. Nid oedd hyn yn anarferol yn yr Oesoedd Canol, yn wahanol i heddiw lle cawn deitlau soffistigedig iawn yn aml ar nofelau, er enghraifft, a hynny’n gymorth i farchnata’r cyhoeddiad. Wedi dweud hynny, mae pob cainc yn gorffen gydag amrywiad ar y frawddeg ‘A llyna ual y teruyna y geing honn o’r Mabinyogi’ (‘A dyna sut y terfyna y gainc hon o’r Mabinogi’). Mae’n amlwg, felly, fod y pedair yn perthyn i’w gilydd, yn ‘geinciau’ o’r un ‘mabinogi’, ond mae union natur y berthynas rhyngddynt wedi arwain at sawl dehongliad gwahanol ymysg ysgolheigion, a llawer yn dibynnu ar union ystyr y gair ‘mabinogi’. Mae’n amlwg yn cynnwys yr elfen ‘mab’ (Saesneg son neu boy) sydd wedi arwain rhai i ddadlau mai straeon ar gyfer bechgyn oedd y rhain yn wreiddiol, neu straeon a oedd yn cael eu hadrodd gan storïwyr ifainc. Ond y consensws bellach yw mai ystyr gwreiddiol ‘mabinogi’ oedd ‘ieuenctid’ neu ‘hanes ieuenctid’, a datblygodd i olygu dim mwy na ‘stori’ neu ‘chwedl’. O safbwynt teitl yr ail gainc, mae’n ymddangos mai’r Arglwyddes Charlotte Guest oedd y gyntaf i ddefnyddio Branwen, a hynny yn ei chyfieithiad Saesneg o’r chwedl yn y 19eg ganrif. Gan nad oes teitlau i unrhyw un o’r ceinciau penderfynodd, er hwylustod, ddefnyddio enwau’r prif gymeriadau fel rhyw fath o label: Pwyll Prince of Dyved; Manawyddan the son of Llyr; Math the son of Mathonwy. A’r teitl a fathodd ar gyfer yr ail gainc oedd Branwen the daughter of Llyr. Cyn i’w chyfieithiad ymddangos, Brân neu Mabinogi Bendigeidfran oedd teitl yr ail gainc ymysg ysgolheigion wrth drafod y testunau hyn. Gellid dadlau, felly, bod Charlotte Guest wedi mynd ati’n fwriadol i newid y teitl gan roi mwy o sylw i gymeriad Branwen efallai nag a fwriadodd yr awdur yn wreiddiol (am ragor o fanylion, gweler o dan Cymeriadau). Mae gennym berffaith hawl, felly, i ymwrthod â’r teitl hwn.

Charlotte Guest hefyd sy’n gyfrifol am boblogeiddio’r teitl Mabinogion ar y casgliad o un ar ddeg o chwedlau Cymraeg canoloesol, sydd yn cynnwys Pedair Cainc y Mabinogi. Mae’n debyg mai gwall copïo yn y llawysgrif yw’r gair ‘mabinogion’ – ‘mabinogi’ sydd yn gywir. Ond pan aeth Guest ati i gyhoeddi ei chyfieithiad Saesneg o’r un ar ddeg chwedl, roedd angen rhyw deitl ambarél arni i ddisgrifio’r casgliad. Gan fod ‘mabinogion’ yn edrych fel enw lluosog (mae’r terfyniad -ion yn derfyniad lluosog cyffredin yn y Gymraeg, er enghraifft ‘dyn/dynion’), dewisodd hwnnw. Wrth i’w chyfieithiad gael ei ailgyhoeddi dro ar ôl tro, fe sefydlwyd y teitl ac mae bellach wedi ennill ei blwyf ac yn ffordd hwylus iawn o gyfeirio at y chwedlau canoloesol hyn. Ond rhaid cofio mai label yn unig yw Mabinogion – mae’r un chwedl ar ddeg yn amrywio o safbwynt dyddiad, awduraeth, ffynonellau, cynnwys, strwythur ac arddull.