Crefft y cyfarwydd

Trwy ganiatâd Brett Breckon a Gwasg Gomer

Mae ailadrodd digwyddiadau, gan ddibynnu i raddau helaeth ar ailadrodd geiriau, yn nodwedd arall sy’n gysylltiedig â’r cof ac yn gyffredin iawn mewn chwedlau llafar – mae’n sicrhau bod y gwrandäwr wedi deall ac yn gymorth hefyd os yw’r storïwr am dynnu sylw at rywbeth penodol. Cawn enghraifft o hyn yn Branwen pan yw meichiaid Matholwch yn disgrifio’r olygfa ar y môr iddo, ac yna’n ei disgrifio eto i Branwen a hithau’n cynnig atebion. Weithiau yn y chwedlau disgrifir rhywbeth deirgwaith, er enghraifft tair taith i’r ffynnon, tri ymweliad â’r brenin, a rhywbeth gwahanol yn digwydd y trydydd tro. (Cymharwch Chwedl Llyn y Fan Fach lle mae’r bachgen ifanc yn cynnig bara i ferch y llyn dri diwrnod yn olynol; mae hi’n derbyn y bara ar y trydydd dydd ac yn cytuno i ddod yn wraig iddo.) Mae awdur Branwen yn defnyddio’r dechneg hon unwaith yn unig, pan yw Efnysien yn holi’r Gwyddel beth sydd yn y sach – ‘Beth yssyd yn y boly hwn?’ Mae’n gofyn deirgwaith ac mae’r ateb yr un bob tro ac Efnysien yn gwasgu pen y milwr yn y sach. Ar ôl lladd dau filwr, cawn grynodeb i osgoi ailadrodd pellach: ‘Sef a wnâi ynteu yr un guare a fawb ohonunt...’ Felly, er bod Efnysien yn lladd dau gant o Wyddelod disgrifir y weithred deirgwaith yn unig. Math arall o ailadrodd sydd yn gyffredin mewn chwedlau llafar yw’r hyn a elwir ‘repetition of the just-said’ ‒ hynny yw, mae un cymeriad yn rhoi cyfarwyddiadau manwl ac yna mae cymeriad neu gymeriadau eraill yn eu dilyn fesul cam. Sylwch sut mae Bendigeidfran yn rhoi cyfarwyddiadau i’w wŷr ynglŷn â’r hyn y dylid ei wneud gyda’i ben toredig, a hwythau wedyn yn dilyn y cyfarwyddiadau hynny.

Heblaw ailadrodd ymadroddion o fewn chwedlau unigol, gwelwn fod rhai ymadroddion yn gyffredin i sawl chwedl ‒ mae storïwyr yn tynnu ar stoc o fformiwlâu neu batrymau traddodiadol. Meddyliwch am y ffordd draddodiadol o agor stori: ‘Amser maith yn ôl...’ Efallai bod hyn o gymorth iddynt wrth fynd ati i adrodd ac i gofio eu straeon. Mae’r cyfarchion a’r llwon a welwn yn Branwen, yn debyg i’r rhai sy’n cael eu defnyddio yn y chwedlau eraill, ac yn adlewyrchiad efallai o iaith bob dydd yr awdur. Ond mae fformiwlâu eraill yn y chwedlau sydd yn amlwg yn cael eu creu’n fwriadol, er enghraifft y fformiwla sydd yn ymddangos ar ddiwedd pob un o’r ceinciau – ‘A llyna ual y teruyna y geing honn o’r Mabinyogi’, neu amrywiad arni. Mae tair o’r pedair cainc yn agor yn yr un modd, gydag enw arglwydd a’i statws, enw ei diriogaeth, a lleoliad yr arglwydd ar yr amser neilltuol hwnnw. Cyn nodi’r lleoliad, cawn ymadrodd amseryddol sydd yn hoelio’r sylw ar ddigwyddiad arbennig:

Bendigeiduran uab Llyr, a oed urenhin coronawc ar yr ynys hon, ac ardyrchawc o goron Lundein. A frynhawngueith yd oed yn Hardlech yn Ardudwy...

Defnyddir gwahanol fathau o fformiwlâu hefyd i ddisgrifio pethau megis pryd a gwedd cymeriad, ceffylau, ymladd, nesáu at adeilad, gwledda (y croeso/eistedd wrth y bwrdd/y gwledda) ac amlinellu gweithgareddau o un dydd i’r llall (fformiwla sy’n cynnwys cyfeiriad at wledda/cysgu’r nos/trannoeth). A cheir sawl enghraifft o ddwbled yn Branwen sef cyfuniad o ddau air sydd i bob pwrpas yn gyfystyr ac weithiau’n cytseinio, er enghraifft ‘y pebylleu a’r palleu’, ‘y poeneu a’r amharch’, ‘car a chedymdeith’. (Am ragor o fanylion, gweler Sioned Davies, Crefft y Cyfarwydd, 1995.)

Y nodwedd olaf y dylid tynnu sylw ati yw deialog, techneg adnabyddus mewn naratif lafar a llenyddol, wrth gwrs. Mae 39% o’r naratif yn Branwen mewn araith union, a’r awdur yn nodi pwy yw’r siaradwr drwy ddefnyddio’r tag ‘heb ef/heb hi/heb wynt’, neu ‘heb’ + enw’r siaradwr. (Sylwch nad yw’n defnyddio berfau graffig fel ‘sibrydodd’ neu ‘gweiddodd’ gan fod modd trosglwyddo’r synnwyr yn yr achosion hynny drwy ddefnyddio’r llais.) Byddai cyflwyno araith union yn sicr o roi her i unrhyw storïwr gan alw am sgiliau lleisiol ac actio os am drosglwyddo’r ddeialog yn llwyddiannus, p’un ai oedd y perfformiwr yn adrodd stori ar lafar neu yn darllen o lawysgrif. Mae sawl man hefyd yn Branwen lle mae’r testun yn galw am symudiadau ac ystumiau, pethau na ellir eu trosglwyddo i lawysgrif – meddyliwch am Efnysien yn ymestyn yn y pair neu Branwen yn torri ei chalon.

Wrth edrych ar adeiladwaith ac arddull Branwen, gwelwn felly sut mae crefft y storïwr  ac anghenion y perfformiad llafar wedi dylanwadu ar y mynegiant. Chwedl lenyddol, ysgrifenedig yw hon; eto mae ei gwreiddiau yn nhraddodiad llafar y cyfarwydd a’r chwedl ei hun wedi ei chyfansoddi ar gyfer darlleniad cyhoeddus. Dyna pam y dylech ddarllen y stori yn uchel a gwrando arni; dim ond wedyn y daw holl botensial Branwen fel perfformiad dramatig i’r amlwg.