Perthynas

Gellid dadlau fod gan yr ail gainc – ac yn wir y pedair ohonynt – swyddogaeth addysgiadol ar gyfer uchelwyr y wlad. Daw hyn i’r amlwg wrth edrych ar y berthynas rhwng y ddau frenin a’u gwŷr. Yn yr Oesoedd Canol yr oedd genre pwysig yn bodoli yn llenyddiaeth Ewrop o’r enw y speculum principum neu’r ‘drych i dywysogion’, genre a oedd yn trafod rhinweddau personol brenin neu arweinydd. Yng Nghymru, er enghraifft, cafwyd gwaith (yn Lladin) gan Gerallt Gymro – De Principis Instructione (‘Addysg Tywysog’) – a gyfansoddwyd rhwng 1191 a 1216. Mae’n rhestru nodweddion delfrydol tywysog – haelioni, dewrder a chyfiawnder. A chafwyd fersiwn yn y Gymraeg o destun Lladin o’r ddeuddegfed ganrif, Secretum Secretorum (‘Cyfrinach y Cyfrinachoedd’) a oedd yn trafod thema’r brenin delfrydol gan gynnwys cyfeiriad at sut y dylai brenin ddewis ei gynghorwyr yn ofalus er mwyn gallu cael ffydd yn eu cyngor. Perthyn i’r un byd a wna’r ail gainc yn ddi-os. Nid rhestru rhinweddau brenhinoedd a wneir yn y chwedl ond awgrymu trwy ddisgrifio gweithredoedd y cymeriadau a’u hymwneud â’i gilydd – ni cheir unrhyw sylw neu ymyrraeth ar ran yr awdur nag unrhyw bregethu a mynegi barn.

Mike Collins. Trwy ganiatâd S4C

Trwy gyfosod cymeriadau Bendigeidfran a Matholwch y daw’r thema hon i’r amlwg (gweler yr adran ar Cymeriadau). Mae’r ddau frenin yn deall pwysigrwydd tiriogaeth, grym canolog ac olyniaeth. Mae Bendigeidfran yn gynhwysol ac mae’n cymryd cyngor; ond brad a thwyll yw strategaeth Matholwch, nid negodi. Gwelir y gwahaniaethau rhyngddynt, er enghraifft, yn y ffordd y mae’r ddau yn eu tro yn delio â Llasar a’i deulu, a hefyd yn achos yr iawndal a gynigir i Matholwch. Mae Bendigeidfran yn cynnig llawer iawn mwy na sydd rhaid yn iawndal gan ei fod am osgoi rhyfel, doed a ddêl. Mae Matholwch yn derbyn yr iawndal ond hefyd yn caniatáu i atgasedd y Gwyddelod ddatblygu’n rhyfel – mae’n cael ei reoli gan ei bobl. Llinyn sy’n rhedeg trwy’r stori ar ei hyd yw y berthynas hon rhwng brenin a’i wŷr, a thrwy roi sylw i’r thema mae’r awdur yn llwyddo i drosglwyddo ei syniadau’n glir ynglŷn â natur brenhiniaeth.