Mae cysylltiad, hyd heddiw, rhwng yr ynysoedd oddi ar arfordir Sir Benfro a’r goruwchnaturiol. Mannau trothwyol yw ynysoedd a rhyw rin arbennig yn perthyn iddynt – nid ydynt yn rhan o’r arfordir mawr. Mae eu gweld ar y gorwel, weithiau yn diflannu yn y niwl, yn ennyn nid yn unig chwilfrydedd ond hefyd ryw barchedig ofn. Mae tynfa wedi bod erioed at yr ynysoedd hynny sy’n gorwedd oddi ar arfordir Cymru. Dyma lle âi’r saint cynnar i ddianc rhag y byd a’i bethau, ac i gael tawelwch i fyfyrio a gweddïo. Yn wir, dyhead llawer un oedd gorffwys yno am byth, yn nhawelwch ynys megis Enlli, oddi ar ar arfordir Pen Llŷn, lle yn ôl y sôn y claddwyd ugain mil o saint. Ond heblaw’r cysylltiad â’r crefyddol a’r ysbrydol, mae i lawer o’r ynysoedd hyn gysylltiadau mwy cyntefig, a’u bodolaeth ynghlwm â’r tylwyth teg a’r lledrithiol; ynys felly yw Gwales y Mabinogi. Ynys fechan ydyw, tua naw milltir i’r de-orllewin o arfordir Sir Benfro, Ynys Grassholm yn y Saesneg. Ers 1947 bu’n warchodfa adar ac y mae bellach yn gartref i filoedd o huganod. Yn ôl y gyfrol Cambrian Superstitions (1831):
The Milford Haven folk could see the green Fairy Islands distinctly lying out a short distance from land; and the general belief was that they were densely populated with fairies.
Atgyfnerthir hyn gan dystiolaeth yr ysgolhaig Syr John Rhŷs a fu wrthi’n casglu chwedlau llafar yn yr ardal ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yr enw a roddid ar drigolion yr ynysoedd hyn yn lleol oedd Plant Rhys Ddwfn (cywasgiad o Yr Is-ddwfn (yr is-fyd) mae’n debyg). Yn y Pembroke County Guardian (1896), mewn adroddiad am y Capten John Evans, cawn gyfeiriad penodol at Ynys Gwales:
Once when trending up the Channel, and passing Grasholm Island, in what he had always known as deep water, he was surprised to see to windward of him a large tract of land covered with a beautiful green meadow. It was not, however, above water, but just a few feet below, say 2 or 3, so that the grass wavered and swam about as the ripple flowed over it, in a most delightful way to the eye, so that as watched it made one feel quite drowsy. You know, he continued, I have heard old people say there is a floating island off there, that sometimes rises to the surface, or nearly, and then sinks down again fathoms deep, so that no one sees it for years, and when nobody expects it comes up again for a while. How it may be, I do not know, but that is what they say.
Mae sawl ynys ledrithiol yn gorwedd oddi ar arfordir Cymru. Ond diau mai Gwales sydd yn procio’r dychymyg yn fwy na'r un, a hynny’n bennaf oherwydd ei chysylltiadau â’n chwedloniaeth gynnar. Mae symbolaeth gref y pen toredig, y drws na ddylid ei agor, y rhyddhad o gael anghofio, y dyheu am beidio â heneiddio yn plethu ynghyd gan herio llenorion ac artistiaid i ailddarllen y chwedl a’i dehongli o’r newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae hudoliaeth, felly, yn thema ganolog yn Branwen, fel yn y tair cainc arall. Ond mae’r chwedl wedi ei gwreiddio yn gadarn yn nhirwedd Cymru, ac yn ymwneud â phroblemau go iawn. Defnyddir yr elfennau goruwchnaturiol yn bwrpasol i herio’r cymeriadau ac i weld ym mha ffordd y byddant yn ymateb ac yn ymddwyn – maent yn fodd i gyflwyno dewisiadau i’r cymeriadau gan agor deialog â’r gynulleidfa.