Hudoliaeth

Mae chwedl Branwen wedi ei lleoli mewn byd a chymdeithas a fyddai’n gyfarwydd i’r gynulleidfa, byd go iawn. Ond yn awr ac yn y man daw elfennau hudol i ymyrryd ar y byd hwnnw. Yr hyn sydd yn arwyddocaol yw sut mae’r cymeriadau’n ymateb i’r elfennau hyn a pha benderfyniadau y maent yn eu gwneud yn sgil dod wyneb yn wyneb â nhw.

Bendigeidfran yw’r unig gymeriad yn y chwedl sydd â phwerau hudol amlwg. Mae’n rhy fawr i gael ei gynnwys mewn unrhyw adeilad cyffredin; mae’n cerdded trwy’r môr i Iwerddon gan gario cerddorion ar ei gefn; ac wedi ei farwolaeth mae ei ben yn amddiffyn Ynys Prydain rhag ymosodiadau. Mewn llawer o chwedlau mae cewri yn gymeriadau peryglus, yn defnyddio eu nerth a’u maint corfforol i wneud drygioni fel yn achos Ysbaddaden Bencawr yn stori Culhwch ac Olwen, un arall o chwedlau’r Mabinogion. Ond defnyddio ei bŵer lledrithiol er budd i eraill a wna Bendigeidfran – ffurfio pont er mwyn i’w wŷr groesi afon Llinon, cysgodi ei chwaer rhag yr ymladd ffyrnig rhwng y Gwyddelod a gwŷr Ynys y Cedyrn, a darparu gwleddoedd arallfydol ar gyfer y saith gŵr a lwyddodd i ddianc o Iwerddon. Pan ddaw ar draws Llasar a’i wraig, y ddau gymeriad arallfydol hynny a ddringodd allan o Lyn y Pair yn Iwerddon, gwelwn pa mor wahanol yw ei ymateb iddynt o gymharu ag ymateb Matholwch – trwy ymddwyn yn bositif a’u croesawu, mae ei benderfyniad ef, ochr yn ochr â phenderfyniad Matholwch, yn awgrymu’n glir beth sydd orau i’w wneud yn sgil cyfarfyddiad â grymoedd lledrithiol. Ni ellir dweud yr un peth am ei gefnder, Caswallon fab Beli, sy’n goresgyn Prydain pan yw Bendigeidfran a’i filwyr yn Iwerddon gan ladd chwech o’r gwŷr a adawyd ar ôl i ofalu am yr Ynys. Yn ôl yr hanes, mae’n gwisgo mantell hud sydd yn ei wneud yn anweledig a hynny’n caniatáu iddo ladd y gwŷr heb iddynt ei weld. Defnyddio hudoliaeth i ddinistrio bywyd a wna ef, felly.