Pedair Cainc y Mabinogi

Trwy ganiatâd Margaret Jones, Cyngor Llyfrau Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Branwen yn un o bedair chwedl sy’n cael eu hadnabod fel Pedair Cainc y Mabinogi. Gwelwn fod yr un themâu yn rhedeg drwy’r pedair stori, a'r rheini'n awgrymu bod safonau moesol priodol yn bwysig i'r awdur. Mae’r chwedlau yn adlewyrchu i raddau helaeth y math o gymdeithas a fodolai yn yr Oesoedd Canol yng Nghymru, a’r pwyslais mawr a roddwyd ar gysyniadau fel ‘sarhad’ a ‘thalu iawn’. Daw hyn yn gliriach os trown at gyfreithiau’r Oesoedd Canol – Cyfreithiau Hywel Dda – sydd yn rhoi canllawiau i’r gymdeithas ynglŷn â sut i fyw o fewn trefn gyfiawn deddf a chyfraith. Ond mae awdur y Pedair Cainc yn mynd ymhellach na llythyren y gyfraith, gan gyffwrdd â syniadau fel ‘cywilydd’ a ‘maddeuant’. Er bod dylanwad cyd-destun hanesyddol penodol ar y chwedlau, mae’r themâu yr un mor berthnasol i ni heddiw yn yr unfed ganrif ar hugain, mewn byd lle gwelwn o hyd ryfel a thywallt gwaed.

Branwen

O droi yn benodol at Branwen, mae modd dadlau bod yma dair prif thema sydd yn rhedeg drwy’r testun ac yn wir yn gwau trwy ei gilydd yn gyson: cynnen, perthynas, a hudoliaeth. Mae is-themâu yn bwydo i’r prif themâu hyn, ac wrth eu dadansoddi nhw daw’r gwerthoedd a’r safbwyntiau sy’n cael eu mynegi yn y testun yn glir.