Y thema yw’r syniad mawr neu’r cysyniad y mae’r awdur yn ymdrin ag ef yn ei waith – rhyw brofiad cyffredinol sydd yn cysylltu’r cyfan, llinyn sy’n rhedeg drwy’r nofel, y ddrama, y stori fer neu’r gerdd. Mae’r syniad hwn fel arfer yn rhywbeth cyffredinol ei natur, rhywbeth sydd yn ymwneud â’r profiad dynol, ac yn aml yn ymwneud â chwestiynau moesol. Gall awdur, wrth gwrs, ymdrin â mwy nag un thema yn ei waith. Nid yw’n dweud yn benodol wrth ei gynulleidfa beth yw’r themâu hynny; yn hytrach, mae’r themâu ymhlyg yn y naratif. Er enghraifft, mewn nofel, dônt i’r amlwg trwy ymddygiad y cymeriadau a’r ffordd y mae’r plot yn datblygu. Mae rhaid i’r darllenydd felly fynd ati i ddehongli’r gwaith a chwilio am y themâu, am y syniadau mawr hynny sy’n bwysig i’r awdur. Gallwn gan amlaf grynhoi’r thema mewn un gair, a hwnnw’n enw haniaethol fel arfer. Meddyliwch am Siwan gan Saunders Lewis; prif thema’r ddrama yw ‘cariad’, neu yn fwy penodol efallai, y gwahaniaeth rhwng ‘cariad’ a ‘serch’. Mae ‘cariad’ yn thema sydd i’w gweld mewn llawer o’i ddramâu ac mewn gweithiau llenorion eraill hefyd. Yn wir, yr un themâu cyffredinol sydd wrth wraidd llawer iawn o weithiau llenyddol – themâu fel cariad, pechod, marwolaeth, cyfeillgarwch, dial, ffawd. Ond mae pob llenor yn trafod y themâu hyn mewn ffordd wahanol, a dyna sy’n ddiddorol. Unwaith yr ydym wedi adnabod thema, ein gwaith ni wedyn yw dadansoddi sut mae’r awdur yn ymdrin â’r thema honno ac ystyried y gwerthoedd a’r safbwyntiau sydd yn cael eu mynegi yn y testun drwy gyfrwng y thema. Mae’n bwysig cofio bod modd dehongli testun llenyddol mewn sawl ffordd a bod hynny’n gallu arwain at ddeialog fywiog, yn aml, ynglŷn â’r posibilrwydd o wahanol ac amrywiol ddarlleniadau.
Mae angen bod yn glir ynglŷn â’r gwahaniaeth rhwng y themâu a’r plot. Y plot yw’r llinell storïol, hynny yw sut mae’r digwyddiadau yn perthyn i’w gilydd a pha effaith y maent yn eu cael ar y cymeriadau. Ond y themâu yw’r syniadau mawr y mae’r awdur yn eu harchwilio, yn hytrach na’r digwyddiadau eu hunain. Rydym yn defnyddio’r plot fel tystiolaeth ar gyfer adnabod y themâu.