Sarhad ac Iawn

Yr oedd Matholwch, brenin Iwerddon, wedi dod i Harlech yn Ardudwy i ofyn i Bendigeidfran, brenin Ynys y Cedyrn, a gâi briodi’r Gymraes, Branwen, chwaer Bendigeidfran. Priodas wleidyddol fyddai hon, gyda’r bwriad o gadarnhau’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad drwy briodi brenin un wlad â chwaer brenin y wlad arall. Caniatawyd hynny iddo, a mawr oedd y llawenydd.

A dechreusant y wledd. Ymroi i’r wledd a wnaethant a sgwrsio. A phan welsant ei bod yn well iddynt fynd i gysgu na pharhau â’r wledd, aethant i gysgu. A'r noson honno cysgodd Matholwch gyda Branwen. A thrannoeth, cododd pawb a oedd yn y llys; a dechreuodd y swyddogion drafod llety’r meirch a’r gweision. A’u lletya a wnaethant ym mhob ardal cyn belled â’r môr. Ac yna, un diwrnod, wele Efnysien, y gŵr anheddychlon y soniwyd amdano uchod, yn digwydd dod ar draws llety meirch Matholwch, a gofyn a wnaeth pwy oedd biau’r meirch.

‘Meirch Matholwch frenin Iwerddon yw’r rhain,’ meddent hwy.

‘Beth maen nhw’n ei wneud yna?’ meddai ef.

‘Mae brenin Iwerddon yma, ac mae wedi cysgu gyda Branwen dy chwaer, a’i feirch ef yw’r rhai hyn.’

‘Ai dyna a wnaethant gyda morwyn gystal â honno, ac yn chwaer i minnau, ei rhoi heb fy nghaniatâd i? Ni allent fy sarhau i’n fwy,’ meddai ef.

Ac ar hynny mae’n ymosod ar y meirch, ac yn torri eu gwefusau hyd at eu dannedd, a'r clustiau hyd at eu pennau, a'r gynffon hyd at y cefn; a lle y câi afael ar yr amrannau, eu torri hyd at yr asgwrn. Ac anffurfio’r meirch fel hyn, fel nad oedd unrhyw beth y gellid ei wneud â'r meirch.

Daeth yr hanes at Matholwch. Dyma fel y daeth: dywedwyd wrtho sut y cafodd ei feirch eu hanffurfio a‘u difetha fel nad oedd unrhyw ddefnydd y gellid ei wneud ohonynt.

‘Ie, arglwydd,’ meddai un, ‘rwyt wedi cael dy gywilyddio, a gwnaethpwyd hynny yn bwrpasol.’

‘Yn sicr, ond mae’n rhyfedd gennyf, os fy nghywilyddio oedd y bwriad, eu bod wedi rhoi imi forwyn gystal, mor uchel ei statws, mor annwyl gan ei theulu.’

‘Arglwydd,’ meddai un arall, ‘mae’n hollol glir. Ac nid oes dim iti ei wneud ond dychwelyd i dy longau.’ Ac ar hynny mynd i’w longau a wnaeth ef.

Daeth yr hanes at Bendigeidfran, fod Matholwch yn gadael y llys heb ofyn, heb ganiatâd. Ac aeth negeseuwyr i ofyn iddo paham yr oedd hynny. Dyma’r negeseuwyr a aeth, Iddig fab Anarawg, a Hefëydd Hir. Goddiweddodd y gwŷr hynny ef a gofyn iddo beth oedd ei fwriad a phaham yr oedd yn gadael.

‘Yn sicr,’ meddai yntau, ‘petawn wedi gwybod, ni fyddwn wedi dod yma. Cefais fy nghywilyddio’n llwyr. Ac nid aeth neb ar siwrnai waeth na hon. Ac y mae rhywbeth rhyfedd wedi digwydd i mi.’

‘Beth yw hynny?’ meddent hwy.

‘Rhoi Branwen ferch Llŷr imi, yn un o dair prif riant yr ynys hon, ac yn ferch i frenin Ynys y Cedyrn, a chysgu gyda hi, ac wedi hynny fy nghywilyddio. Ac mae’n rhyfedd yn fy marn i nad cyn rhoddi morwyn gystal â honno imi y gwnaethpwyd y sarhad.’

‘Yn sicr, arglwydd, nid gyda chaniatâd y sawl sydd biau y llys,’ meddent hwy, ‘nac unrhyw un o’i gynghorwyr y gwnaethpwyd y sarhad hwn iti. Ac er dy fod yn ystyried hynny’n warth, mae’r sarhad hwn a’r ystryw yn fwy i Bendigeidfran nag yw i ti.’

‘Ie,’ meddai ef, ‘efallai’n wir. Ac eto, ni all ddadwneud y gwarth oherwydd hynny.’

Aeth y gwŷr yn ôl at Bendigeidfran gyda’r ateb hwnnw ac adrodd wrtho beth oedd Matholwch wedi ei ddweud.

‘Ie,’ meddai yntau, ‘nid oes unrhyw fantais iddo fynd i ffwrdd yn anheddychlon ac ni allwn ganiatáu hynny.’

‘Ie, arglwydd,’ meddent hwy, ‘anfon negeseuwyr ar ei ôl eto.’

‘Gwnaf,’ meddai ef. ‘Codwch, Fanawydan fab Llŷr, a Hefëydd Hir, ac Unig Glew Ysgwydd, ac ewch ar ei ôl,’ meddai ef, ‘a dywedwch wrtho y caiff farch iach am bob un a ddifethwyd; a hefyd fe gaiff yn iawndal wialen arian mor drwchus â’i fys bychan a chyhyd ag ef ei hun, a phlât aur mor llydan â’i wyneb; a dywedwch wrtho pa fath o ŵr a wnaeth hyn, ac mai yn erbyn f’ewyllys y gwnaethpwyd hynny; ac mai brawd o’r un fam â mi a wnaeth hynny, ac nad hawdd gennyf ei ladd na'i ddifetha; a gadewch iddo ddod i ymweld â mi,’ meddai ef, ‘ac fe wnaf heddwch yn ôl y termau y mae ef ei hun yn dymuno.’

Aeth y negeseuwyr ar ôl Matholwch a dweud hynny wrtho’n garedig, a gwrandawodd ef arnynt.

‘A wŷr,’ meddai ef, ‘fe ymgynghorwn.’ Cymerodd gyngor; dyma’r penderfyniad: os gwrthod hynny a wnaent, byddent yn fwy tebygol o gael cywilydd pellach na rhagor o iawndal. A phenderfynodd dderbyn hynny. A daethant i’r llys yn heddychlon. A pharatoi’r pebyll a’r gwersyll a wnaethant yn union fel y trefnir neuadd, a mynd i fwyta. Ac eistedd yna fel yr eisteddasant ar ddechrau’r wledd.

A dechreuodd Matholwch a Bendigeidfran siarad. Ond i Bendigeidfran roedd y sgwrs a gâi gan Matholwch yn ymddangos yn ddifywyd ac yn drist, ac yntau wastad wedi bod yn llawen cyn hynny. A thybiodd fod yr arglwydd yn drist iawn oherwydd cyn lleied o iawndal a gawsai am y cam.

‘Ŵr,’ meddai Bendigeidfran, ‘nid wyt cystal siaradwr heno â’r noson o’r blaen. Ac os yw hynny oherwydd dy fod yn teimlo bod dy iawndal yn rhy fach, ychwanegaf ato yn ôl dy ddymuniad ac yfory talaf dy feirch iti.’

‘Arglwydd,’ meddai ef, ‘bydded i Dduw ad-dalu iti.’

‘Cynyddaf dy iawn hefyd,’ meddai Bendigeidfran. ‘Fe roddaf iti bair, a hynodrwydd y pair yw hyn – os wyt ti’n taflu i’r pair un o dy wŷr sy’n cael ei ladd heddiw, yna erbyn yfory fe fydd cystal ag y bu ar ei orau, ond ni fydd yn gallu siarad.’

Diolchodd yntau am hynny ac roedd yn llawen iawn oherwydd hynny. A thrannoeth fe dalwyd ei feirch iddo tra parhaodd meirch dof. Ac oddi yno aethpwyd ag ef i gwmwd arall a thalwyd iddo ebolion nes bod ei daliad yn gyflawn. Ac am hynny y rhoddwyd yr enw Talebolion ar y cwmwd o hynny allan.

Fe ddychwelodd y brenin a’i arglwyddes i Iwerddon a chael croeso brwd. Ymhen y flwyddyn ganwyd mab iddynt, Gwern fab Matholwch. Ond yn fuan wedyn, newidiodd yr hinsawdd wleidyddol.

Ac yn yr ail flwyddyn dyma rwgnach yn Iwerddon oherwydd y sarhad a gawsai Matholwch yng Nghymru a'r twyll a oedd wedi’i wneud iddo ynghylch ei feirch. A’i frodyr maeth, a'r gwŷr nesaf ato yn edliw hynny iddo, a heb ei guddio. Ac wele’r terfysg yn Iwerddon fel nad oedd llonydd iddo oni châi ddial y sarhad. Dyma’r dial a wnaethant, gyrru Branwen o’r un ystafell ag ef a'i gorfodi i bobi yn y llys, a pheri i'r cigydd, wedi iddo fod yn torri cig, ddod ati a rhoi bonclust iddi bob dydd. Ac felly y gwnaethpwyd ei chosb.

‘Ie, arglwydd,’ meddai ei wŷr wrth Matholwch, ‘rhaid iti yn awr wahardd y llongau a'r cychod a'r coryglau fel na all neb fynd i Gymru; a phawb a ddaw yma o Gymru, carchara hwy a phaid â gadael iddynt ddychwelyd rhag ofn y dônt i wybod am hyn.’ Ac ar hynny y penderfynasant.

Am nid llai na thair blynedd y buont felly. Ac yn y cyfamser, meithrin drudwy fechan a wnaeth hithau ar ymyl y ddysgl dylino, a dysgu iaith iddi, a dweud wrth yr aderyn pa fath o ŵr oedd ei brawd. A dod â llythyr yn disgrifio’r cosbau a’r amarch a oedd arni hithau. A rhwymwyd y llythyr am fôn adenydd yr aderyn, a'i anfon tua Chymru. A daeth yr aderyn i'r ynys hon. Dyma lle y daeth o hyd i Bendigeidfran, yng Nghaer Saint yn Arfon, mewn cynhadledd iddo un diwrnod. A disgyn ar ei ysgwydd ac ysgwyd ei blu hyd oni ddarganfuwyd y llythyr, a sylweddoli bod yr aderyn wedi ei feithrin ymhlith pobl. Ac yna cymerwyd y llythyr ac edrych arno. A phan ddarllenwyd y llythyr, pryderu a wnaeth o glywed am y gosb a oedd ar Branwen, ac o’r lle hwnnw dechreuodd drefnu anfon negeseuwyr i ymgynnull yr ynys hon ynghyd ...

Ac roedd meichiaid Matholwch ar lan y môr un diwrnod, yn brysur gyda’u moch. Ac oherwydd yr olygfa a welsent ar y môr, daethant at Matholwch.

‘Arglwydd,’ meddent hwy, ‘henffych well.’

‘Bydded i Dduw fod yn dda wrthych,’ meddai ef, ‘ac a oes gennych newyddion?’

‘Arglwydd,’ meddent hwy, ‘mae gennym newyddion rhyfedd; rydym wedi gweld coed ar y môr yn y lle na welsom erioed un pren.’

‘Dyna beth rhyfedd,’ meddai ef. ‘A oeddech yn gallu gweld rhywbeth heblaw hynny?’

‘Oeddem, Arglwydd,’ meddent hwy, ‘mynydd mawr gerllaw’r coed a hwnnw yn symud; ac esgair uchel iawn ar y mynydd a llyn o bob ochr i'r esgair; a'r coed a'r mynydd a phob peth i gyd yn symud.’

‘Ie,’ meddai yntau, ‘nid oes neb yma sy’n gwybod unrhyw beth am hynny os nad yw Branwen yn gwybod rhywbeth. Gofynnwch iddi.’

Aeth negeseuwyr at Branwen. ‘Arglwyddes,’ meddent hwy, ‘beth wyt ti’n feddwl yw hynny?’

‘Er nad wyf yn arglwyddes,’ meddai hi, ‘rwyf yn gwybod beth yw hynny. Gwŷr Ynys y Cedyrn yn dod drosodd o glywed am fy nghosb a'm hamarch."

‘Beth yw’r coed a welwyd ar y môr?’ meddent hwy.

‘Mastiau llongau a hwylbrenni,’ meddai hi.

‘Och!’ meddent hwy, ‘beth oedd y mynydd a welwyd wrth ochr y llongau?’

‘Bendigeidfran fy mrawd,’ meddai hi, ‘oedd hwnnw, yn dyfod dan gerdded. Nid oedd llong digon o faint i’w gynnwys.’

‘Beth oedd yr esgair uchel iawn a'r llyn o bob ochr i’r esgair?’

‘Ef,’ meddai hi, ‘yn edrych ar yr ynys hon; y mae’n llidiog. Ei ddau lygad o bob ochr i’w drwyn yw’r ddau lyn o bob ochr i'r esgair.’

Ac yna galwyd ynghyd holl wŷr ymladd Iwerddon a'r holl benrhynnau yn gyflym, a chymerwyd cyngor.

'Arglwydd,' meddai ei wŷr wrth Matholwch, 'nid oes gyngor ond cilio dros Linon (afon a oedd yn Iwerddon) a gadael Llinon rhyngot ac ef, a thorri’r bont sydd dros yr afon. A cherrig sugno sydd yng ngwaelod yr afon, ni all na llong na llestr ei chroesi.' Ciliasant dros yr afon a thorri’r bont.

Daeth Bendigeidfran i’r tir tua glan yr afon a llynges gydag ef.

‘Arglwydd,’ meddai ei wŷr, ‘fe wyddost am hynodrwydd yr afon; ni all neb ei chroesi, ac nid oes bont drosti. Beth yw dy gyngor ynglŷn â phont?’ meddent hwy.

‘Nid oes ond hyn,’ meddai yntau, ‘sef a fo ben, bid bont. Fe fyddaf i’n bont’, meddai ef. Ac yna y dywedwyd yr ymadrodd hwnnw gyntaf, ac mae’n ddihareb o hyd.

Dymunai Branwen gymod rhwng ei brawd a’i gŵr, a phenderfynwyd anrhydeddu Bendigeidfran drwy godi tŷ iddo gan nad oedd Bendigeidfran, oherwydd ei faint, erioed wedi medru cael tŷ a oedd yn ddigon mawr i’w gynnwys. Adeiladwyd y tŷ iddo, ond ar bob un o’i gan colofn rhoddodd y Gwyddelod filwr i guddio mewn sach o groen, yn barod i ddistrywio’r Cymry pan ddeuent i’r wledd a oedd i’w chynnal yno. Efnysien oedd yr un a ddarganfu’r twyll, a gwasgodd bennau’r milwyr nes bod ei fysedd yn suddo i mewn i’w hymennydd drwy’r asgwrn. Cymodwyd y ddwy wlad drwy ddadurddo Matholwch ac estyn y frenhiniaeth i’w fab ifanc, Gwern. Gan fod Gwern yn symbol o’r uniad rhwng Matholwch a Branwen yr oedd Efnysien wedi ei wrthwynebu mor daer, taflodd Efnysien Gwern i’r tân a dechreuodd pawb drwy’r tŷ ailafael yn yr ymladd.

Ac yna dechreuodd y Gwyddelod gynnau tân o dan y pair dadeni. Ac yna, taflwyd y cyrff meirw i’r pair nes ei fod yn llawn, a chodent fore trannoeth yn wŷr ymladd cystal â chynt ond ni allent siarad. Ac yna, pan welodd Efnysien y cyrff meirw heb fod lle i wŷr Ynys y Cedyrn yn unman, dywedodd yn ei feddwl, ‘O Dduw,’ meddai ef, ‘gwae fi fy mod yn achos y pentwr hwn o wŷr Ynys y Cedyrn, a chywilydd arnaf,’ meddai ef, ‘os na cheisiaf i waredigaeth rhag hyn.’

Ac mae’n ymwthio ymhlith cyrff meirw’r Gwyddelod, a daw dau Wyddel tinnoeth ato, a'i daflu i’r pair fel petai’n Wyddel. Mae yntau’n ymestyn yn y pair hyd nes i’r pair dorri yn bedwar darn a hyd nes i’w galon yntau dorri. Ac oherwydd hyn y bu hynny o fuddugoliaeth a fu i wŷr Ynys y Cedyrn. Ni bu buddugoliaeth ychwaith ond bod saith gŵr wedi dianc a bod Bendigeidfran wedi’i glwyfo yn ei droed â gwaywffon wenwynig.

Dyma’r saith gŵr a ddihangodd: Pryderi, Manawydan, Glifiau ail Daran, Taliesin, ac Ynawg, Gruddiau fab Muriel, Heilyn fab Gwyn Hen.

Ac yna fe orchmynnodd Bendigeidfran iddynt dorri ei ben. ‘A chymerwch y pen,’ meddai ef, ‘a’i gario i’r Gwynfryn yn Llundain, a’i gladdu â’i wyneb tua Ffrainc. A byddwch ar y ffordd yn hir; byddwch yn gwledda yn Harlech am saith mlynedd ac Adar Rhiannon yn canu ichi. A bydd y pen cystal cwmni ichi ag yr oedd erioed ar ei orau pan oedd arnaf i. Ac yng Ngwales ym Mhenfro y byddwch bedwar ugain mlynedd. A gellwch fod yno a’r pen heb ei lygru hyd nes ichi agor y drws tuag Aber Henfelen, i gyfeiriad Cernyw. Ond cyn gynted ag yr agorwch y drws hwnnw, ni ellwch aros yno. Ewch i Lundain i gladdu y pen. Ac ewch yn eich blaen dros y môr.’

Ac yna y torrwyd ei ben ef ac y cychwynasant drosodd a'r pen gyda hwy, y saith gŵr hyn a Branwen yn wythfed. Ac yn Aber Alaw yn Nhalebolion y daethant i'r tir. Ac yna eistedd a wnaethant a gorffwys. Edrychodd hithau ar Iwerddon ac ar Ynys y Cedyrn, hynny y medrai ei weld ohonynyt.

‘O fab Duw,’ meddai hi, ‘gwae fi fy ngenedigaeth. Dwy ynys dda a ddinistriwyd o'm hachos i.’ Ac mae’n rhoi uchenaid fawr a chyda hynny mae ei chalon yn torri. Ac fe wneir bedd petryal iddi a'i chladdu yno ar lan Alaw.