Fel y soniwyd, mae Bendigeidfran yn gofalu am ei wŷr wedi ei farwolaeth gan ddarparu dwy wledd arallfydol ar eu cyfer. Yng nghainc gyntaf y Mabinogi, ac mewn ffynonellau Cymraeg eraill, ‘Annwfn’ yw’r enw a roddir ar yr arallfyd, gair cyfansawdd sydd yn cynnwys yr elfennau ‘an’ (yn golygu (a) ‘i mewn’ neu (b) y negydd ‘nid’) a ‘dwfn’ (hen air yn golygu ‘byd’), felly ‘yr arallfyd/nid y byd hwn’, neu ‘y mewn fyd/y byd tanddaearol’ . Yn y traddodiad Cymraeg, ceir llawer o gyfeiriadau at yr arallfyd fel lle o dan y ddaear, a cheir mynediad iddo drwy fryncyn, ogof neu lyn – cymharer Llasar a’i wraig yn dod allan o Lyn y Pair neu’r chwedlau gwerin am y Brenin Arthur yn cysgu mewn ogof hyd nes y bydd ei angen ar y Cymry i’w hachub. Mewn ffynonellau eraill, byd ydyw sydd yn rhannu’r un ffiniau â’r byd hwn, ond mae’n guddiedig – ceir mynediad iddo drwy ffyrdd dirgel. Dyma’r awgrym yn y gainc gyntaf wrth i Pwyll ddod ar draws brenin Annwfn tra oedd yn hela yng Nglyn Cuch yn Nyfed a chael mynediad i’r arallfyd drwy ei ddilyn i’w deyrnas. Nid yw’n ymddangos, felly, bod un lleoliad pendant i’r arallfyd yn y ffynonellau Cymraeg; gellid dadlau, efallai, mai dimensiwn ydyw, yn hytrach na lle pendant, hynny yw byd sy’n cydredeg â’r byd hwn.
Mae’r disgrifiadau o’r ddwy wledd yn Branwen yn cynnwys sawl motiff a gysylltir â’r arallfyd mewn llenyddiaeth ryngwladol – cerddoriaeth hudol, digonedd o fwyd a diod, amser yn sefyll yn stond a neb felly yn heneiddio, amod ynglŷn ag aros yn y baradwys. Mae’r amser ar Ynys Gwales, yn arbennig, yn cynrychioli’r cyfnod mwyaf hapus a dymunol a dreuliodd y gwŷr erioed: ni cheir arlliw o’r gofidiau a’u poenai pan ar y tir mawr – cynnen, sarhad, dial. Eto i gyd, ychydig iawn o fanylion a gawn am y gwledda arallfydol yn y ddau achos – ni cheir unrhyw ymdrech i ddisgrifio’r lleoliadau na’r modd y cynhaliwyd y gwŷr. Mae’r pwyslais ar greu awyrgylch gan awgrymu yn hytrach na nodi’n fanwl. Ar ddiwedd y dydd, wrth gwrs, mae rhaid gwneud dewis. A Heilyn fab Gwyn yw’r cymeriad sydd yn penderfynu agor y drws:
Sef a wnaeth Heilyn uab Guyn dydgueith. ’Meuyl ar uy maryf i,’ heb ef, ’onyt agoraf y drws, e wybot ay gwir a dywedir am hynny.’
Mae chwilfrydedd yn cael y gorau ohono. Mae Harlech a Gwales ill dau yn lleoliadau trothwyol, rhyw dir neb, nid o’r byd hwn ac nid o’r byd arall. Mewn mannau anghyfarwydd fel hyn gall unrhyw beth ddigwydd. Mae Heilyn yn gwneud dewis annoeth. Ond, mewn ffordd, nid oes ganddo ddewis gan fod Bendigeidfran eisoes wedi rhagweld yr hyn a fyddai’n digwydd ac wedi trefnu ar gyfer hynny.