Cyd-destun hanesyddol

Trwy ganiatâd yr Athro John T. Koch

I ddychwelyd at y Pedair Cainc, sef y ‘mabinogi’ go iawn felly, ychydig iawn a wyddom am ddyddiad eu cyfansoddi a dim oll am eu hawdur (a thybio mai un awdur a oedd yn gyfrifol am y pedair chwedl). Mae ysgolheigion wedi dadlau dros ddyddiadau sy’n ymestyn rhwng yr 11eg a’r 13eg ganrif, ond yr unig beth y gallwn fod yn hollol sicr ohono yw eu bod wedi cael eu cyfansoddi erbyn ail hanner y 13eg ganrif – mae  darnau o’r ail gainc a’r drydedd ar gael yn llawysgrif Peniarth 6 sydd yn perthyn i tua 1250, rhyw ganrif yn gynharach na dyddiad Llyfr Gwyn Rhydderch. Nid oes enw unrhyw awdur ynghlwm â’r chwedlau, er bod sawl ysgolhaig eto wedi ceisio rhoi cynnig ar adnabod unigolyn penodol, ac un wedi dadlau mai merch a gyfansoddodd y ceinciau; yr unig beth y gallwn ei awgrymu yw mai yng Ngwynedd, yn ôl pob tebyg, y’u cyfansoddwyd.