Matholwch

Mike Collins. Trwy ganiatâd S4C

Trwy’r gainc cawn gyferbyniad rhwng Bendigeidfran y brenin cadarn a theg, a Matholwch frenin Iwerddon sydd yn gymeriad gwan, hawdd dylanwadu arno. Cawn yr argraff glir ei fod yn caniatáu i’w wŷr ei reoli ac nad yw’n barod i sefyll a dal ei dir.

Mae Matholwch yn ymddangos ar ddechrau’r gainc wrth iddo gyrchu Ynys y Cedyrn yn ei longau i ofyn am Branwen yn wraig iddo – strategaeth wleidyddol sydd ganddo, felly, sef cydio Prydain ac Iwerddon ynghyd ym mherson Branwen er mwyn cryfhau’r ddwy wlad. Yr oedd priodasau politicaidd fel hyn, wrth gwrs, yn gyffredin iawn yn yr Oesoedd Canol. Cawn yr awgrym ar y dechrau, felly, fod Matholwch yn frenin doeth sydd yn deall yn iawn pa mor bwysig yw cydweithio a sefydlu cynghreiriaid. Ond yn fuan iawn daw ei wendidau i’r amlwg, a hynny trwy gyfrwng y ddeialog rhyngddo ef a’i wŷr. Ar ôl i Efnysien ddifetha’r ceffylau, dadleua’r Gwyddelod mai ei sarhau oedd y bwriad o’r dechrau. Ond nid yw Matholwch mor siŵr:

‘Dioer, eres genhyf, os uy gwaradwydaw a uynhynt, rodi morwyn gystal, kyuurd, gyn anwylet gan y chenedyl, ac a rodyssant ym.’

Eto mae’n caniatáu i’w wŷr ei arwain a gwneud ei benderfyniadau drosto: ‘Ac nyt oes it a wnelych namyn kyrchu dy longeu.’ Pan ddaw negeseuwyr Bendigeidfran at Matholwch, mae’n mynegi ei syndod – sylwch ar y modd y mae’r geiriau ‘rhyfeddod’ a ‘rhyfedd’ yn digwydd o fewn pedair brawddeg. Nid yw’n deall y sefyllfa o gwbl. Ond mae’n ddigon parod i gredu na wyddai Bendigeidfran ddim oll am weithred Efnysien. Mae’n ymddangos, felly, ei fod yn rhy barod i gael ei reoli gan farn ei gynghorwyr.

Daw hyn i’r amlwg ymhellach wrth i Matholwch adrodd hanes y pair rhyfeddol wrth Bendigeidfran gan egluro sut y daeth o hyd i’r gwrthrych arallfydol tra oedd yn hela un dydd. Mae’n egluro sut y daeth Llasar a’i wraig allan o Lyn y Pair, sut y ganed mab iddynt a sut y cafodd broblemau enfawr yn ceisio rheoli’r teulu cwerylgar hwn. Yn y diwedd, gofynnodd y wlad iddo ddewis rhwng ei deyrnas a’r teulu:

O hynny allan y dygyuores uyg kyuoeth am ym pen, y erchi im ymuadeu ac wynt, a rodi dewis im, ae uyg kyuoeth, ae wynt.

Yn hytrach na gwneud penderfyniad yn y fan a’r lle, ymateb Matholwch oedd gofyn i’w wŷr am gyngor. Aethant ati i geisio dinistrio’r teulu gan adeiladu tŷ haearn iddynt a’i roi ar dân; ond llwyddodd Llasar a’i wraig i ddianc a ffoi, gyda’r pair, i Ynys y Cedyrn. Pwysleisir y gwahaniaeth rhwng Bendigeidfran a Matholwch yn y modd y mae’r ddau yn ymdrin â’r teulu – yn hytrach na cheisio eu dinistrio, mae Bendigeidfran yn eu defnyddio i gryfhau ei deyrnas gan sianelu eu pŵer i’w ddibenion ei hun.

Yr ydym wedi cael ein paratoi i ryw raddau, felly, ar gyfer ymateb Matholwch pan yw’r wlad yn mynnu ei fod yn dial y sarhad a wnaeth Efnysien. Yn hytrach na sefyll ac amddiffyn ei wraig, mae’n ildio ac yn cytuno i’w chosbi. Pyped ydyw yn nwylo ei bobl. Mae’r ddeialog yn dangos yn glir pwy sy’n rheoli pwy:

‘Ie, Arglwyd,’ heb y wyr wrth Uatholwch, ‘par weithon wahard y llongeu, a’r yscraffeu, a’r corygau, ual nat el neb y Gymry; ac a del yma o Gymry, carchara wynt ac na at trachefyn, rac gwybot hynn.’ Ac ar hynny y diskynyssant.

Y mae Matholwch eisoes wedi derbyn iawndal, a hwnnw’n iawndal hael, am y sarhad a wnaeth Efnysien. Ei barodrwydd ef yn awr i ddilyn cyngor ei wŷr sydd yn arwain at yr elyniaeth rhwng y ddwy wlad yn ail hanner y chwedl. Wrth i’w feichiaid ddod ato gyda’r newyddion fod rhywbeth od iawn i’w weld ar y môr, sylwch nad ef sy’n mynd i holi Branwen; yn hytrach, mae’n anfon negeseuwyr a hynny’n dweud y cyfan. Trafod a chynnal deialog yw strategaeth Bendigeidfran; ond cilio ac ymbellhau yw tacteg Matholwch. Pwysleisir hyn eto wedi i Bendigeidfran lanio yn Iwerddon. Mae Matholwch yn dilyn cyngor ei wŷr gan ffoi a thorri’r bont dros afon Llinon:

‘Arglwyd,’ heb y wyrda wrth Uatholwch, ‘nyt oes gynghor namyn kilyaw drwy Linon... a gadu Llinon y rot ac ef, a thorri y bont yssyd ar yr auon...’ 

Nid yw’n cysidro aros i wynebu Bendigeidfran a thrafod termau heddwch.

Ar ddiwedd y dydd, wrth gwrs, nid oes dewis ganddo – mae rhaid iddo gynnig amodau heddwch a fydd yn dderbyniol i Bendigeidfran. Sylwch ar eiriau ei negeseuwyr wrth iddynt gyfarch Bendigeidfran:

Ar hynny... llyma gennadeu Matholwch yn dyuot attaw ef, ac yn kyuarch guell idaw, ac yn y annerch y gan Uatholwch y gyuathrachwr, ac yn menegi o’e uod ef na haedei arnaw ef namyn da.

Pwrpas Matholwch wrth gyrchu Ynys y Cedyrn yn wreiddiol oedd ‘ymgyuathrachu a thidy, Arglwyd’ ‒ hynny yw cysylltu’r ddau deulu a’r ddwy wlad drwy briodas. Yma mae’r negeseuwyr yn gobeithio apelio at rwymau teuluol Bendigeidfran – un teulu ydynt bellach. Ar ôl i Bendigeidfran wrthod y cynnig cyntaf, mae Matholwch unwaith eto yn troi at ei wŷr i ofyn eu cyngor yn hytrach na rhoi arweiniad iddynt:

‘A wyr,’ heb y Matholwch, ‘mae ych kynghor chwi?’ ‘Arglwyd,’ heb wy, ‘nyt oes it gynghor namyn un. Ni enghis ef ymywn ty eiryoet...’

[Cymharwch hyn â’r sefyllfa pan yw gwŷr Ynys y Cedyrn yn gweld nad oes pont dros yr afon – nhw sydd yn gofyn i’w brenin am gyngor, yn hytrach na’r ffordd arall: ‘Mae dy gynghor am bont?’ heb wy. ‘Nit oes,’ heb ynteu, ‘namyn a uo penn bit pont.’]

Felly, trwy gyfrwng cymeriad Matholwch, a thrwy ei gyfosod â Bendigeidfran, mae’r awdur yn awgrymu rhywbeth ynglŷn â natur brenhiniaeth ac am yr holl gyfrifoldebau sy’n perthyn i’r swydd honno (gweler ymhellach o dan Themâu). Edrych am gyngor y mae Matholwch bob tro – nid yw’n fodlon gwneud penderfyniad. Ond rhoi gorchymynion iddo a wna ei wŷr yn hytrach na’i gynghori, a hynny’n awgrymu pa mor fregus oedd sefyllfa rhai brenhinoedd yn yr Oesoedd Canol.