Daw themâu'r chwedl yn amlwg i raddau helaeth trwy gyfrwng y cymeriadau – eu gweithredoedd, eu hymateb i sefyllfaoedd, a sut maen nhw'n ymwneud â'i gilydd. Defnyddir deialog yn aml i ddangos cymhelliad y cymeriadau a’r tensiynau rhyngddynt. Mewn chwedl lafar y duedd yw i gymeriadau fod yn eithafion ac yn deipiau – rhaid i’r cymeriadau fod yn gofiadwy oherwydd ni all rhai di-liw aros yn y cof. Dyna sydd wrth wraidd teipiau fel y llysfam genfigennus, y cawr cas, y dywysoges hardd, y tywysog golygus mewn chwedlau gwerin a’u tebyg. Ond wrth ysgrifennu’n greadigol, mae awdur yn cael cyfle i ddadansoddi cymhellion a theimladau ei gymeriadau, ac mae hyn yn ei dro yn peri iddynt fod yn debycach i bersonau cig a gwaed. Fodd bynnag, rhaid cofio bob amser mai creadigaeth yr awdur yw pob cymeriad yn y pen draw. Er na cheir unrhyw sylwadau goddrychol ynglŷn â’r cymeriadau eu hunain gan awdur Branwen yn ystod y naratif, eto i gyd gwelwn ei fod wedi symud i ffwrdd o fyd y storïwr llafar gan ymdrechu i greu cymeriadau sydd a chymhlethdodau yn perthyn iddynt, cymeriadau sy’n arddangos eu teimladau ac yn gwneud inni gydymdeimlo â nhw.
Ar ddechrau’r chwedl mae’r awdur yn ein cyflwyno i brif gymeriadau’r stori, cymeriadau sydd yn perthyn i’r un teulu. Cawn wybod bod y cawr Bendigeidfran yn frenin Ynys y Cedyrn (Ynys Prydain) a bod ganddo chwaer, Branwen, a brawd, Manawydan; eu tad yw Llŷr a’u mam yw Penarddun. Mae ganddynt ddau hanner brawd – Nysien ac Efnysien. Maent yn rhannu’r un fam, sef Penarddun; ond eu tad nhw yw Euroswydd. Yn fuan iawn cawn ein cyflwyno i gymeriad pwysig arall a fydd, trwy briodas, yn dod yn rhan o’r teulu hwn – Matholwch frenin Iwerddon. O’r cychwyn cyntaf, felly, cawn awgrym clir bod yr awdur yn ymddiddori yn y cymhlethdodau a’r tensiynau a all godi rhwng aelodau o’r un teulu.