Cynnen

Ceir awgrym cynnil o’r dechrau’n deg bod y stori am fynd i’r naill o ddau gyfeiriad – i gyfeiriad heddwch (Nysien) neu ryfel (Efnysien). Wrth i long Matholwch nesáu tuag at Harlech, fe godir tarian yn uwch na bwrdd y llong a swch y darian i fyny yn arwydd o heddwch. Mae hyn yn cael ei atgyfnerthu wrth i Matholwch ddatgan ei fod am briodi Branwen, gyda’r bwriad o glymu Iwerddon ac Ynys y Cedyrn gyda’i gilydd er mwyn iddynt fod yn gadarnach (‘mynnu ymgyuathrachu a thidy... ef a uyn ymrwymaw Ynys y Kedeirn ac Iwerdon y gyt, ual y bydynt gadarnach.’). Gallwn ddisgwyl felly mai cyfeillgarwch a heddwch rhwng dwy wlad fydd thema’r stori. Ond yn fuan iawn daw tro ar fyd, a hynny drwy weithred greulon Efnysien.

Trwy ganiatâd Brett Breckon a Gwasg Gomer

Mae gweithred Efnysien yn achosi cynnen neu ymrafael ar unwaith, a hynny rhwng y ddwy wlad. Gwelwn yma is-thema, sef yr elfen o ‘sarhad’. Yn gyntaf, mae Efnysien yn teimlo ei fod ef ei hun wedi cael ei sarhau, gan fod Bendigeidfran wedi ei anwybyddu a rhoi Branwen i Matholwch heb ei ganiatâd – ‘tremic’ yw’r union air a ddefnyddir am y gwarth hwn. Mae yntau yn ei dro yn sarhau Matholwch, nid Bendigeidfran, drwy ddinistrio ei geffylau. Effaith hyn yw dwyn cywilydd neu sarhad ar Matholwch – ‘gwaradwydd’ yw’r gair a ddefnyddir y tro hwn. Mae’r amrywiaeth o eiriau yn dangos y gwahanol fathau o sarhad a oedd yn bodoli yn yr Oesoedd Canol a pha mor ganolog oedd y syniad i’r gymdeithas.

Daw Bendigeidfran â’r gynnen i ben drwy ‘dalu iawn’ i Matholwch ac mae heddwch yn cael ei adfer unwaith eto. Ond ar ôl dychwelyd i Iwerddon, mae’r gynnen rhwng y ddwy wlad yn ailddechrau wrth i wŷr Matholwch fynnu ei fod yn ‘dial’ y sarhad a wnaeth Efnysien, a dyna is-thema arall. Anfonir Branwen o ystafell y brenin a’i gorfodi i bobi yn y gegin gan dderbyn bonclust gan y cigydd bob dydd. Mae’r gynnen yn dwysáu wrth i Bendigeidfran groesi i Iwerddon i ddial y sarhad hwn. Am yr ail waith, disgwyliwn i’r gynnen rhwng Iwerddon ac Ynys y Cedyrn ddod i ben wrth i Matholwch, y tro hwn, gynnig iawn i Bendigeidfran am yr anghyfiawnder a wnaethpwyd i’w chwaer. Cawn ein hatgoffa o fwriad gwreiddiol Matholwch i uno’r ddwy wlad wrth i’w negeseuwyr ddod at Bendigeidfran a phwysleisio eu bod ‘yn y annerch gan Uatholwch y gyuathrachwr...’ – mae’r gair ‘gyuathrachwr’ (perthynas) yn adlais o ddechrau’r stori. Apelio at rwymau teuluol Bendigeidfran yw bwriad y negeseuwyr, at y berthynas sydd rhyngddynt – un teulu yw Ynys y Cedyrn ac Iwerddon bellach, trwy berson Branwen.