Bendigeidfran


Trwy ganiatâd Margaret Jones, Cyngor Llyfrau Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae presenoldeb Bendigeidfran yn amlwg drwy'r chwedl ar ei hyd, o’r llinellau agoriadol pan gyflwynir ef fel brenin Ynys y Cedyrn, sef Ynys Prydain, hyd at gladdu ei ben yn Llundain ar ddiwedd y stori. Cyfeirir at ei gysylltiadau teuluol, ond ni cheir unrhyw sôn am wraig na phlant. Datgelir yn gynnil, wrth ddisgrifio’r wledd briodasol rhwng Matholwch a Branwen, fod Bendigeidfran yn fawr o gorff:

Nyt ymywn ty yd oydynt, namyn ymywn palleu. Ny angassei Uendigeituran eiryoet ymywn ty.

Mae hyn, wrth gwrs, yn rhagweld yr hyn a fydd yn digwydd tua diwedd y stori, pan gynigia’r Gwyddelod adeiladu tŷ iddo, rhywbeth na chafodd erioed. Yng nghymeriad Bendigeidfran cawn ddarlun o’r brenin delfrydol, amddiffynnydd ei bobl a’i dylwyth. Mae’n gymeriad hael a dewr, nid yn annhebyg i’r darlun a gawn gan y beirdd wrth iddynt foli eu penaethiaid. Mae ei gymeriad yn adlewyrchu’n berffaith y disgrifiad yn Gramadegau’r Penceirddiaid o sut i foli brenin:

Arglwydd a folir o feddiant, a gallu, a milwriaeth, a gwrhydri, a chadernid, a balchder, ac addfwynder, a doethineb, a chymhendod, a haelioni, a gwarder, a hygarwch wrth ei wŷr a’i gyfeillion, a thegwch pryd, a thelediwrwydd corff, a mawrfrydwch meddwl, a mawrhydri gweithredoedd, a phethau eraill addfwyn anrhydeddus.

Mae’n gymeriad cadarn, ond eto yn awyddus i gynnal deialog a thrafod gan ofyn yn gyson am gyngor gan ei wŷr fel yn achos y briodas rhwng Branwen a Matholwch. Wedi dweud hynny, ef sydd yn arwain bob tro ar y penderfyniad. Mae gweithred erchyll ei hanner-brawd, Efnysien, wrth ddifetha meirch Matholwch, yn creu dilema iddo:

A menegwch ydaw pa ryw wr a wnaeth hynny, a phan yw o’m anuod inheu y gwnaethpwyt hynny; ac y may brawt un uam a mi a wnaeth hynny, ac nad hawd genhyf i na’e lad na’e diuetha.

Nid yw hanner brodyr yn cael eu crybwyll fel arfer yn y testunau cyfraith. Ond mae’r triawd cyfreithiol canlynol yn dangos cryfder cwlwm gwaed a’r rheswm efallai pam na allai Bendigeidfran gosbi Efynsien: ‘Tri dyn sydd yn gas gan eu cenedl [sef ‘tylwyth, teulu’]: lleidr a thwyllwr gan na ellir ymddiried ynddynt, a dyn sydd yn lladd dyn o’i genedl ei hun.’ Mae hyn yn dangos pa mor bwysig i Bendigeidfran yw’r uned deuluol, a chawn awgrym o’r tensiynau a all godi rhwng teyrngarwch i’r teulu a theyrngarwch i’r wlad, thema a welir yn aml yng ngwaith llenorion fel Saunders Lewis. Wedi dweud hynny, mae Bendigeidfran yn benderfynol o wneud iawn am y sarhad a wnaethpwyd i Matholwch gan Efnysien, ac mae’n talu llawer mwy o iawndal i frenin Iwerddon nag sydd raid. Gwartheg, gwialen a phlât o aur oedd ‘wynebwerth’ brenin Gwynedd, yn ôl y llyfrau cyfraith. Ond yma, mae Bendigeidfran hefyd yn rhoi pair i Matholwch; nid unrhyw bair ond y Pair Dadeni, y crochan hwnnw sydd yn dod â’r meirw yn fyw drachefn. Mae’n talu’n ddrud am y rhodd arbennig hwn nes ymlaen yn y chwedl.

Daw doethineb Bendigeidfran i’r amlwg wrth i Matholwch adrodd hanes y pair. Pan oedd yn hela un diwrnod yn Iwerddon, gwelodd ŵr mawr ei faint yn dod allan o lyn, a phair ar ei gefn. Roedd gwraig enfawr gydag ef; ymhen pythefnos a mis rhoddodd y wraig enedigaeth i filwr arfog! Gofalodd Matholwch am y teulu rhyfedd hwn, a’u cynnal. Ond ymhen peth amser, dechreusant boenydio gwŷr a gwragedd y wlad ac roedd rhaid i Matholwch wneud rhywbeth yn eu cylch. Adeiladodd dŷ haearn, ei roi ar dân a cheisio llosgi’r teulu yn y fan a’r lle. Ond llwyddodd Llasar Llaes Gyfnewid a’i wraig Cymidei Cymeinfoll i ddianc o’r tŷ a dod drosodd i Ynys y Cedyrn gyda’r pair. Yma cawsant groeso mawr gan Bendigeidfran. Yn hytrach na’u hynysu a cheisio milwro yn eu herbyn, yr hyn a wnaeth ef oedd manteisio ar eu cryfderau er lles y wlad:

Eu rannu ym pob lle yn y kyuoeth, ac y maent yn lluossauc, ac yn dyrchauael ym pob lle, ac yn cadarnhau y uann y bythont, o wyr ac arueu goreu a welas neb.

Brenin hirben sydd yma, yn troi’r dŵr i’w felin ei hun.

Wrth glywed am gosb Branwen, ymateb greddfol Bendigeidfran yw ‘doluryaw’; yna mae'n trefnu cyrch i Iwerddon i ddial y sarhad gan ofalu gadael gwŷr i amddiffyn Ynys y Cedyrn yn ei absenoldeb. Mae’r disgrifiad grymus ohono’n nesáu at arfordir Iwerddon yn rhoi darlun clir inni am y tro cyntaf yn y chwedl o’i wir faint a’i bŵer, a’r lleihad ar y diwedd yn dweud y cyfan – ‘llidyawc yw’. Wedi cyrraedd Iwerddon pwysleisir ei rôl fel yr arweinydd par excellence wrth iddo orwedd ar draws afon Llinon a gorchymyn i’w wŷr gerdded drosto:

‘Nit oes,’ heb ynteu, ‘namyn a uo penn bit pont. Mi a uydaf pont’, heb ef.

Llwydda i daro bargen gyda’r Gwyddelod a sicrhau heddwch rhwng y ddwy blaid – dyma’r gwladweinydd delfrydol. Yna, wrth i weithred erchyll Efnysien arwain at ymladd drachefn, cawn ddarlun sensitif o’r brawd mawr yn gofalu am ei chwaer ac yn ei chysgodi rhwng ei darian a’i ysgwydd. Hyd yn oed wedi iddo dderbyn clwyf angheuol mae Bendigeidfran yn cynllunio ar gyfer y dyfodol gan geisio sicrhau heddwch i’r Ynys yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n gorchymyn i’w wŷr gladdu ei ben yn y Gwynfryn yn Llundain. Arwyddocâd hyn, yn ôl y chwedl, yw na ddeuai gormes fyth dros y môr tra byddai’r pen wedi ei guddio yno.

Brenin delfrydol, felly, ac yn esiampl i bob arweinydd. Ond efallai nad yw’r darlun mor ddu a gwyn â hynny. A ddylai Bendigeidfran efallai fod wedi cysidro cosbi ei hanner brawd? A yw efallai yn rhy gryf, yn rhy hael, ac yn rhy fyrbwyll? Ai gwendid yn ei gymeriad oedd rhoi’r pair i Matholwch ac ai chwant a barodd iddo ganiatáu i’r Gwyddelod adeiladu tŷ iddo, ‘peth ny chauas eiryoet’? A oedd yn rhy barod i ymddiried ynddynt? Wedi dweud hynny, fe gytunodd ar dermau heddwch ‘trwy gynghor Branuen’, hynny yw mae ei deyrngarwch i’w deulu yn llywio ei benderfyniad am yr eilwaith. Tybed a fyddai wedi derbyn cyngor gwahanol gan ei wŷr? Ochr yn ochr â Matholwch, mae Bendigeidfran heb os yn cael ei bortreadu fel brenin cryf ac fel arweinydd delfrydol. Ond tybed a oes awgrym cynnil erbyn diwedd y stori bod angen cytbwysedd ac angen gwrando?