Perfformio'r chwedlau

Trwy ganiatâd Margaret Jones, Cyngor Llyfrau Cymru, Y Lolfa a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Er bod y Pedair Cainc wedi cael eu trosglwyddo inni ar ffurf ysgrifenedig, maent yn amlwg yn tynnu’n helaeth ar y traddodiad llafar, a cheir ymdrech fwriadol i edrych yn ôl a lleoli’r digwyddiadau yn y gorffennol pell. Yn Branwen, mae’r awdur yn dychmygu cyfnod pan oedd Ynys Prydain yn un deyrnas, dan goron Llundain, cyn ymosodiadau’r Rhufeinwyr a’r Saeson. Mae’n siŵr y byddai hyn yn fodd i atgoffa’r gynulleidfa ganoloesol mai’r Cymry, disgynyddion yr hen Frythoniaid, oedd gwir etifeddion Ynys Prydain, ac y byddent un dydd yn codi ac yn rheoli’r Ynys unwaith eto ‒ thema boblogaidd iawn yn y cyfnod. Wedi dweud hynny, gwelwn yn yr adran ar themâu’r chwedl fod yr awdur yn defnyddio ac yn ail-greu deunydd traddodiadol i’w bwrpas ef ei hun, a hynny er mwyn mynegi gwerthoedd a safbwyntiau personol. Gwelwn hefyd fod yr awdur yn tynnu ar y byd llafar o safbwynt adeiladwaith ac arddull ei chwedl gan wneud defnydd helaeth o dechnegau naratif y storïwr canoloesol – ‘y cyfarwydd’ oedd yr enw a roddwyd arno. Wrth gwrs, nid trawsgrifiadau o chwedl lafar yw’r ail gainc – mae yma ôl datblygu a mireinio dulliau dweud y cyfarwydd. Eto i gyd, cofiwch mai gwrando fyddai’r arfer yn yr Oesoedd Canol – ychydig iawn o bobl a fedrai ddarllen. Byddai’r technegau hynny a oedd yn cael eu defnyddio gan y storïwr llafar felly yn parhau yn berthnasol wrth i awdur gyfansoddi stori i’w darllen yn uchel, o lawysgrif, o flaen cynulleidfa.