Ychydig a wyddom ynglŷn â sut y byddai'r chwedlau yn cael eu perfformio yng Nghymru’r Oesoedd Canol. Mae’r bedwaredd gainc yn dweud wrthym mai Gwydion oedd ‘y cyfarwydd gorau yn y byd’ a’i fod yn diddanu’r llys gyda’i straeon. Mae’n siŵr hefyd y byddai pobl yn cyflwyno straeon a hanesion i’w sgwrs bob dydd fel y gwelwn yn achos Matholwch sydd yn adrodd hanes y Pair Dadeni wrth ymddiddan gyda Bendigeidfran un noson yn ystod y wledd. Yn sicr, wrth adrodd stori ar lafar mae’n rhaid gallu cofio’r stori, a hynny’n cael effaith ar yr adeiladwaith. Mae chwedlau llafar yn tueddu i fod yn gronolegol ac yn episodig, gydag un llinyn i’r naratif. Cyflwynir episodau newydd gan ymadroddion fel ‘un tro’, ‘un dydd’, ‘un prynhawn’. Mae’r nodweddion hyn yn amlwg yn chwedl Branwen a’r stori wedi ei rhannu’n episodau, er enghraifft:
A frynhawngueith yd oed yn Hardlech yn Ardudwy...
Ac ar hynny dydgueith, nachaf Efnyssen...
A’r eil nos, eistedd y gyt a wnaethant.
Sef a wnaeth Heilyn uab Guyn dydgueith...
Yn wir, tybed ai’r episod oedd yr uned hollbwysig yn ystod perfformiad llafar? Hynny yw, ai adrodd episod fyddai’r arfer ar un eisteddiad yn hytrach na chwedl gyfan?
Gwelwn hefyd fod tuedd mewn chwedl lafar i ddefnyddio’r cysylltair ‘a’ i glymu brawddegau a chymalau ynghyd, ac adferfau cysylltiol megis ‘yna’ ac ‘wedyn’. Adlewyrchiad yw hyn mae’n debyg o ansawdd darniog iaith lafar – rydym yn tueddu i siarad mewn unedau sy’n gysylltiedig â’r ffordd y byddwn yn meddwl. Wrth ysgrifennu, mae gennym amser i integreiddio cyfres o syniadau’n unedau ieithyddol cyflawn gan ddefnyddio is-gymalau, er enghraifft. Ond ar lafar rhaid meddwl yn gyflym gan glymu unedau o syniadau ynghyd, yn aml iawn â chysyllteiriau, a’r mwyaf cyffredin o bell fordd yw ‘a’. Adlewyrchir y nodweddion hyn oll yn glir yn nhestun Branwen:
Ac yna y dechrewis y Gwydyl kynneu tan dan y peir dadeni. Ac yna y byrywyt y kalaned yn y peir, yny uei yn llawn, ac y kyuodyn tranoeth y bore yn wyr ymlad kystal a chynt, eithyr na ellynt dywedut. Ac yna pan welas Efnissyen y calaned heb enni yn un lle o wyr Ynys y Kedyrn, y dywot yn y uedwl, ‘Oy a Duw,’ heb ef, ‘guae ui uy mot yn achaws y'r wydwic honn o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi,’ heb ef, ‘ony cheissaf i waret rac hynn.’
Ac ymedyryaw ymlith calaned y Gwydyl, a dyuot deu Wydel uonllwm idaw, a'y uwrw yn y peir yn rith Gwydel. Emystynnu idaw ynteu yn y peir, yny dyrr y peir yn pedwar dryll, ac yny dyrr y galon ynteu.
Sylwch hefyd sut mae’r darn uchod yn defnyddio berfenwau (‘ymedyryaw’, ‘dyuot’, ‘uwrw’, ‘emystynnu’) yn ogystal â’r amser presennol (‘yny dyrr’) wrth i’r disgrifo ddwysáu, nodweddion sydd eto yn gyffredin mewn chwedl lafar er mwyn gwneud y perfformiad yn fwy dramatig.
Un cymorth i storïwr wrth gofio ei chwedlau yw’r defnydd o elfennau onomastig. Cysylltir y rhain yn aml ag enw lle penodol – maent yn atgof cyson o arwyddocâd y lle a’r hanes sydd ynghlwm ag ef, er enghraifft Talybolion, lle talwyd y meirch i Matholwch. Ceir yn Branwen hefyd eglurhad ar darddiad y ddihareb ‘a fo ben, bid bont’. Yn sicr, bob tro rydym yn clywed y ddihareb honno, mae’r darlun o Bendigeidfran yn gorwedd ar draws yr afon yn dod i’r meddwl a hynny’n fodd i’n hatgoffa o’r stori gyfan – pam mae Bendigeidfran yn gorwedd ar draws yr afon; pam y bu iddo fynd i Iwerddon yn y lle cyntaf; beth ddigwyddodd wedi i’w wŷr gerdded drosto yn ddiogel.