Mae stori Branwen yn un o bedair chwedl sydd yn cael eu hadnabod fel Pedair Cainc y Mabinogi. Chwedlau canoloesol yw’r rhain, ar gael yn gyflawn mewn dwy lawysgrif sef Llyfr Gwyn Rhydderch (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Peniarth 4), a Llyfr Coch Hergest (Coleg yr Iesu 111, Llyfrgell Bodley, Rhydychen). Byddwn yn defnyddio testun Llyfr Gwyn Rhydderch at ddiben yr adnodd hwn. Gallwch weld copi digidol o’r llawysgrif ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol . Mae chwedl Branwen yn dechrau ar golofn 38 y llawysgrif, 12 llinell i lawr y golofn. Nid oes teitl i’r chwedl ond mae’n amlwg bod stori newydd yn dechrau gan fod priflythyren fawr goch (B) ar ddechrau’r gair ‘Bendigeiduran’ – defnyddio rhuddell yw’r drefn gyffredin yn y llawysgrif i ddangos bod testun neu episod newydd yn dechrau. Copïwyd y Llyfr Gwyn tua 1350 gan bump o gopïwyr ym mynachlog Ystrad Fflur yn ôl pob tebyg, ar gyfer gŵr o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Barcrhydderch, plwyf Llangeitho, Ceredigion. Dyna egluro’r ‘Rhydderch’ felly yn enw’r gyfrol, tra bo’r ‘gwyn’, yn ôl pob tebyg, yn cyfeirio at liw rhwymiad gwreiddiol y llawysgrif.