bwriad o gadarnhau’r cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad drwy briodi
brenin un wlad â chwaer brenin y wlad arall. Caniatawyd hynny iddo,
a mawr oedd y llawenydd.
A'r gyfeddach a ddechreusant. Dilid y gyfeddach a wnaethant ag ymddiddan.
A phan welsant fod yn well iddynt gymryd hun no dilid cyfeddach, i
gysgu ydd aethant. A'r nos honno y cysgwys Matholwch gan Franwen. A
thrannoeth, cyfodi a orugant pawb o nifer y llys; a'r swyddwyr a ddechreusant
ymarfar am raniad y meirch a'r gweison. Ac eu rhannu a wnaethant ym
mhob cyfair hyd y môr. Ac ar hynny dyddgwaith, nachaf Efnysen [y] gŵr
anangnefeddus a ddywedasam uchod, yn dywanu i lety meirch Matholwch, a
gofyn a wnaeth, pioedd y meirch.
‘Meirch Matholwch brenin Iwerddon yw y rhai hyn,’ heb wy.
‘Beth a wnânt wy yna?’ heb ef.
‘Yma y mae brenin Iwerddon, ac yr gysgwys gan Franwen dy chwaer,
a’i feirch yw y rhai hyn.’
‘Ai yfelly y gwnaethant wy am forwyn cystal â honno, ac yn chwaer i
minnau, ei rhoddi heb fy nghaniad i? Ni ellynt wy tremig fwy arnaf i,’ heb ef.
Ac yn hynny gwân i dan y meirch, a thorri eu gweflau wrth y dannedd
iddynt, a'r clustau wrth eu pennau, a'r rhawn wrth y cefn; ac ny caei graff ar
yr amrannau, eu lladd wrth yr asgwrn. A gwneuthur anffurf ar y meirch
yfelly, hyd nad oedd rym a ellid â'r meirch.
Y chwedl a ddoeth at Fatholwch. Sef fal y doeth, dywedyd anffurfo ei
feirch ac eu llygru, hyd nad oed un mwyniant a ellid ohonynt.
‘Ie, Arglwydd,’ heb un, ‘dy waradwyddo yr a wnaethpwyd, a hynny a
fynnir ei wneuthur â thi.’
‘Dioer, eres gennyf os fy ngwaradwyddo a fynnynt roddi morwyn
gystal, cyfurdd, gyn anwyled gan ei chenedl, ag a roddysant im.’
‘Arglwydd,’ heb un arall, ‘ti a weli dangos, os ef. Ac nid oes it a wnelych,
namyn cyrchu dy longau.’ Ac ar hynny arofun ei longau a wnaeth ef.
Y chwedl a ddoeth at Fendigeidfran, bod Matholwch yn ado y llys, heb
ofyn, heb ganiad. A chenhadau a aeth i ofyn iddo, paham oedd hynny. Sef
cenhadau a aeth, Iddig fab Anarog, ac Efeydd Hir. Y gwŷr hynny a'i
goddiwodd, ac a ofynysant iddo, pa ddarpar oed yr eiddo, a pha achos ydd
oedd yn myned i ymdaith.
‘Dioer,’ heb yntau, ‘pei ys gwypwn, ni ddown yma. Cwbl waradwydd a gefais.
Ac ni ddug neb cyrch waeth no'r dugum yma. A rhefeddod rygyferyw â mi.’
‘Beth yw hynny?’ heb wynt.
‘Rhoddi Bronwen ferch Lŷr im, yn drydedd prif rieni yr ynys hon, ac yn
ferch i frenin Ynys y Cedeirn, a chysgu genthi, a gwedy hynny fy
ngwaradwyddo. A rhyfedd oedd gennyf, nad cyn rhoddi morwyn gystal â honno
im, y gwneid y gwaradwydd a wnelid im.’
‘Dioer, Arglwydd, nid o fodd y neb a feddai y llys,’ heb wynt, ‘na neb o'i
gyngor y gwnaethpwyd y gwaradwydd hwnnw it. A chyd bo gwaradwydd
gennyt ti hynny, mwy yw gan Fendigeidfran no chennyt ti, y tremig hwnnw
a'r gware.’
‘Ie,’ heb ef, ‘mi a debygaf. Ac eisoes ni eill ef fy niwaradwyddo i o hynny.’
Y gwŷr hynny a ymchwelwys â'r ateb hwnnw, parth â'r lle ydd oedd
Fendigeidfran, a menegi iddo yr ateb a ddywedysei Fatholwch.
‘Ie,’ heb yntau, ‘nid oes ymwared ei fyned ef yn anyngnefeddus, ac nis
gadwn.’
‘Ie, Arglwydd,’ heb wy, ‘anfon etwa genhadau yn ei ôl.’
‘Anfonaf,’ heb ef. ‘Cyfodwch, Fanawydan fab Llŷr, ac Efeydd Hir, ac
Unig Glew Ysgwydd, ac ewch yn ei ôl,’ heb ef, ‘a menegwch iddo, ef a gaiff march
iach am bob un o'r a lygrwyd; ac yngyd â hynny, ef a gaiff yn wynepwerth iddo
llathen ariant a fo kyfref â’i fys bychan a chyhyd ag ef ei hun, a chlawr
aur kyfled â’i wyneb; a menegwch iddo pa ryw ŵr a wnaeth hynny, a phan
yw o'm anfodd innau y gwnaethpwyd hynny; ac y mai brawd un fam â mi a
wnaeth hynny, ac nad hawdd gennyf i na'i ladd na'i ddifetha; a doed i
ymweled â mi,’ heb ef, ‘a mi a wnaf y dangnefedd ar y llun y mynno ei hun.’
Y cenhadau a aethant ar ôl Matholwch, ac a fanagysant iddo yr
ymadrodd hwnnw yn garedig, ac ef a'i gwerendewis.
‘A wŷr,’ heb ef, ‘ni a gymerwn gyngor.’ Ef a aeth yn ei gyngor; sef
cyngor a feddylysant: os gwrthod hynny a wnelynt, bod yn debycach
ganddynt gael cywilydd a fai fwy, no chael iawn a fai fwy. A disgynnu a
wnaeth ar gymryd hynny. Ac i'r llys y daethant yn dangnefeddus. A
chyweiro y pebyllau a'r pallau a wnaethant iddynt ar fraint cyweirdeb
yneuadd, a myned i fwyta. Ac fal y dechreuysant eistedd ar ddechrau y wledd,
ydd eisteddysant yna.
A dechrau ymddiddan a wnaeth Matholwch a Bendigeidfran. Ac nachaf
yn arddïog gan Fendigeidfran yr ymddiddan, ac yn drist, a gaei gan
Fatholwch, a'i lywenydd yn wastad cyn no hynny. A meddylio a wnaeth,
bod yn athrist gan yr unben fychaned a gawsai o iawn am ei gam.
‘A ŵr,’ heb y Bendigeidfran, ‘nid wyt gystal ymddiddanwr heno ag un nos.
Ac os yr bychaned gennyt ti dy iawn, ti a gehi ychwanegu it wrth dy
fynnu, ac afory talu dy feirch it.’
‘Arglwydd,’ heb ef, ‘Duw a dalo it.’
‘Mi a delediwaf dy iawn hefyd it,’ heb y Bendigeidfran. ‘Mi a roddaf it
bair; a chynneddf y pair yw, y gŵr a ladder heddiw it, ei fwrw yn y pair, ac
erbyn afory ei fod yn gystal ag y bu orau, eithr na bydd llyferydd ganddo.’
A diolwch a wnaeth yntau hynny, a dirfawr lywenydd a gymerth yntau
o'r achos hwnnw. A thrannoeth y talwyd ei feirch iddo, tra barhodd
meirch dof. Ac oddyna y cyrchwyd ag ef cymwd arall, ac y talwyd ebolion
iddo, yny fu gwbl iddo ei dâl. Ac wrth hynny y doded ar y cymwd
hwnnw, o hynny allan, Tâl Ebolion.
Fe ddychwelodd y brenin a’i arglwyddes i Iwerddon a chael croeso brwd.
Ymhen y flwyddyn ganwyd mab iddynt, Gwern fab Matholwch. Ond yn
fuan wedyn, newidiodd yr hinsawdd gwleidyddol.
A hynny yn yr ail flwyddyn, llyma ymodwrdd yn Iwerddon am y gwaradwydd a
gawsai Matholwch yng Nghymru, a'r som a wnathoeddid iddo am ei feirch. A
hynny ei frodyr maeth, a'r gwŷr nesaf ganddo, yn lliwo iddo hynny, a
heb ei gelu. A nachaf y dygyfor yn Iwerddon hyd nad oedd lonydd iddo oni
chaei dial y sarahed. Sef dial a wnaethant, gyrru Branwen o un ystafell ag ef,
a'i chymell i bobi yn y llys, a pheri i'r cigydd, gwedi bai yn dryllio cig,
ddyfod iddi a tharo bonclust arni beunydd. Ac yfelly y gwnaethpwyd ei phoen.
‘Ie, Arglwydd,’ heb ei wŷr wrth Fatholwch, ‘pâr weithon wahardd y
llongau, a'r yscraffau, a'r corygau, fal nad êl neb i Gymru; ac a ddêl yma o
Gymru, carchara wynt ac na ad trachefn, rhag gwybod hyn.’ Ac ar hynny y
disgynysant.
Blwynyddedd nid llai no thair y buant yfelly. Ac yn hynny, meithryn
ederyn drudwen a wnaeth hithau ar dâl y noe gyda hi, a dysgu iaith iddi, a
menegi i'r ederyn y rhyw ŵr oedd ei brawt. A dwyn llythyr y poenau a'r
amharch a oedd arni hithau. A'r llythyr a rwymwyd am fôn esgyll yr
ederyn, a'i anfon parth â Chymu. A'r ederyn a ddoeth i'r ynys hon. Sef
lle y cafas Fendigeidfran, yng Nghaer Saint yn Arfon, yn dadlau iddo
dyddgwaith. A disgynnu ar ei ysgwydd, a garwhau ei phluf, yny arganfuwyd y
Branwen yn hyfforddi'r drudwy o'r llyfr 'Lady Charlotte Guest's Mabinogion'
llythyr, ac adnabod meithryn yr ederyn
yng nghyfannedd. Ac yna cymryd y llythyr
a'i edrych. A phan ddarllewyd y llythyr,
dolurio a wnaeth o glybod y poen oedd
ar Franwen, a dechrau o'r lle hwnnw
peri anfon cenhadau i ddygyforio yr
ynys hon yngyd...
A meichaid Matholwch a oeddynt ar lan y weilgi dyddgwaith, yn troi yng nghylch
eu moch. Ac o achos y dremynt a welsant ar y weilgi, wy a ddoethant at
Matholwch.
‘Arglwydd,’ heb wy, ‘henffych gwell.’
‘Duw a roddo da iwch,’ heb ef, ‘a chwedlau gennwch?’
‘Arglwydd,’ heb wy, ‘mae gennym ni chwedlau rhyfedd; coed rywelsom ar y
weilgi, yn y lle ni welsam eirioed un pren.’
‘Llyna beth eres,’ heb ef. ‘A welewch chwi dim namyn hynny?’
‘Gwelem, Arglwydd,’ heb wy, ‘mynydd mawr gyr llaw y coed, a hwnnw ar
gerdded; ac esgair aruchel ar y mynydd, a llyn o bob parth i'r esgair; a'r coed,
a'r mynydd, a phob peth oll o hynny ar gerdded.’
‘Ie,’ heb yntau, ‘nid oes neb yma a wypo dim i wrth hynny, onis gŵyr
Branwen. Gofynnwch iddi.’
Cenhadau a aeth at Franwen. ‘Arglwyddes,’ heb wy, ‘beth dybygi di yw
hynny?’
‘Cyn ni bwyf arglwyddes,’ heb hi, ‘mi a wn beth yw hynny. Gwŷr Ynys
y Kedyrn yn dyfod drwodd o glybod fy mhoen a'm amharch."
‘Beth yw y coed a welad ar y môr?’ heb wy.
‘Gwernenni llongau, a hwylbrenni,’ heb hi.
‘Och,’ heb wy, ‘beth oedd y mynydd a welid gan ystlys y llongau?’
‘Bendigeidfran fy mrawd,’ heb hi, ‘oedd hwnnw, yn dyfod i fais. Nid
oedd llong y cynghanai ef ynddi.’
‘Beth oedd yr esgair aruchel a'r llyn o bob parth i’r esgair?’
‘Ef,’ heb hi, ‘yn edrych ar yr ynys hon, llidiog yw. Ei ddau lygad ef o
bob parth i’w drwyn yw y ddwy lyn o bob parth i'r esgair.’
Ac yna dygyfor holl wŷr ymladd Iwerddon a wnaethpwyd yngyd, a'r holl
forbennydd yn gyflym, a chyngor a gymerwyd.
'Arglwydd,' heb ei wyrda wrth Fatholwch, 'nid oes gyngor namyn
cilio drwy Linon (afon oedd yn Iwerddon), a gadu Llinon i rot ag ef, a
thorri y bont ysydd ar yr afon. A main sugn ysydd yng ngwaelod yr afon, ni
eill na llong na llestr arni.' Wynt a gilysant drwy yr afon, ac a
dorysant y bont.
Bendigeidfran a ddoeth i'r tir, a llynges yngyd ag ef, parth â glan yr afon.
‘Arglwydd,’ heb ei wyrda, ‘ti a wddost cynneddf yr afon, ni eill neb fyned
drwyddi, nid oes bont arni hithau. Mae dy gyngor am bont?’ heb wy.
‘Nid oes,’ heb yntau, ‘namyn a fo pen bid pont. Mi a fyddaf pont’, heb
ef. Ac yna gyntaf y dywedpwyd y gair hwnnw, ac y diharebir etwa ohono.
Dymunai Branwen gymod rhwng ei brawd a’i gŵr, a phenderfynwyd
anrhydeddu Bendigeidfran drwy godi tŷ iddo gan nad oedd Bendigeidfran,
oherwydd ei faint, erioed wedi medru cael tŷ a oedd yn ddigon mawr
i’w gynnwys. Adeiladwyd y tŷ iddo, ond ar bob un o’i gan colofn
rhoddodd y Gwyddelod filwr i guddio mewn sach o groen, yn barod i
ddistrywio’r Cymry pan ddeuent i’r wledd a oedd i’w chynnal yno.
Efnisien oedd yr un a ddarganfu’r twyll, a gwasgodd bennau’r milwyr
nes bod ei fysedd yn suddo i mewn i’w hymennydd drwy’r asgwrn.
Cymodwyd y ddwy wlad drwy ddadurddo Matholwch ac estyn y
frenhiniaeth i’w fab ifanc, Gwern. Gan fod Gwern yn symbol o’r uniad
rhwng Matholwch a Branwen yr oedd Efnisien wedi ei wrthwynebu
mor daer, taflodd Efnisien Gwern i’r tân a dechreuodd pawb drwy’r tŷ
ailafael yn yr ymladd.
Ac yna y dechrewis y Gwyddyl cynnau tân dan y pair dadeni. Ac yna y
byriwyd y calanedd yn y pair, yny fai yn llawn, ac y cyfodyn trannoeth y
bore yn wŷr ymladd cystal â chynt, eithr na ellynt dywedyd. Ac yna pan
welas Efnysien y calanedd heb enni yn un lle o wŷr Ynys y Cedyrn, y dywod
yn ei feddwl, ‘Oi a Duw,’ heb ef, ‘gwae fi fy mod yn achos i'r wyddwig hon
o wŷr Ynys y Cedyrn; a mefl imi,’ heb ef, ‘oni cheisaf i wared rhag hyn.’
Ac ymedyrio ymlith calanedd y Gwyddyl, a dyfod dau Wyddel fonllwm
iddo, a'i fwrw yn y pair yn rhith Gwyddel. Ymystynnu iddo yntau yn y pair,
yny dyrr y pair yn bedwar dryll, ac yny dyrr ei galon yntau. Ac o hynny y
bu y maint gorfod a fu i wŷr Ynys y Cedyrn. Ni bu orfod o hynny eithr
dianc seithwyr, a brathu Bendigeidfran yn y troed â gwenwynwayw.
Sef seithwyr a ddiengis, Pryderi, Manawydan, Glifiau Ail Taran,
Taliesin, ac Ynog, Gruddiau fab Muriel, Heilyn fab Gwyn Hen.
Ac yna y peris Bendigeidfran lladd ei benn. ‘A chymerwch chwi y pen,’
heb ef, ‘a dygwch hyd y Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch â’i wyneb ar
Ffrainc ef. A chwi a fyddwch ar y fordd yn hir; yn Harddlech y byddwch saith
mlynedd ar ginio, ac Adar Rhiannon y canu iwch. A'r pen a fydd cystal
gennwch ei gedymdeithas ag y bu orau gennwch, ban fu arnaf i eirioed. Ac
i Gwales ym Mhenfro y byddwch pedwarugaint mlynedd. Ac yny agoroch y
drws parth ag Aber Henfelen, y tu ar Gernyw, y gellwch fod yno a'r pen
yn ddilwgr gennwch. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw, ni ellwch fod yno.
Cyrchwch Lundein i gladdu y pen. A chyrchwch chwi rhagoch drwodd.’
Ac yna y llas ei ben ef, ac y cychwynasant â'r pen ganddu drwodd, y
seithwyr hyn, a Branwen yn wythfed. Ac i Aber Alaw yn Nhal Ebolion y
Llun o'r wrn yn cynnwys llwch a gweddillion esgyrn a ddarganfuwyd ar lan Afon Alaw. Cysylltwyd y rhain â Branwen gan rai, a daethpwyd i adnabod y llecyn fel Bedd Branwen. Daw'r llun o lyfr 'Lady Charlotte Guest's Mabinogion'.