Perthynas

Trwy ganiatâd Brett Breckon a Gwasg Gomer

Mae’n amlwg bod ymwneud y cymeriadau â’i gilydd o ddiddordeb mawr i’r awdur. Gallwn ddosbarthu’r math o berthynas a welwn yn y chwedl yn dri chategori: perthynas o fewn teulu, perthynas o fewn priodas, a pherthynas rhwng brenin a’i wŷr a hynny yn arwain at is-thema sef ‘brenhiniaeth’.

Mae perthynas deuluol yn amlwg iawn yn y chwedl o’r cychwyn cyntaf. Fe’n cyflwynir i aelodau’r teulu – Bendigeidfran, Manawydan a Branwen, a’u dau hanner brawd Nysien ac Efnysien. Ond buan iawn y mae Efnysien yn creu problem i Bendigeidfran. Mae’n digio am nad yw wedi bod yn rhan o’r penderfyniad i roi ei hanner chwaer yn wraig i Matholwch ac yna, wrth ddifetha y meirch, yn creu dilema i’w hanner brawd. Barn Bendigeidfran yw na all gosbi Efnysien gan mai ‘brawt un uam a mi a wnaeth hynny, ac nat hawd genhyf i na’e lad na’e diuetha.’ Mae’n rhoi pwyslais, felly, ar y cwlwm gwaed sydd rhyngddo ac Efnysien. Mae Branwen, ar y llaw arall, bellach mewn safle amwys, yn aelod o ddau deulu, ond byth yn cael ei hintegreiddio’n llwyr i deulu ei gŵr (gweler yr adran ar Cymeriadau).

Yn ail ran y stori mae’n arwyddocaol sut mae’r cymeriadau yn tynnu sylw’n benodol at eu cysylltiadau teuluol. Pan yw’r negeseuwyr yn gofyn i Branwen beth yw’r olygfa ar y môr, ei hateb yw: ‘Bendigeiduran uym brawt...’ Pan yw Matholwch yn cynnig amodau heddwch, mae’n atgoffa Bendigeidfran eu bod bellach yn perthyn, ac yn cynnig rhoi brenhiniaeth Iwerddon ‘i Wern uab Matholwch, dy nei ditheu, uab dy chwaer’. A sylwch ar eiriau Efnysien cyn iddo daflu Gwern i’r tân: ‘Paham... na daw uy nei uab uy chwaer ataf i?’ Mae hyd yn oed Caswallon fab Beli yn atal rhag lladd Caradog fab Brân oherwydd ‘y nei uab y geuynderw oed.’ Wrth ddarllen y testun yn ofalus gwelwn, felly, y cymhlethdodau teuluol sydd yn dod i’r amlwg yn y chwedl a’r sefyllfaoedd amwys sydd yn codi yn achos teuluoedd estynedig.