Ond nid dyma ddiwedd y gynnen. Bwriad y Gwyddelod yw cuddio gwŷr arfog yn yr adeilad ysblennydd sydd wedi ei adeiladu i Bendigeidfran fel rhan o’i iawndal – eu nod yw lladd gwŷr Ynys y Cedyrn, trwy dwyll. Fodd bynnag, yn annisgwyl efallai, mae Efnysien yn llwyddo i ddileu’r bygythiad trwy wasgu pennau’r milwyr yn y sachau a’u lladd.
Ymddengys unwaith eto, felly, fod y sarhau a’r dial ar ben, a daw pawb i eistedd gyda’i gilydd yn heddychlon, adlais o’r wledd briodasol ar ddechrau’r stori. Mae’r ddwy wlad wedi cymodi a daw diwedd ar y gynnen sydd wedi gwthio’r plot yn ei flaen trwy gydol y naratif. Gallwn ymlacio a disgwyl diweddglo hapus i’r stori. Ond na. Mae Efnysien yn cael ei anwybyddu unwaith eto gan ei deulu, yn union fel ar ddechrau’r stori pan briodwyd Branwen heb ei ganiatâd: mae’r plentyn Gwern, symbol o’r uniad rhwng Iwerddon ac Ynys y Cedyrn, yn mynd yn ei dro at bob un o’i ewythrod – Bendigeidfran, Manawydan a Nysien. Mae Efnysien yn gofyn pam na ddaw’r bachgen ato ef; ond wedi iddo wneud hynny mae Efnysien yn atgyfodi’r gynnen drwy daflu’r bachgen druan i’r tân. Mae hyn yn arwain at laddfa erchyll. Gwŷr Ynys y Cedyrn sydd yn fuddugol, ond buddugoliaeth wag ydyw – saith yn unig sydd yn goroesi, ynghyd â Branwen.
Wedi i’r saith ddychwelyd i Brydain, gwelir cynnen yn parhau; nid rhwng Iwerddon ac Ynys y Cedyrn y tro hwn ond rhwng aelodau o’r un teulu. Yr oedd Bendigeidfran wedi gadael ei fab Caradog i ofalu am yr ynys yn ei absenoldeb. Ond cawn glywed bod Caswallon fab Beli wedi goresgyn yr ynys a gwneud ei hun yn frenin. Nid oedd am ladd Caradog gan fod y ddau yn perthyn – roedd Caradog yn fab i’w gefnder. Ond torrodd Caradog ei galon gan dristwch. Fel yn achos y milwyr yn y sachau, twyll sydd wrth wraidd yr episod hon hefyd gan fod Caswallon wedi gwisgo mantell hud amdano wrth ymladd, a honno’n ei wneud yn anweledig. Nid yw'n syndod felly ei fod wedi ennill y dydd.
Cyn i’r stori orffen cawn saib o’r holl frwydro a’r dioddefaint wrth i wŷr Bendigeidfran gael lloches ar yr ynys baradwysaidd honno, Ynys Gwales. Ond lloches dros dro yn unig yw hwn, ac wrth i Heilyn agor y drws sydd yn wynebu Aber Henfelen, cawn ein hatgoffa nad oes dim modd dianc o realiti bywyd. Wedi dweud hynny, hyd yn oed wedi ei farwolaeth, mae Bendigeidfran yn ceisio sicrhau na ddaw ymrafael eto i Ynys y Cedyrn drwy drefnu bod ei ben yn cael ei gladdu yn Llundain, i gadw draw unrhyw ormes.
Trwy ddilyn thema ‘cynnen’ a’i is-themâu, mae Branwen yn dangos pa mor ddinistriol yw’r ddynoliaeth a pha mor ofer yw brwydro. Dylid talu am sarhad, ond talu unwaith ac am byth; mae dial di-ben-draw a thwyll yn difa cymdeithas. Ceir sawl cyfle yn y stori i sicrhau heddwch ond mae pob un cyfle yn mynd yn wastraff. Gwelir hefyd mai’r diniwed sy’n dioddef – mam a’i phlentyn.