Dyma gymeriad cymhleth a gwyrdroëdig, y gwrthwyneb i’w frawd Nysien. Cawn glywed ar ddechrau’r chwedl mai heddychwr yw Nysien; mae Efnysien, ar y llaw arall, â’i fryd ar greu helynt ac yn peri ymladd rhwng dau frawd pan ydynt yn caru ei gilydd fwyaf. Ef yw’r catalydd neu’r ysbardun sydd yn achosi’r gynnen yn y lle cyntaf rhwng Iwerddon ac Ynys y Cedyrn – mae’n teimlo ei fod wedi derbyn sarhad (tremic yw’r gair a ddefnyddir ganddo) gan Bendigeidfran wrth iddo roi Branwen yn wraig i Matholwch heb ei ganiatâd. Nid yw’n dial ar ei hanner brawd, fodd bynnag, ond ar Matholwch, brenin Iwerddon, a hynny trwy ymosod yn greulon ar ei geffylau. Mae hyn yn dangos elfen afresymol yn ei gymeriad. Mae’n ddiddorol sylwi nad lladd y ceffylau a wna Efnysien, ond eu hanffurfio, gweithred sydd yn greulonach o lawer sy'n peri dioddefaint i’r ceffylau. Sylwch hefyd ar sut y mae’r awdur yn disgrifio’r weithred erchyll hon yn fanwl – mae’r cyfan yn weledol dros ben.
Ni chyfeirir at Efnysien wedyn hyd nes iddo ddyfod i mewn i’r tŷ enfawr y mae’r Gwyddelod wedi ei adeiladu yn arbennig ar gyfer Bendigeidfran. Y tro hwn, y mae’r awdur yn ei ddisgrifio’n benodol – ‘ac edrych golygon orwyllt antrugarawc ar hyt y ty’ – sydd yn awgrymu ein bod ar fin gweld gweithred debyg i’r hyn a welwyd yn achos y ceffylau. A dyna sy'n digwydd. Mae Efnysien yn darganfod twyll y Gwyddelod ac yn gwasgu pen pob milwr nes bod ei fysedd yn suddo i mewn i’w hymennydd drwy’r asgwrn. Ond yn yr achos hwn gellid dadlau bod ganddo reswm teilwng dros ei weithred, ac mai ei deyrngarwch i’w dylwyth sydd y tu ôl i’w ymddygiad. Mae felly, i ryw raddau, yn adfer peth o’i hunan-barch, dim ond i’w golli eto wrth daflu Gwern, ei nai, i’r tân:
‘Y Duw y dygaf uyg kyffes,’ heb ynteu yn y uedwl, ‘ys anhebic a gyflauan gan y tylwyth y wneuthur, a wnaf i yr awr honn.’ A chyuodi y uynyd, a chymryt y mab erwyd y traet, a heb ohir, na chael o dyn yn y ty gauael arnaw, yny want y mab yn wysc y benn yn y gynneu.
Mae fel petai’n mwynhau dychmygu’r sioc a’r braw a ddaw yn sgil ei weithred greulon. Nid trwy gyfrwng deialog y cawn wybod am gymeriad Efnysien ond trwy ei weithredoedd a thrwy ei ymsonau byrion. Sylwch yn y dyfyniad uchod mai dweud pethau ‘yn ei feddwl’ a wna – hynny yw cadw pethau iddo’i hun yn hytrach na chyfathrebu a rhannu ei deimladau ag eraill. Dyn unig ydyw, sy’n teimlo ei fod wedi cael cam, a’r cyfan yn corddi y tu mewn iddo. Ceir rhyw awgrym, fodd bynnag, yn ei weithred olaf un, fod gobaith hyd yn oed i’r pechadur mwyaf wrth iddo edifarhau a cheisio gwneud iawn am ei ddrwgweithredoedd:
‘Oy a Duw,’ heb ef, ‘guae ui uy mot yn achaws y’r wydwic honn o wyr Ynys y Kedyrn; a meuyl ymi,’ heb ef, ‘ony cheissaf i waret rac hynn.’
Gwelir, felly, nad yw Efnysien yn ddrwg i gyd – trwy ei hunanaberth ef sicrheir buddugoliaeth. Wedi dweud hynny, pwysleisir mai buddugoliaeth wag yw hon – saith yn unig, ynghyd â Branwen, sydd yn dianc yn fyw o faes y gad. Wrth ymestyn yn y pair mae ei galon yn torri’n llythrennol; tor calon sydd yn achosi marwolaeth Branwen hithau. Yn eironig ddigon, felly, mae'r brawd a'r chwaer yn cael eu huno yn y modd y maen nhw'n marw. Ac nid hynny yn unig – torrir y pair yn bedwar darn drwy weithred Efnysien tra bo Branwen yn cael ei chladdu mewn ‘bed petrual’, sef bedd pedair ochr.