Perthynas

Mike Collins. Trwy ganiatâd S4C

Mae’r berthynas briodasol rhwng Branwen a Matholwch yn greiddiol i’r chwedl; wedi’r cyfan, dyna pam y daeth Matholwch i Ynys y Cedyrn yn y lle cyntaf, sef i glymu’r ddwy ynys ynghyd trwy berson Branwen. Priodas boliticaidd yw hon, heb unrhyw sôn am na serch na chariad. Yn ôl y testunau cyfreithiol yr oedd tri theip o uniad yn bosibl: uniad trwy ‘rodd cenedl’, hynny yw pan oedd morwyn wyryf yn cael ei rhoi gan aelodau gwrywaidd ei theulu i ŵr; ‘llathludd’, pan âi’r ferch heb ganiatâd ei theulu; a ‘thrais’, pan dreisid merch yn erbyn ei hewyllys. Roedd yr uniadau hyn yn cael eu nodi gan gyfres o daliadau, er enghraifft ‘cowyll’, sef tâl morwyndod a roddai’r gŵr i’w wraig yn y bore wedi’r uniad. Yn wir, yr oedd gwerth mawr yn cael ei roi ar gadw purdeb merch cyn iddi briodi ac ar ddiogelu ei henw da wedi’r briodas. Nid oedd gwerth i’r ferch onid oedd yn wyryf cyn priodi, a rhaid oedd i’w theulu dystio drosti. Yr oedd camweddau o fewn priodas yn arwain at daliadau arbennig, er enghraifft gallai gwraig hawlio iawndal petai ei gŵr yn ei tharo, heblaw am dri achos arbennig – am roddi’n anrheg rywbeth na ddylai ei roddi; am ei darganfod gyda gŵr arall, ac am iddi dyngu mefl ar ei farf, sef codi amheuaeth ynglŷn â’i wrywdod. Cymdeithas a oedd yn cael ei rheoli gan ddynion oedd y gymdeithas ganoloesol, ac adlewyrchir hyn yn glir yn y berthynas rhwng Branwen a Matholwch. Sylwch na chawn unrhyw ddeialog rhyngddynt yn y chwedl – mae popeth yn cael ei reoli naill ai gan Bendigeidfran neu gynghorwyr Matholwch. O graffu ar y berthynas, neu’n hytrach y diffyg perthynas rhyngddynt, gwelir sut mae hyn yn arwain at drychineb yn y pen draw. Tybed a yw’r awdur yn ceisio dweud rhywbeth yma am natur priodas yn y cyfnod. Roedd priodas, a geni etifedd, yn rhan hanfodol o rwydwaith gymdeithasol eang a phob pâr priod yn cael ei reoli gan y teulu ar ddiwedd y dydd.