Malta

Agweddau a diwylliant

Mae Malta wedi bod yn gyrchfan poblogaidd i ymwelwyr ers peth amser. Mae’r ynysoedd yn cynnig dyfroedd clir a chynnes ar gyfer nofio a phlymio yn ogystal â llwybrau i gerdded. Hefyd, mae gwarant o haul poeth ar yr ynysoedd drwy fisoedd yr haf ac mae’n ddymunol ymweld â nhw drwy gydol y rhan fwyaf o’r flwyddyn.

Mae’r ffactorau hyn wedi annog nifer o ymwelwyr i fynd yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae Malta’n cael nifer o ail-ymweliadau gan dwristiaid sy’n teimlo fod Malta yn ddiogel, yn gyfarwydd ac yn gyffyrddus. Mae pobl Malta yn cael y gair o fod yn hynod gyfeillgar a chroesawgar.

I dwristiaid y DU, mae’r ffaith bod Saesneg yn cael ei siarad yn helaeth yn fantais fawr. Mae’r ffaith fod cynifer o’r arwyddion yn Saesneg yn rhoi hyder i’r ymwelwyr hyn, ynghyd â’r ffaith eu bod yn adnabod cymaint o enwau siopau a thai bwyta.

Mae pobl Malta yn derbyn y ffaith eu bod yn dibynnu’n drwm ar dwristiaeth ac maent hefyd yn gwerthfawrogi’r cysylltiadau sydd ganddynt â’r DU..

Ymarfer crynhoi