Malta

Atyniadau adeiledig

Mae’n bwysig deall fod Malta wedi datblygu’n un o’r cyrchfannau ‘twristiaeth dorfol’ cyntaf pan oedd twristiaid yn disgwyl llai nag y maent heddiw. Roedd yr addewid am dymheredd poeth yn yr haf yn golygu fod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn hapus i fwynhau’r heulwen a’r moroedd cynnes. Roedd Malta yn bendant yn gyrchfan ‘haul, môr a thywod’.

Oherwydd hyn, nid yw Malta wedi datblygu’r amrywiaeth o atyniadau adeiledig sy’n gyffredin mewn cyrchfannau eraill. Ond, mae parciau dŵr bach ar gael.

Ymhlith y rhai y mae:

• Parc Morol Mediterraneo sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr ryngweithio gyda nifer o greaduriaid y môr.

• Splash and fun Water Park - sy’n cynnwys sleidiau a llithrennau o bob math i blant.

• Parc Anifeiliaid LWS – parc addysgiadol gyda difyrion.

• Pentref Sweethaven – sydd hefyd yn cael ei adnabod fel pentref Popeye. Adeiladwyd yr atyniad hwn fel set i ffilm Popeye beth amser yn ôl a bellach mae’n atyniad twristaidd ynddo’i hun. Mae cwch a adeiladwyd ar gyfer y ffilm wedi ei drawsnewid yn dŷ bwyta.

................

• Canolfan Bay Street – ardal yn nhref glan môr St Julian’s sydd wedi ei datblygu’n ganolfan adloniant.

Gellir ystyried yr amrywiaeth o deithiau môr diwrnod neu hanner diwrnod o amgylch yr ynysoedd Maltaidd yn atyniadau hefyd.

Mae nifer o ymwelwyr yn dewis gwneud o leiaf un o’r teithiau hyn o amgylch y Grand Harbour yn Valetta neu i Gozo a Comino. Mae’r rhain yn boblogaidd oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i dwristiaid ddeall hanes Valetta a gweld arfordir arbennig Malta.

Hefyd, mae nifer o atyniadau wedi cael eu datblygu sy’n rhoi sylw i hanes Malta. Mae’r rhain yn cynnwys y Malta Experience, Amgueddfa Ryfel Malta (Malta at War) a’r Amgueddfa Hedfan.

Gweithgaredd 4