Malta

Effaith twristiaeth

Heb amheuaeth mae Malta’n dibynnu’n drwm ar dwristiaeth, gyda bron i 40% o enillion ynysoedd Malta yn gysylltiedig â thwristiaeth mewn rhyw ffordd.

Yn y gorffennol bu’r ynysoedd yn dibynnu’n ormodol ar drefnyddion gwyliau yn dod â phobl gwyliau pecyn i’r ynys. Roedd hyn yn golygu nad oedd yr arian roedd yr ymwelwyr yn ei dalu bob amser yn aros yn Malta.

Hefyd, gan fod twristiaeth wedi cynyddu mor gyflym yn yr 1970au, ni chafodd rhai gwestai eu hadeiladu gystal ag y gallent, oedd yn golygu fod rhai ardaloedd yn edrych yn llai deniadol.

Yn ddiweddar, adeiladwyd gwestai mwy modern i safon uwch ac yn gyffredinol mae safon llety yn codi. Adeiladwyd mwy o lety 4 a 5 seren yn y blynyddoedd diwethaf, sy’n denu twristiaid ‘gwariant uwch’.

Un o fanteision hinsawdd Malta yw ei bod yn ddigon cynnes i dwristiaid drwy gydol y flwyddyn bron. Mae’r tymheredd yn gynnes a dymunol ym misoedd y gaeaf. Golyga hyn nad oes adeg ‘y tu allan i’r tymor’ ac mae ymwelwyr yn cyrraedd drwy’r flwyddyn.

Un datblygiad diweddar yn Malta, fel mewn sawl cyrchfan arall, yw’r twf yn nifer y teithwyr llongau mordaith (cruise ships) sy’n ymweld â Malta. Mae nifer y teithwyr sy’n ymweld oddi ar long fordaith wedi tyfu’n gyflym iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel y mae’r tabl isod yn dangos. .

Rydym yn gwybod union nifer y teithwyr llongau mordaith oherwydd bod yn rhaid i bob llong ddweud wrth yr awdurdodau faint o deithwyr mae’n cario wrth ddod i mewn i’r harbwr.

Mae twf yr ymweliadau mordaith hyn â Malta wedi cael nifer o effeithiau, ddim i gyd yn rhai cadarnhaol.

• Nid yw teithwyr llongau mordaith yn aros yn y gwestai yn Malta, felly maent yn cyfrannu llai at yr economi ac yn creu llai o swyddi uniongyrchol..

• Dim ond atyniadau neu ardaloedd arbennig yn Malta mae’r teithwyr yn mynd i’w gweld. Gallant gerdded i mewn i Valetta neu fynd i atyniadau eraill ar fws..

• Ar y dyddiau pan mae llong fordaith yn cyrraedd mae’r siopau a’r tai bwyta yn llawer prysurach nag y maent ar ddiwrnodau eraill. Mae galw mawr am yrwyr bysiau a gwasanaethau eraill hefyd..

• Dim ond un diwrnod mae’r teithwyr yn ei dreulio ar yr ynys, ac ni allant fynd i weld ei diwylliant a’i threftadaeth yn iawn.

Gweithgaredd 9