Cyflwyniad
Ynys ym Môr y Canoldir yw Malta. Mae’n gyrchfan arfordirol sydd â thraddodiad ymwelwyr o’r DU oherwydd ei chysylltiadau hanesyddol â Phrydain. Yn wir, Malta yw’r fwyaf o grŵp o dair ynys. Enw’r ddwy ynys lai yw Gozo a Comino. Gyda’i gilydd gelwir y rhain yr Ynysoedd Maltaidd. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn aros ar Malta ond mae’n bosibl y byddant yn mynd ar daith i ymweld ag o leiaf un o’r ynysoedd eraill.
Mae gan Malta hanes hir gan fod nifer o wledydd wedi rheoli’r ynys yn y gorffennol. Mae gan Malta safle allweddol ym Môr y Canoldir lle y gwelwyd nifer o frwydrau a sawl gwarchae pwysig. Mae’r brif dref, Valetta yn ddinas hanesyddol wedi’i hamgylchynu gan nifer o gaerau a godwyd i amddiffyn y ddinas rhag goresgynwyr.

Rhan o bwysigrwydd Malta yw bod gan Valetta harbwr mawr iawn lle y byddai llongau’n ddiogel. Mae’r Grand Harbour yn Valetta yn dal i weithredu fel porthladd ac yn bwysig iawn i longau heddiw.

Cafodd Malta ei meddiannu gan lawer o wledydd. Ers 1800 cafodd yr ynys ei meddiannu gan Brydain. Daliwyd Malta gan yr Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd ac yna fe’i hailfeddianwyd gan lynges Prydain. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd sefydlwyd lluoedd Prydain ar yr ynys.
Roedd Malta’n drefedigaeth Brydeinig cyn dod yn annibynnol a bellach mae’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac yn defnyddio’r euro fel ei harian. O ganlyniad i’r cysylltiadau hyn â Phrydain, daeth Malta’n gyrchfan bwysig i bobl oedd yn mynd ar rai o’r gwyliau pecyn cyntaf yn yr 1960au. Roedd y twristiaid hyn yn cael eu denu yno yn rhannol oherwydd bod teimlad Prydeinig i’r ynys a’r ffaith fod llawer yn siarad Saesneg. Mae ciosgs ffôn a blychau post coch yn dal i aros hyd heddiw ac mae pobl Malta yn gyrru ar ochr chwith y ffordd.

Roedd llywodraeth Malta yn annog twf twristiaeth hefyd ac adeiladwyd nifer o westai, i ddarparu llety i’r bobl gwyliau pecyn, o ddechrau’r 1970au ymlaen.
Heddiw mae’r DU yn dal yn farchnad bwysig i Malta, ond mae ymwelwyr yn cyrraedd hefyd o’r Eidal, yr Almaen a Sbaen yn ogystal ag o wledydd Ewropeaidd eraill.
Nid twristiaeth gwyliau yn unig sydd gan Malta i’w gynnig. Mae twristiaeth fusnes, twristiaeth iechyd a thwristiaeth addysg yn bwysig hefyd.
Gweithgaredd 1