Malta

Marchnata

Mae Malta’n cystadlu yn erbyn yr holl gyrchfannau eraill yn ardal Môr y Canoldir ac mae’n rhaid iddi wneud gweithgareddau marchnata i sicrhau fod twristiaid yn dal i gyrraedd mewn niferoedd mawr.

Mae Malta’n ceisio denu marchnadoedd newydd a pheidio â dibynnu ar y bobl gwyliau pecyn oedd yn dod yn y gorffennol. Hefyd, gyda Malta’n rhan o’r Undeb Ewropeaidd erbyn hyn ac yn defnyddio’r euro fel arian, gall Malta ei marchnata’i hun yn fwy effeithiol mewn gwledydd cyfagos fel yr Eidal a Sbaen.

Slogan gwefan Twristiaeth Malta (www.visitmalta.com) yw ‘Croeso i Galon Môr y Canoldir’. Mae hyn yn awgrymu fod Malta reit ynghanol Môr y Canoldir ac yn hawdd ei gyrraedd, sy’n ddigon gwir!

Mae gan gyrff twristiaeth Malta gysylltiadau hefyd â thimau pêl-droed yn Lloegr. Visit Malta sy’n noddi crysau Sheffield United, sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth. Mae Air Malta yn bartner swyddogol i Glwb Pêl-droed Portsmouth, sy’n chwarae yn y Brif Gynghrair.

Mae’r ddwy ffordd yma o noddi yn rhoi sylw i Malta pan mae gemau’n cael eu dangos ar y teledu yn y DU ac mewn gwledydd eraill. Mae Visit Malta’n gwneud pob math o weithgareddau marchnata i grwpiau ac unigolion. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys:

• hyrwyddo manteision Malta i drefnwyr teithiau llong, er mwyn sicrhau fod eu teithiau yn cynnwys Malta

• hyrwyddo Malta i gwmnïau a allai fod eisiau cynnal cynadleddau yn Malta yn un o’r canolfannau cynhadledd newydd

• rhoi gwybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn Malta drwy’r wefan

Gweithgaredd 11