Atyniadau naturiol
Prif nodwedd arfordir Malta yw ardaloedd creigiog yn hytrach na thraethau tywod, sy’n brin. Ond, mae ychydig o draethau tywod bach diarffordd wedi’u gwasgaru o amgylch ynysoedd Malta a Gozo. Ymhlith y mwyaf poblogaidd mae Paradise Bay a Ghadira Bay.

Mae yna hefyd glogwyni, cildraethau ac ogofâu môr reit ar hyd yr arfordir. Mae’r cilfachau mwyaf wedi datblygu’n harbyrau, a’r un mwyaf yw’r Grand Harbour yn Valetta.
Un o’r atyniadau naturiol mwyaf poblogaidd yw’r Lagŵn Glas ar ynys Comino. Mae nifer o gychod yn ymweld â’r Lagŵn fel rhan o deithiau diwrnod o amgylch yr ynysoedd Maltaidd. Bae cul hir yw’r Lagŵn glas gyda thywod gwyn pur ar ei waelod. Mae’r môr yn glir fel grisial ac mae’r ardal fel un pwll nofio mawr. O amgylch y lagŵn mae ffurfiannau craig wedi’u cerfio, sy’n ychwanegu at ei apêl.

O’r Lagŵn Glas mae cychod modur yn mynd ag ymwelwyr o amgylch yr ogofâu môr ar arfordir Comino.
Ar adeg prysuraf tymor yr haf gall sawl llong fordaith fawr fod wedi’u hangori yn y Lagŵn Glas, a hynny o bosibl yn niweidio cymeriad y lle. Gellir disgrifio’r Lagŵn Glas fel lleoliad ‘pot mêl’ gan ei fod yn denu cynifer o ymwelwyr.

Ceir llawer o gilfachau creigiog gyda dŵr clir lle y gellir gweld nifer o fathau o bysgod, môr-ddraenogod ac octopysau. Mae’r dyfroedd o amgylch yr ynysoedd ymhlith y rhai mwyaf clir ym Môr y Canoldir, a gallwch weld mor bell i lawr â 50 metr. Mae hyn wedi denu nifer o blymwyr.
![]() | Dros y 10 mlynedd diwethaf mae mwy a mwy o blymwyr wedi ymweld â Malta i blymio o amgylch yr arfordir yn rhai o’r amodau gorau ym Môr y Canoldir. |
Er bod Malta’n boeth iawn ym misoedd yr haf, mae’r hydref a’r gwanwyn yn ddelfrydol ar gyfer mynd i weld rhai o’r ardaloedd i mewn yn y tir, lle y ceir rhwydwaith o lwybrau cerdded.
Gweithgaredd 3