Lleoliad a hygyrchedd
Mae Malta wedi’i lleoli yn ne Môr y Canoldir, rhyw 100 cilometr o’r ynys Eidalaidd Sicily. Yn wir, mae’n fwy deheuol na rhai rhannau o Ogledd Affrica!
Mae gan Malta faes awyr rhyngwladol a’i chwmni hedfan ei hun - Air Malta. Mae cwmnïau Prydeinig eraill, yn cynnwys British Airways, easyJet a Ryanair yn hedfan i Malta. Hefyd, mae gan British Midland Airways gytundeb ‘rhannu côd’ gydag Air Malta sy’n golygu fod cwsmeriaid y ddau gwmni’n hedfan ar yr un awyren, ac felly’n lleihau costau.

Mae Air Malta’n cynnig bron i 30 taith yr wythnos i feysydd awyr Heathrow a Gatwick yn Llundain yn ogystal â hedfan i Fanceinion, Belffast, East Midlands a Birmingham. Rhwng y teithiau a gynigir gan BA a chwmnïau awyrennau eraill, mae tua 100 o deithiau y rhan fwyaf o wythnosau rhwng y DU a Malta, sy’n gwneud yr ynys yn hawdd iawn ei chyrraedd i dwristiaid y DU. Mae’r ynys yn hawdd ei chyrraedd o wledydd eraill Ewrop hefyd ac mae yna ehediadau i Dubai hyd yn oed a theithiau sy’n cysylltu ag Efrog Newydd
Gan fod Malta yn gyrchfan ynys mae’n llawer haws cyfrif nifer yr ymwelwyr sy’n cyrraedd y cyrchfan. Ni allant deithio i mewn i Malta yn y car am y dydd! Dim ond mewn awyren neu ar long y gall ymwelwyr gyrraedd ac mae bron pawb yn dod mewn awyren. Mae hyn yn help i ganfod faint o bobl fu’n ymweld â Malta ac am faint arhoson nhw. Caiff llawer o’r wybodaeth yma ei chasglu wrth i ymwelwyr fynd trwy’r maes awyr.

.........................................
![]() | Ceir amrywiaeth o drafnidiaeth o fewn ynys Malta. Mae gan Malta wasanaeth cludiant cyhoeddus ardderchog ac mae’n hawdd mynd o gwmpas yno. Un o brif nodweddion cludiant ar yr ynys yw’r bysiau lleol sydd yn rhad, yn ddibynadwy ac yn hawdd eu canfod. Maent hefyd yn hwyl i’w defnyddio ac mae’r gyrwyr yn aml yn rhoi cymorth i dwristiaid. |
![]() | O amgylch dinas Valetta, gellir defnyddio tacsis dŵr i fynd o un ardal i’r llall. Hefyd, mae tacsis dŵr a fferis ar gael i fynd o Valetta i dref lan môr Sliema gerllaw. |
![]() | Gan ei bod yn ynys, mae gan Malta rai ymwelwyr sy’n defnyddio eu trafnidiaeth eu hunain ar y môr. Mae cychod hwylio moethus a chatamaranau wedi eu hangori’n aml ar hyd yr arfordir neu mewn harbwr. |
![]() |
Fel mewn nifer o lefydd, mae bysiau ar gael sy’n mynd o amgylch yr ynys yn dangos pethau i ymwelwyr. Mae’r bysiau hyn yn cynnig sylwebaeth sain mewn gwahanol ieithoedd. |
Gweithgaredd 2