Digwyddiadau ac adloniant
Mae gan bob pentref yn Malta ŵyl ar ddydd ei sant ei hun o’r enw festa. Mae’r achlysuron hyn yn digwydd dros y penwythnos ac maent yn cynnwys gorymdeithiau crefyddol gyda bandiau pres a thân gwyllt. Caiff delw o’r sant ei gario ar flaen yr orymdaith. Ar strydoedd y pentref mae stondinau yn gwerthu bwyd a diod.
Mae twristiaid yn mynychu’r festas yn ogystal â phobl leol.
![]() |
![]() |
Darperir amrywiaeth o adloniant i dwristiaid yn arbennig yn y pentrefi sydd wedi dod yn llefydd gwyliau pwysig, fel Sliema a St Julian’s. Datblygwyd clybiau a sinemâu yng nghanolfan Bay Street. Mae neuaddau bingo a thafarndai yn cynnig adloniant hefyd.
