Malta

Cyfleusterau

Mae Malta’n dibynnu’n drwm ar dwristiaeth a gan bod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn cyrraedd yr ynys ar awyren, mae’r mwyafrif yn aros mewn gwestai yn hytrach nag mewn meysydd pebyll a meysydd carafannau. Yn wir, dim ond un maes pebyll swyddogol sydd yn Malta!

Mae gan Malta ychydig dros 40,000 o welyau i ymwelwyr, gyda 33,000 o’r rhain mewn gwestai. Mae’r 7,000 arall mewn hosteli, gwestai bach a chanolfannau gwyliau.

Mae ffigyrau llety 2007 yn Malta yn dangos fod yna:

Un o broblemau twristiaeth yn Malta yw oherwydd bod twristiaeth wedi datblygu’n gyflym, adeiladwyd llawer o westai o safon isel ar hyd yr arfordir. Nid yw’r rhain yn edrych yn ddeniadol iawn erbyn heddiw.

Mae gwaith yn mynd rhagddo i godi cyfleusterau mwy modern yn lle’r gwestai a godwyd yn ystod yr 1970au. Mae fflatiau a llety hunan-ddarpar yn dod yn lle’r gwestai hen-ffasiwn yr oedd pobl ar wyliau pecyn yn eu hoffi.

Mae’r Fortina Spa Resort yn enghraifft o gyfleuster modern ‘pum seren’ yn nhref lan môr Sliema, ddim yn bell o Valetta. Mae’r Fortina’n cynnig safon uchel o foethusrwydd ac ystod eang o gyfleusterau.

Mae amrywiaeth eang o dai bwyta yn cynnig bwyd lleol ar gael yn ogystal â chadwyni ‘bwyd sydyn’ rhyngwladol.

Ceir gwybodaeth i ymwelwr yn y ganolfan groeso yn Valetta, ac mae yna ‘arwyddion brown’ sy’n cynnig gwybodaeth a chyfarwyddiadau o amgylch yr ynys.

Gweithgaredd 5