Malta

Astudiaeth Achos Malta

Nodiadau’r Athro Lluniwyd yr adnodd hwn yn bennaf fel astudiaeth achos o gyrchfan arfordirol ar gyfer TGAU Hamdden a Thwristiaeth. Ond, wrth wneud ymarferiadau ymchwil ac astudiaeth ychwanegol, gallai myfyrwyr UG Teithio a Thwristiaeth ei ddefnyddio hefyd.

Mae pedair gwefan a ddylai fod yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr ac athrawon:

www.visitmalta.com yw gwefan Bwrdd Twristiaeth Malta. Yma ceir llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol am Malta yn ogystal â map rhyngweithiol, gwe-gamerâu, erthyglau o’r wasg, clipiau fideo a banc lluniau.

Yn www.nso.gov.mt ceir data ystadegol am Malta. Mae ‘Malta in ‘Figures’ yn sawl tudalen o wybodaeth ystadegol fanwl am dwristiaeth yn Malta, yn cynnwys tueddiadau diweddar.

Mae www.maltaairport.com yn rhoi manylion am niferoedd teithwyr.

Yn www.airmalta.com ceir amserlenni, prisiau a gwybodaeth am y llwybrau awyr (mae gan British Airways, Ryanair ac easyJet wasanaethau i Malta hefyd).

Gellir cael gwybodaeth bellach ar safle Llywodraeth Malta a gweithredwyr gwyliau sydd â Malta yn eu pamffledi teithio. Mae gan ddinas Valetta wefan fanwl hefyd.