Malta

Cynaladwyedd

Ynys ym Môr y Canoldir yw Malta, un o’r ardaloedd twristiaeth yr ymwelir â hi fwyaf yn y byd. Amcangyfrifir fod tua 300 miliwn o bobl yn ymweld â’r arfordir o amgylch Môr y Canoldir bob blwyddyn.

Ni all Malta weithredu ar ei phen ei hun i gynnal ansawdd dŵr Môr y Canoldir ac mae’n rhaid iddi weithio gyda gwledydd eraill i sicrhau fod ansawdd y dŵr ym Môr y Canoldir o safon uchel.

Un o’r prif ddatblygiadau fu cyflwyno Cynllun Glas Môr y Canoldir (Mediterranenan Blue Plan), sef cytundeb rhwng y gwledydd sy’n ffinio Môr y Canoldir ar fesurau i sicrhau ansawdd y dŵr.

Mae Malta hefyd yn ystyried mesurau i ddiogelu cyflenwadau dŵr yr ynys. Un o’r problemau yw bod y prif dymor ymwelwyr yn cyd-daro â’r glawiad isaf, ac felly dyfeisiwyd ffyrdd o sicrhau fod digon o ddŵr o’r ansawdd iawn. Amcangyfrifir fod pob ymwelydd yn defnyddio hyd at 850 litr o ddŵr y dydd. Felly mae’n bwysig cael cyflenwadau dŵr heb gymryd dŵr o ardaloedd sy’n amgylcheddol sensitif.

Mae Llywodraeth Malta yn fwy a mwy ymwybodol fod twristiaeth gynaladwy yn hanfodol i lewyrch Malta yn y tymor hir. Fel llawer o gyrchfannau, mae twristiaeth yn bwysig iawn i economi’r ynys, ac mae angen cynllunio gofalus i sicrhau fod twristiaeth yn parhau yn y dyfodol. Heb dwristiaeth ni ellir cynnal economi’r ynys.

Gweithgaredd 10