Malta

Diwylliant a threftadaeth

Mae dinas Valetta yn Safle Treftadaeth y Byd. Golyga hyn ei bod yn cael ei gwarchod a bod ei phwysigrwydd hanesyddol yn cael ei gydnabod..

‘Mae prifddinas Malta wedi ei chysylltu’n anorfod â hanes Urdd filwrol ac elusennol Sant Iona o Jerwsalem. Cafodd ei rheoli yn ei thro gan y Phoeniciaid, y Groegiaid, Carthaginiaid, Rhufeiniaid, Bysantiaid, Arabiaid ac Urdd Marchog Sant Ioan. Mae’r 320 o gofadeiladau yn Valetta, y cyfan o fewn ardal o 55 ha, yn ei gwneud yn un o’r ardaloedd hanesyddol mwyaf dwys yn y byd’. (UNESCO)

Mae gan Malta hanes hir a chymhleth ac mae’r ynysoedd wedi cael eu rheoli gan nifer o genhedloedd yn y gorffennol. Gadawodd y bobl hyn gyfoeth o adeiladau hanesyddol ar eu hôl fel temlau ac eglwysi yn ogystal â chaerau ac adeiladau milwrol eraill.

Mae’n bosibl na wnaeth Malta fanteisio digon ar ei hanes a’i diwylliant yn y gorffennol a dibynnu gormod ar y dwristiaeth gwyliau pecyn ‘haul, môr a thywod’. Yn fwy diweddar mae llywodraeth Malta wedi dechrau datblygu rhai o’r safleoedd diwylliannol pwysig yn atyniadau.

Mae llawr o bobl Malta yn dilyn y grefydd Gatholig. Yn wahanol i nifer o lefydd twristaidd, mae Malta yn parchu’r Sul ac mae llawer o’r siopau’n aros ar gau fel bod pobl yn gallu mynd i’r eglwys. Mae gan bob pentref a thref eglwys fawr y mae’r bobl leol yn ymfalchïo ynddi. Ceir teimlad cryf o gymuned ymhlith pobl Malta ac maent yn falch o’u hannibyniaeth.

Gweithgaredd 7

Mae pobl Malta wedi aros yn driw i’w traddodiadau ac mae ganddynt eu diwylliant a’u hiaith eu hunain, sef Malti. Mae bron pob un o’r bobl leol yn siarad Saesneg hefyd.