Hinsawdd
Hinsawdd Fediteranaidd sydd gan Malta gyda hafau poeth, sych a gaeafau mwyn. Hyd yn oed ym misoedd y gaeaf gall fod cyfnodau hir o heulwen yn ystod y dydd.
Ychydig o law sy’n disgyn rhwng mis Mai a mis Hydref ac mae’r tymheredd yn mynd yn boeth iawn. Ym misoedd Gorffennaf ac Awst mae’r tymheredd ar gyfartaledd yn cyrraedd dros 30 gradd canradd.

Yng nghanol yr haf mae’r tir yn mynd yn grin iawn ac mae bron yn llwm. Hefyd yn yr haf mae’r ardaloedd i mewn i’r tir yn mynd yn boeth iawn er bod awel y môr yn cadw’r ardaloedd glan y môr yn oerach. Yn y gwanwyn mae blodau a chnydau’n gorchuddio’r ardaloedd ffermio a hynny’n gwneud y tirlun yn fwy prydferth.
Mae’r ffaith fod rhywun yn sicr o gael haul poeth a nemor ddim glaw yn gwneud yr ynys yn ddeniadol i ymwelwyr.

Yng nghanol yr haf mae tymheredd y môr yn codi i 26 gradd canradd. Dyma un o’r llefydd lle mae Môr y Canoldir ar ei gynhesaf.
Er bod yr hafau yn boeth iawn yn Malta, mae’r gwanwyn a’r hydref yn ddymunol iawn a gaeaf byr gaiff yr ynysoedd. Mae hyn yn rhoi tymor ymwelwyr hir i Malta gydag ymwelwyr hŷn yn aros am gyfnodau hirach yn ystod y cyfnodau oerach.
