Cynaliadwyedd
Fel sawl cyrchfan, mae’n rhaid i Barcelona wrthbwyso anghenion ymwelwyr heddiw yn erbyn gwarchod amgylchedd y ddinas ar gyfer y dyfodol. Does dim amheuaeth nad yw twristiaeth yn ddiwydiant o bwys yn Barcelona ac mae angen i brosiectau cynaliadwy reoli effeithiau negyddol twristiaeth.
Achosir llawer o sŵn a llygredd aer gan drafnidiaeth yn symud o amgylch y ddinas ac yn y blynyddoedd diweddar mae Barcelona wedi datblygu nifer o gynlluniau ar gyfer lleihau llygredd trafnidiaeth. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys: :
- Gwneud mwy o fannau yn y ddinas sy’n addas ar gyfer cerddwyr a lleihau mynediad i gerbydau i’r cylchfâu siopa yn y canol. Mae’r cynllun hwn wedi lleihau tagfa a llygredd trafnidiaeth yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar economi’r mannau lle mae’r cynllun yn gweithredu.
- Cosbi rhywun yn llym am barcio dwbl a pharcio yn anghyfreithlon. Mae hyn yn galluogi trafnidiaeth i lifo’n rhwydd a lleihau llygredd.
- Datblygu lonydd a mannau parcio ar gyfer beiciau, er mwyn annog y bobl leol ac ymwelwyr i ddefnyddio llai ar gerbydau a theithio ar feiciau.
- Cynllun parcio a theithio o’r gorsafoedd y tu allan gan annog y bobl leol a’r ymwelwyr i adael eu cerbydau y tu allan i’r ddinas.
- Datblygu lonydd bysiau a rhoi blaenoriaeth i fysiau. Mae hyn yn hybu defnyddio bysiau fel dull o deithio yn y ddinas. Ystyrir bysiau fel ffurf o gludo sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.
- Cynnig teithiau cerdded o amgylch y ddinas ac mae hyn yn lleihau tagfeydd a llygredd.
Gweithgaredd 10
Lluniwch boster i annog ymwelwyr i ddefnyddio bysiau yn Barcelona er mwyn hybu twristiaeth gynaliadwy. [Gwiriwch lwybrau’r bysiau twristaidd i’ch helpu chi.]
Cynhyrchwch bamffled gyda gwybodaeth i annog ymwelwyr i gymryd rhan mewn Taith Gerdded, a chynhwyswch wybodaeth am y nifer o fendithion a ddaw drwy fynd o gwmpas ar droed.