Atyniadau adeiledig
Ceir nifer o atyniadau adeiledig yn Barcelona. Mae nifer ohonynt yn rhai diwylliannol a rhai wedi eu hadeiladu’n bwrpasol. Ymysg y rhai pwysicaf mae:
- Y Sagrada Familia
- Amgueddfa Picasso
- Parc Guell
- Las Ramblas
Y Sagrada Familia yw’r tirnod eiconig mwyaf anghyffredin y ddinas. Mae’n eglwys gadeiriol anorffenedig a gynlluniwyd gan y pensaer Gaudi. Mae’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn oherwydd y modd unigryw y cafodd ei chodi a’r ffaith ei bod yn dal i gael ei hadeiladu 100 mlynedd ar ôl i’r gwaith gychwyn.

Parc Guell Cynlluniwyd y parc anghyffredin hwn ar ben bryn hefyd gan Gaudi ac mae wedi dod yn un o drysorau Barcelona. Mae mynediad i’r parc yn rhad ac am ddim ac yma ceir sawl cerflun, grisiau, llwybrau a meinciau i gyd o cerameg toredig aml-liw a elwir yn trencadis.
Mae Amgueddfa Picasso yn olrhain gyrfa un o artistiaid enwocaf y cyfnod modern. Yr amgueddfa hon yw’r atyniad mwyaf poblogaidd i ymwelwyr yn y ddinas. Las Ramblas yw’r brif stryd sy’n mynd drwy ganol y ddinas.
Mae pob rhan yn wahanol gyda nifer o stondinau yn gwerthu amrywiaeth o bethau o flodau i adar mewn cewyll. Ar hyd Las Ramblas gall ymwelwyr fwynhau diod neu bryd mewn caffi awyr agored neu dreulio amser yn gwylio nifer o artistiaid a pherfformwyr stryd yn meimio ar hyd y stryd.


Mae’r strydoedd ochrol o’r brif stryd, yn llawn o siopau diddorol, amrywiol y mae’r ymwelwyr yn mwynhau ymweld â hwy.
Gwibdaith ddiwrnod boblogaidd yw’r un o Barcelona i barc thema Port Aventura yn Salou. Prin awr mewn bws yw’r daith yno.

Mae Port Aventura yn un o’r parciau thema mwyaf yn Ewrop ac mae’n darparu diwrnod llawn o hwyl a gweithgareddau yn cynnwys Dragon Kahn, y ffigar-êt mwyaf yn Ewrop.

Gweithgaredd 4
Cynhyrchwch daith 3 noson 4 diwrnod ar gyfer teulu yn ymweld â Barcelona yn yr haf. Mae’n rhaid i’r teulu dreulio diwrnod yn ymweld â Port Aventura neu Montserrat.
Ymchwil
Ymchwiliwch i gost teulu o ddau oedolyn a thri phlentyn yn ymweld â Barcelona adeg y Pasg.
Ymchwiliwch i gost cwpwl yn ymweld â Barcelona dros y Nadolig .