North Wales

Digwyddiadau ac adloniant

Mae rhywbeth yn digwydd bob amser yn Barcelona. Boed yn ŵyl gerddoriaeth, gelf, theatr neu sinema o ryw fath neu’i gilydd fe’u cewch yn digwydd yn y ddinas fywiog hon.

Mae gan bob ardal yn y ddinas ei dathliad ei hun, y Festa Major. Y prif un yn Barcelona yw y Merce ym Medi. Dyma’r man gorau i weld traddodiadau gwerin Cataluňa, yn cynnwys y cestyll dynol – grŵp o bobl i gyd yn gweithio gyda’i gilydd i wneud tŵr dynol, ffigurau enfawr o bren a mwydion papur , a phob un yn cael ei gynnal gan berson yn sbecian drwy rwyll yn eu sgertiau, twpsod, pyromaniaid yn ogystal â chyngherddau a phartïon stryd.

Ceir adloniant stryd bob amser ar hyd Las Ramblas lle gall ymwelwyr wylio artistiaid stryd yn peintio, meimio, jyglo a llawer mwy.

Y man gorau i ddod i wybod beth sy’n digwydd yn y ddinas yw swyddfeydd ymwelwyr y ddinas neu swyddfa wybodaeth am ddiwylliant y ddinas yn y Palau de la Virreina.

Gweithgaredd 8

Defnyddiwch y wefan www.barcelona-online.com a chliciwch ar gyswllt ‘Yr hyn sy’n digwydd yn Barcelona.’

Chwiliwch am ddigwyddiad y buasai ymwelwyr o’r DU yn ei fwynhau.

Y math o ymwelydd Manylion y digwyddiad Dyddiadau
Grŵp sy’n mwynhau cerddoriaeth jazz
Pobl ifanc sy’n mwynhau digwyddiadau chwaraeon
Cwbl sy’n mwynhau mynychu gwyliau crefyddol
Dau gwpl ifanc sy’n mwynhau dawnsio

Ymchwil

Manylion ymchwil am bum gŵyl grefyddol a gynhelir yn Barcelona yn ystod y flwyddyn.