Agweddau a diwylliant
Mae trigolion Barcelona yn ymfalchïo yn eu dinas ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y profiadau sy’n cael eu cynnig i’r ymwelwyr. Ceir digonedd o ddiwylliant ac maent am ei rannu â’r ymwelwyr. Mae eu pensaernïaeth gan Gaudi yn unigryw ac yn enwog drwy’r ddinas. Mae’r adeiladau a gafodd eu cynllunio ganddo, ar wahân i’r Sagrada Familia, wedi cael eu cynnal a’u gwarchod ac ar agor i ymwelwyr.

Yn Barcelona siaredir iaith ranbarthol Cataluňa ochr yn ochr â Sbaeneg. Mae pobl Barcelona yn falch o fod yn Gatalanaidd yn ogystal â Sbaenaidd.
Fel mewn sawl dinas dwristaidd, mae troseddu yn broblem mewn rhannau o Barcelona. Mae gan Las Ramblas yr enw o fod yn fan lle ceir troseddu yn erbyn ymwelwyr ar ôl iddi nosi.
Saesneg | Catalanaidd | Cymraeg |
---|---|---|
Hello | Hola | Helo |
Goodbye | Adéu | Hwyl |
Good morning | Bon dia | Bore da |
Good evening | Bona tarda | Noswaith dda |
Please | Si us plau | Os gwelwch yn dda |
Thank you | Gràciès | Diolch |
Gweithgaredd 12
Atebion dewis lluosog i enwi’r gair neu’r cymal cywir.
Gweithgaredd 13 (Gweithgaredd Crynhoi)
O’r hyn yr ydych wedi ei ddarganfod am Barcelona ysgrifennwch ddatganiad byr i’r wasg ar y cyrchfan er mwyn dweud wrth bobl pam y dylent ymweld ag ef.
Defnyddiwch rai o’r geiriau a’r cymalau canlynol fel cymorth i chi wneud yr adroddiad: