North Wales

Diwylliant a Threftadaeth

Mae Barcelona wedi bod yn enwog am sawl peth: mae doniau arbennig y pensaer Gaudi a’r arlunydd Picasso wedi denu miloedd o ymwelwyr dros y blynyddoedd i weld eu gwaith.

Yn ychwanegol at bobl enwog yn cyfrannu at ddiwylliant a threftadaeth Barcelona cynhelir cyfres o ddigwyddiadau diwylliannol a cherddorol gydol y flwyddyn ac maent yn dangos cyfoeth treftadaeth a diwylliant Barcelona.

Er enghraifft, ym Mehefin, mae Barcelona yn dathlu Trobada Castellera lle gall ymwelwyr a phobl leol wylio arddangosfeydd o adeiladu tyrau dynol. Cynhelir Gwŷl Ddawnsio Fflamenco yn ystod bythefnos olaf Mehefin. Ceir nifer llawer mwy o ddigwyddiadau diwylliannol tebyg gydol y flwyddyn.

Gweithgaredd 7

Mae gwaith Gaudi wedi dylanwadu’n fawr ar ddelwedd bensaernïol Barcelona a gellwch weld ei waith ledled y ddinas. Ganwyd Antoni Gaudi yn Reus yn 1852 a graddiodd mewn Pensaerniaeth yn 1878.

Dylanwadodd ffurfiau natur yn gryf ar waith Gaudi ac adlewyrchir hyn gan y defnydd o gerrig adeiladu crwm. Gwnaeth Gaudi hefyd addurno nifer o’i adeiladau gyda theils lliw wedi eu gosod mewn patrymau mosaig.

Mae’r cyfuniad o ddylunio gwreiddiol, gwaith cerrig o ffurfiau diddorol, a lliwiau llachar yng ngwaith Gaudi yn rhoi profiad gweledol hollol syfrdanol i’r syllwr.

Mae gwaith Gaudi yn cynnwys: Sagrada Familia - teml enfawr, a mwy na thebyg dyma waith mwyaf Gaudi a’r safle sy’n cael y nifer mwyaf o ymweliadau yn Barcelona. Park Guell - parc hudol gydag adeiladau, cerfluniau a gwaith teils rhyfeddol, wedi eu cynllunio gan Gaudi. Fe welwch hefyd hen gartref Gaudi ym Mharc Guell sydd bellach ar agor fel amgueddfa fechan.

Defnyddiwch y wybodaeth yn y blwch uchod i nodi pa un o’r gosodiadau isod sy’n wir neu’n anwir am Gaudi