Marchnata
Daeth llawer iawn o hysbysrwydd a chydnabyddiaeth drwy groesawu’r Gemau Olympaidd yn 1992. Daeth cydnabyddiaeth fyd-eang i Barcelona drwy’r digwyddiad hwn. O ganlyniad gosodwyd Barcelona yn gadarn ar y map ac felly mae hyn yn golygu fod Barcelona yn cael ei chydnabod yn eang ac nid oes angen llawer o farchnata arni.
Gyda theithiau rhad ar gael gall Barcelona y dyddiau hyn farchnata ei hun i gynulleidfa ehangach. Daeth gwyliau cyfnodau byr yn ogystal â thwristiaeth chwaraeon a thwristiaeth fusnes yn farchnad darged i dwristiaeth Barcelona yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae Barcelona’n hapus i farchnata ei hun i grwpiau fel y man ar gyfer penwythnosau ar gyfer partïon priodas dynion a merched. Mae penblwyddi arbennig hefyd yn cael eu dathlu yn Barcelona.

Gweithgaredd 11
Gweithredu dadansoddiad CGDB Ar gyfer Barcelona drwy osod y gosodiadau isod yn y blychau y credwch y maent yn perthyn iddynt