Effeithiau Twristiaeth
Mae Barcelona wedi elwa llawer drwy gynnal y Gemau Olympaidd yn 1992. Gwnaeth y Gemau Olympaidd newid delwedd y ddinas ac arwain at ei datblygiad fel cyrchfan ymwelwyr. Cyn i’r gemau ddod roedd Barcelona yn dibynnu ar weithgynhyrchu ac ar ddiwydiannau yn dirywio yn y porthladd.
Drwy groesawu’r Gemau roedd buddsoddiad yn datblygu’r ardaloedd arfordirol a’r porthladd, yn ogystal ag adeiladu ffyrdd newydd a chyfleusterau chwaraeon a diwylliant. Roedd yr holl ‘isadeiledd’ newydd hwn ar gael i’w ddefnyddio gan y diwydiant twristaidd ar ôl i’r Gemau Olympaidd ddod i ben.

Gellir edrych ar Barcelona fel yr enghraifft orau o sut y gall dinas ddefnyddio’r Gemau Olympaidd i ddatblygu diwydiant twristaidd. Roedd cael ei dangos ar y teledu ledled y byd yn ystod y Gemau yn hyrwyddo Barcelona i filiynau o bobl a oedd yn chwilio am gyrchfan newydd i’w ddarganfod. Ar yr un pryd, roedd cwmnïau awyrennau rhad yn datblygu llwybrau newydd ac yn ystyried Barcelona fel cyrchfan da ar gyfer y farchnad i wyliau byr a oedd ar gynnydd.

Ymysg y prif effeithiau cadarnhaol a ddaeth drwy dwristiaeth er pan fu Gemau Olympaidd 1992 mae:
- Cyfraddau llai o ddiweithdra gyda nifer o swyddi newydd ar gael.
- Systemau ffyrdd newydd yn hwyluso symud o gwmpas y ddinas.
- Sawl cyfleuster newydd ar gyfer chwaraeon y gellir eu defnyddio gan y boblogaeth leol.
- Cyfleusterau cynadledda newydd yn hyrwyddo twristiaeth fusnes yn y ddinas. (Mae tua hanner yr ymwelwyr i Barcelona yn dod yno ar fusnes).
- Cyfle i’r Catalaniaid (trigolion Barcelona) ymfalchio yn eu dinas a’u rhanbarth.
- Adfer rhai o’r hen adeiladau, megis yr Eglwys Gadeiriol.
Gweithgaredd 9
Enwch yr effaith dwristaidd addas a llusgwch a gollyngwch hi yn y blwch cywir: