North Wales

Atyniadau Naturiol

Mae Barcelona wedi ei lleoli ar arfordir y Môr Canoldir a thraethau ac arweddion eraill i’w cael y tu allan i ganol y ddinas. O fewn y ddinas ceir bryniau Montjuic a Tipidabo. Mae’r rhain yn rhoi golygfeydd panoramig anhygoel ar draws y ddinas. Fodd bynnag, nid atyniadau naturiol Barcelona sy’n apelio at yr ymwelwyr. Mae’n fwy tebygol mai yr atyniadau adeiledig a’r diwylliant sy’n apelio. Mae rhai o’r atyniadau hyn i’w cael o fewn yr atyniadau naturiol.

Mae’r Eglwys gadeiriol a’r ffair bleser ynghyd â’r golygfeydd panoramig rhyfeddol yn denu nifer o ymwelwyr i Tipidabo.

Gall yr ymwelwyr ddewis mynd ar drip o’r ddinas i gopaon trawiadol mynyddoedd Monserrat. Mae’r gadwyn fynyddig hon â golygfeydd geirwon a gellir cyrraedd yno ar reilffordd halio newydd. Mae mynachlog Monserrat yn denu llawer o ymwelwyr, er nad yw’n atyniad naturiol.

Ychydig gilometrau y tu allan i Barcelona ceir traethau penigamp megis y rhai yn Stiges, sydd 40 cilomedr i’r de o Barcelona, ac yn hawdd ei gyrraedd mewn car neu drên.

Gweithgaredd 3

Cwblhewch y brawddegau canlynol. Llusgwch y gair cywir o’r tabl a gollyngwch ef yn y gofod gwag priodol.

Ymchwil

Ymchwiliwch y dulliau a’r argaeledd trafnidiaeth a ddefnyddir i gyrraedd Sitges a/neu Monserrat o Barcelona