North Wales

Lleoliad ac Hygyrchedd

Mae Barcelona wedi ei lleoli ar arfordir y Môr Canoldir yng ngogledd ddwyrain Sbaen. I’r gogledd ac i’r de o Barcelona ceir cyrchfannau arfordirol o bwys megis Lloret de Mar a Salou.

Taith ddwy awr mewn awyren yw Barcelona o Lundain ac ychydig mwy o feysydd awyr rhanbarthol y DU.

El Prat yw’r enw ar brif faes awyr Barcelona ac mae 12 cilomedr o ganol y ddinas. Adeiladwyd rhedfa newydd yn ddiweddar i drafod y cynnydd yn y nifer o hediadau.

Mae’r holl brif gwmnïau hedfan yn cynnwys British Airways ac Iberia yn hedfan i El Prat. Hefyd EasyJet. Mae Ryanair yn hedfan o’r DU ond yn defnyddio meysydd awyr Girona i’r gogledd a Reus i’r de. Golyga hyn fod teithwyr Ryanair yn gorfod teithio am awr mewn bws i gyrraedd canol y ddinas.

Un o’r prif resymau pam fod Barcelona yn gyrchfan mor boblogaidd am wyliau byr i ymwelwyr o’r DU yw fod modd hedfan yno o gynifer o feysydd awyr yn y DU. Mae nifer o’r teithiau hyn gyda chwmnïau hedfan rhad ac mae’r teithiau yn gymharol rhad.

Mae gan Barcelona wasanaeth rheilffordd da. Mae’n bosib cyrraedd Barcelona o ddinasoedd eraill Sbaen ar y trên ac fe geir trenau uniongyrchol i Baris. Hefyd, mae’r system draffordd Ewropeaidd yn golygu ei bod yn hawdd gyrru i Barcelona er y buasai hyn yn cymryd cryn dipyn yn fwy o amser.

Mae gan Barcelona system drafnidiaeth gyhoeddus gyda gwasanaeth trenau danddaear (metro) sy’n rhedeg drwy’r dydd. Mae tocyn sengl yn costio un Ewro. Ceir 11,000 o dacsis cofrestredig ac mae bysiau twristaidd yn ddull da o weld y ddinas a’r cyffiniau.

Gweithgaredd 2

Chwiliwch am Barcelona, Girona, Montserrat, Reus, Salou, Lloret De Mar, Andorra, a’r ffin â Ffrainc.

Ymchwil

Ymchwiliwch i amserau a chost y teithiau awyr rhataf sydd ar gael i deulu o bedwar sydd am deithio i Barcelona o Fryste neu Fanceinion am wyliau byr ym Mai neu Hydref.