Rhagymadrodd
Barcelona yw ail ddinas fwyaf Sbaen ac mae’n brifddinas rhanbarth Cataluňa. Mae Barcelona yng Ngogledd Ddwyrain Sbaen, 200 cilometr i’r de o’r ffin Ffrengig.
Bu cynnydd mawr yn nifer yr ymwelwyr i Barcelona ar ôl i’r ddinas gael ei dewis ar gyfer y Gemau Olympaidd yn 1992. Cyn hyn roedd Barcelona yn ddinas borthladd a brofodd ddirywiad a heb fawr o apêl i ymwelwyr. Roedd y Gemau Olympaidd yn golygu fod nifer o gyfleusterau newydd yn cael eu datblygu ac fe gafodd ardal y porthladd ei hailddatblygu. Fel rhan o’r ailddatblygiad crewyd pedwar traeth gwneud ar hyd lan y môr.
Mae gan Barcelona enw rhyngwladol am bensaerniaeth a chynllunio gyda chasgliad heb ei bath o adeiladau modernaidd. Yr enghraifft orau yw Eglwys Gadeiriol La Sagrada Familia gan y pensaer enwog Gaudi.
Yn Barcelona defnyddir iaith ranbarthol Cataluňa ochr yn ochr â’r iaith Sbaenaidd swyddogol. Mae pobl Barcelona yn ymfalchio eu bod yn Gatalaniaid yn ogystal â Sbaenaidd.
Mae Barcelona yn gynyddol yn dod yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer gwyliau byr gyda theithiau gan gwmnïau awyrennau rhad yn gwneud y ddinas yn hygyrch iawn.
Gweithgaredd 1
Cwblhewch y brawddegau canlynol. Llusgwch y gair cywir o’r tabl a gollyngwch ef yn y gofod gwag priodol.