North Wales

Gweithgareddau

Rhagymadrodd

Gweithgaredd 1

Cwblhewch y brawddegau canlynol. Llusgwch y gair cywir o’r tabl a gollyngwch ef yn y gofod gwag priodol.

Lleoliad ac Hygyrchedd

Gweithgaredd 2

Chwiliwch am Barcelona, Girona, Montserrat, Reus, Salou, Lloret De Mar, Andorra, a’r ffin â Ffrainc.

Atyniadau Naturiol

Gweithgaredd 3

Cwblhewch y brawddegau canlynol. Llusgwch y gair cywir o’r tabl a gollyngwch ef yn y gofod gwag priodol.

Atyniadau adeiledig

Gweithgaredd 4

Cynhyrchwch daith 3 noson 4 diwrnod ar gyfer teulu yn ymweld â Barcelona yn yr haf. Mae’n rhaid i’r teulu dreulio diwrnod yn ymweld â Port Aventura neu Montserrat.

Cyfleusterau

Gweithgaredd 5

Lluniwch boster addas ar gyfer digwyddiad yn Stadiwm Nou Camp.

Ymchwiliwch i’r cyfleusterau a ddarperir gan ganolfannau cynadledda:

  1. Logiwch ar www.Barcelona-culture.com
  2. Canolfan Gonfensiwn Rhyngwladol Barcelona (CCIB)
  3. Palau De Congressos De Catalunya

Hinsawdd

Gweithgaredd 6

Aberystwyth, Cymru
Mis Oriau golau haul cyfatalog Tymheredd isafswm cyfartalog Tymheredd uchafswm cyfartalog Dyddodiad cyfartalog Diwrnodau gwlyb (+2.5mm)
Ionawr 2 2 7 97 21
Chwefror 3 2 7 72 17
Mawrth 4 3 9 60 16
Ebrill 5 5 11 56 16
Mai 6 7 15 65 16
Mehefin 7 10 17 76 16
Gorffennaf 5 12 18 99 19
Awst 5 12 18 93 18
Medi 4 11 16 108 19
Hydref 3 8 13 118 20
Tachwedd 2 5 10 111 20
Rhagfyr 2 4 8 96 22
Cyfartalog: 4 Cyfartalog: 6 Cyfartalog: 12 TCyfanswm dyddodiad: 1051 mm Cyfanswm diwrnodau gwlyb: 220
Barcelona, Spain
Mis Oriau golau haul cyfatalog Tymheredd isafswm cyfartalog Tymheredd uchafswm cyfartalog Dyddodiad cyfartalog Diwrnodau gwlyb (+2.5mm)
Ionawr 5 6 13 31 5
Chwefror 6 7 14 39 5
Mawrth 6 9 16 48 8
Ebrill 7 11 18 43 9
Mai 8 14 21 54 8
Mehefin 9 18 25 37 6
Gorffennaf 10 21 28 27 4
Awst 9 21 28 49 6
Medi 7 19 25 76 7
Hydref 5 15 21 86 9
Tachwedd 4 11 16 52 6
Rhagfyr 4 8 13 45 6
Cyfartalog: 6.5 Cyfartalog: 12.5 Cyfartalog: 19.5 Cyfanswm dyddodiad: 587 mm Cyfanswm diwrnodau gwlyb: 79

Gan ddefnyddio’r wybodaeth o’r tablau uchod, cymharwch y ffigyrau hinsawdd ar gyfer Aberystwyth a Barcelona.

Barcelona, Spain
Mis Oriau golau haul cyfatalog Tymheredd isafswm cyfartalog Tymheredd uchafswm cyfartalog Dyddodiad cyfartalog Diwrnodau gwlyb (+2.5mm)
Mawrth
Awst
Hydref
Aberystwyth, Cymru
Mis Oriau golau haul cyfatalog Tymheredd isafswm cyfartalog Tymheredd uchafswm cyfartalog Dyddodiad cyfartalog Diwrnodau gwlyb (+2.5mm)
Mawrth
Awst
Hydref

Defnyddiwch y ffigurau i egluro pam fod hinsawdd Barcelona yn apelio’n fwy na hinsawdd Aberystwyth.

Diwylliant a Threftadaeth

Gweithgaredd 7

Mae gwaith Gaudi wedi dylanwadu’n fawr ar ddelwedd bensaernïol Barcelona a gellwch weld ei waith ledled y ddinas. Ganwyd Antoni Gaudi yn Reus yn 1852 a graddiodd mewn Pensaerniaeth yn 1878.

Dylanwadodd ffurfiau natur yn gryf ar waith Gaudi ac adlewyrchir hyn gan y defnydd o gerrig adeiladu crwm. Gwnaeth Gaudi hefyd addurno nifer o’i adeiladau gyda theils lliw wedi eu gosod mewn patrymau mosaig. Mae’r cyfuniad o ddylunio gwreiddiol, gwaith cerrig o ffurfiau diddorol, a lliwiau llachar yng ngwaith Gaudi yn rhoi profiad gweledol hollol syfrdanol i’r syllwr.

Mae gwaith Gaudi yn cynnwys: Sagrada Familia - teml enfawr, a mwy na thebyg dyma waith mwyaf Gaudi a’r safle sy’n cael y nifer mwyaf o ymweliadau yn Barcelona. Park Guell - parc hudol gydag adeiladau, cerfluniau a gwaith teils rhyfeddol, wedi eu cynllunio gan Gaudi. Fe welwch hefyd hen gartref Gaudi ym Mharc Guell sydd bellach ar agor fel amgueddfa fechan. Defnyddiwch y wybodaeth yn y blwch uchod i nodi pa un o’r gosodiadau isod sy’n wir neu’n anwir am Gaudi

Use the information above to identify which of the statements in Activity 7 are true or false about Gaudi.

Digwyddiadau ac adloniant

Gweithgaredd 8

Defnyddiwch y wefan www.barcelona-online.com a chliciwch ar gyswllt ‘Yr hyn sy’n digwydd yn Barcelona.’

Chwiliwch am ddigwyddiad y buasai ymwelwyr o’r DU yn ei fwynhau.

Y math o ymwelydd Manylion y digwyddiad Dyddiadau
Grŵp sy’n mwynhau cerddoriaeth jazz
Pobl ifanc sy’n mwynhau digwyddiadau chwaraeon
Cwbl sy’n mwynhau mynychu gwyliau crefyddol
Dau gwpl ifanc sy’n mwynhau dawnsio

Effeithiau Twristiaeth

Gweithgaredd 9

Enwch yr effaith dwristaidd addas a llusgwch a gollyngwch hi yn y blwch cywir:

Cynaliadwyedd

Gweithgaredd 10

Lluniwch boster i annog ymwelwyr i ddefnyddio bysiau yn Barcelona er mwyn hybu twristiaeth gynaliadwy. [Gwiriwch lwybrau’r bysiau twristaidd i’ch helpu chi.]

Cynhyrchwch bamffled gyda gwybodaeth i annog ymwelwyr i gymryd rhan mewn Taith Gerdded, a chynhwyswch wybodaeth am y nifer o fendithion a ddaw drwy fynd o gwmpas ar droed.

Marchnata

Gweithgaredd 11

Gweithredu dadansoddiad CGDB Ar gyfer Barcelona drwy osod y gosodiadau isod yn y blychau y credwch y maent yn perthyn iddynt.

Agweddau a diwylliant

Gweithgaredd 12

Atebion dewis lluosog i enwi’r gair neu’r cymal cywir.

Agweddau a diwylliant

Gweithgaredd 13 (Gweithgaredd Crynhoi)

O’r hyn yr ydych wedi ei ddarganfod am Barcelona ysgrifennwch ddatganiad byr i’r wasg ar y cyrchfan er mwyn dweud wrth bobl pam y dylent ymweld ag ef.

Defnyddiwch rai o’r geiriau a’r cymalau canlynol fel cymorth i chi wneud yr adroddiad:

Mediteranaidd, Gwyliau byr, Montjuic, Girona, Montserrat Sitges, Tipidabo, Nou Camp, Panoramig, Bws Twristaidd, Canolfan Wybodaeth Dwristaidd, Festa, Gaudi, Picasso, Teithiau cerdded, Sagrada Familia, El Prat, Reus, Port Aventura, Montserrat