North Wales

Cyfleusterau

Rhan o apêl Barcelona yw’r dewis eang o letyau sydd ar gael. Ceir gwestai o bob gradd yn ogystal â hostelau rhesymol eu pris ar gyfer heicwyr yn y ddinas.

Mae gan westy Ritz stafelloedd wedi eu cynllunio’n unigol ac yn costio dros 500 ewro’r noson. Ar begwn arall yr raddfa mae gwesty cyllidol ‘INOUT’ yn costio cyn lleied â 6 ewro’r noson. O fewn y ddinas ceir rhai o brif gadwyni gwestai megis Best Western a Holiday Inn.

Un o brif gyfleusterau chwaraeon yn y ddinas yw stadiwm Nou Camp, maes cartref Clwb Pêl-droed Barcelona. Mae’r stadiwm hwn yn atyniad twristaidd pwysig yn cynnig teithiau ac amgueddfa.

O ganlyniad i’w phoblogrwydd cynyddol, mae gan Barcelona Swyddfa Wybodaeth ar gyfer Ymwelwyr yn cynnig gwybodaeth mewn sawl iaith yn ogystal â gwasanaeth archebu llety.

Hefyd fe ddylem gofio fod Barcelona yn gyrchfan pwysig i ymwelwyr ar fusnes a cheir nifer o ganolfannau cynadledda ac arddangosfeydd megis Canolfan Gonfensiwn Rhyngwladol Barcelona (CCIB) a Palau De Congressos De Catalunya

Gweithgaredd 5

Lluniwch boster addas ar gyfer digwyddiad yn Stadiwm Nou Camp.

Ymchwiliwch i’r cyfleusterau a ddarperir gan ganolfannau cynadledda:

  1. Logiwch ar www.Barcelona-culture.com
  2. Canolfan Gonfensiwn Rhyngwladol Barcelona (CCIB)
  3. Palau De Congressos De Catalunya

Ymchwil

Ymchwiliwch i gost y llety rhataf sydd ar gael i heicwyr am wythnos ym Mehefin

www.hotels.com