Hafanu
Beth yw Tân?
Mwg
Rhagofalon Tân
- Drysau Tân
- Cwestiwn 2
- Llwybrau Diogel
- Allanfeydd Tân
- Arwyddion
- Goleuadau Brys
- Man Ymgynnull
- Systemau Ysgeintellau Awtomatig
- Diffoddwyr Tân
Diogelwch Tân yn y Cartref
Galwadau Ffug
Llosgi Bwriadol
Tasgau
Gwefannau
Beth yw Tân?
Mae tân yn adwaith cemegol sy’n cynhyrchu gwres a golau o’r enw hylosgiad.
Er mwyn i hylosgiad ddigwydd, rhaid i WRES, TANWYDD ac OCSIGEN fod yn bresennol yn y cyfrannau cywir. Yn aml, gelwir hyn yn driongl tân.
Er Bydd hylosgiad yn parhau cyn
belled a bo’r ffactorau yma’n
bresennol. Fodd bynnag,
bydd tynnu un o’r ffactorau
yma’n chwalu’r triongl a bydd yr hylosgi yn stopio.
Sut mae tân yn lledaenu?
Mae gwres yn teithio o lefydd ble mae’r tymheredd yn isel, i lefydd ble mae’r tymheredd yn is. Dyma sy’n digwydd dim ots pa mor fach yw’r gwahaniaeth mewn tymheredd. Mae gwres yn cael ei drosglwyddo mewn tair ffordd.
- Darfudiad - Gwres sy’n lledaenu o lefel is i lefel uwch, e.e. o’r llawr i’r nenfwd neu i fyny’r grisiau.
- Dargludiad - Mae gwres yn trosglwyddo drwy wrthrych solid neu hylif. Mae metelau yn dda iawn am ddargludo gwres.
- Pelydriad - Gwres yn teithio drwy le agored. Mae defnyddiau yn cynnau pan fyddant yn cael eu rhoi’n rhy agos at ffynhonnell wres sy’n pelydru e.e. gwresogydd trydan.
Tra bydd y gyfran gywir o ocsigen a thanwydd ar gael, bydd y tân yn parhau i ledaenu.
Yn gyffredinol, mae digon o ocsigen ar gael fel arfer i dân ddigwydd, felly, o safbwynt atal tân, mae’n bwysig bod y cyflenwadau tanwydd a gwres yn cael eu cadw ar wahân neu’n cael eu rheoli.